|
|
Hong Kong - cychwyn bywyd newydd
Mae cyn gyflwynwraig 大象传媒 Radio Cymru yn cychwyn ar fywyd newydd yn Hong Kong gyda'i merch fach a'i chariad.
|
O'r diwedd - wedi'r holl siarad, paratoi, partio a disgwyl am y symud mawr - mae'r freuddwyd wedi ei gwireddu ac rwyf wedi cyrraedd lle sy'n cael ei gydnabod fel Dinas bywyd - Honkers braf!
Rhaid cyfaddef, roedd golwg ofnadwy arnaf yn cyrraedd y maes awyr ychydig dros wythnos yn ôl.
Y noson cyn hedfan trodd yr hen Chez Beks yn Canton yn fan cwrdd i ddweud ta ta wrth ffrindiau agos.
Dwi'n cofio dweud wrth mam am bump, wrth agor y botel gyntaf o Siampers, mai noson fach dawel fyddai hi gan y byddwn yn hedfan am dair awr ar ddeg gydag Ela y diwrnod wedyn.
Allwn i ddim dychmygu ymdopi â'r fenyw fach a hangover yr holl ffordd i H.K!!! Ond ymdopi fu raid!
Ffarwelio a llefain Roedd fy llygaid fel rhai llygoden fach. Braidd na allwn eu hagor wedi'r holl lefain a dweud ta ta wrth bobol sy'n rhan mor fawr o'm bywyd - yn enwedig Mam yn Heathrow.
Dwi fel arfer yn taeru bod cucumber eye pads, llwythi o moisturiser a galwyni o sudd oren yn eich galluogi i adael yr awyren megis Catherine Zeta Jones - gyda'r sbectol Gucci ddu anhepgor!
Ta beth, nid dyna ddigwyddodd y tro hwn a doedd dim amser o gwbl i gael maldod gan fy mod ar lawr yr awyren yn lliwio cylchgrawn Teletubies am y rhan fwyaf o'r daith.
Ond dyna ni -.mae'r llefain drosodd, y dagrau wedi sychu a'r direidi di dechrau yng ngwlad y teigr.
A diolch i'r drefn roedd RJ yn y maes awyr yn ein disgwyl gyda rhosyn yr un i'r merched pwysig yn ei fywyd. O, ie - a limo i'n cludo adref!!!
Y teimlad iawn Mae'n rhyfedd sut mae dyn yn medru ail gartrefu yn go gloi os yw'r ty neu ardal yn teimlo'n iawn.
Fi ddaeth o hyd i'n cartref yn Stanley rai misoedd yn ôl ond roedd gweld y lle 'da dodrefn a rhai o fy mhethau fy hun o adref o gwmpas y lle yn gwneud imi deimlo yn dwym tu mewn.
Gardd ar y to Roeddwn bron marw ishe i Ela weld y cwbl lot - yn enwedig ein to ni.
Mae'n beth anghyffredin iawn bod â gardd yn HK ond rydym ni'n ffodus tu hwnt o gael gardd fawr breifat ar y to sy'n edrych dros y môr.
A na, sai'n disgwyl i Els gwyno yn yr haf nad oes pwll nofio da ni gan nad yw'r traeth ond tafliad carreg i ffwrdd.
Dwi di amseru'r cerdded o'r fflat i'r traeth ac mae'n anodd cymryd mwy nag 30 eiliad i wneud y siwrne faith!!!!
Bois mae bywyd yn galed!!!
Petai unrhyw un wedi ceisio esbonio imi cyn cyrraedd faint o groeso fyddai'n fy nisgwyl fuaswn i byth wedi credu'r fath beth.
Gan fod cymaint o ex-patswedi ail gartrefu yn Honkers, filltiroedd ar filltiroedd i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd mae'r teimlad o gael ffrindiau sy'n deulu estynedig yn un cryf iawn.
Cefais fy ngwahodd i gymaint o bethau gwahanol - yn enwedig pethau yn ymwneud ag Els a chredwch neu beidio dwi wedi hyd yn oed ddechrau mynychu rhywbeth tebyg i Gylch Ti a Fi fan hyn yn Stanley ei hun!
Yr unig wahaniaeth yw fod Els yn canu I'm a litttle tea pot yn hytrach na Troi ein dwylo!
Diolch byth fod CD Cwm Rhyd y Rhosyn yn y fflat!
Cariad a ffrind Mae'r fenyw fach eisoes wedi ennill ei lle a chanddi Alex, tair oed o Singapore yn gariad ac Aaliah, o Bakistan yn ffrind gorau!
Ydy, mae'n cysmygu mewn cylchoedd cosmopolitaidd iawn chi'n gwybod - fel ei mam!
Er imi fabwysiadu cylch newydd o ffrindiau o bellafoedd byd mae'n braf cael cymaint o Gymru o'm cwmpas hefyd yn South Side hefyd.
Roeddwn yn gwylio gêm gyntaf Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad yn ein ty tafarn lleol ni, y Boathouse, gyda ffrindiau o Lanelli sydd wedi ail gartrefu lawr yr heol yn Repulse Bay.
Bydd rhagor o gymysgu gyda Chymru y penwythnos nesaf yn un o ddigwyddiadau mawr calendr cymdeithas Gymraeg HK - ball yng ngwesty moethus y Ritz Carlton yn Central.
Felly dychmygwch beth fyddaf i'n wneud ddydd Sadwrn ie - ychydig o retail therpay yn un o ganolfannau siopau gorau'r byd.
Wel, mae angen edrych yn knock out ar gyfer fy ymddangosiad ffurfiol cyntaf yn does???!!!
|
|