|
|
Gwanwyn wedi'r SARS
Ta ta SARS; ta ta mygydau a helo partis meddai Beks sy'n sgrifennu o Hong Kong
|
Do, fe ddaeth yn dymor y partis a'r dathlu! I'r rhai hynny ohonom sy'n byw yn Hong Kong dim ond un peth mawr sydd yna i'w ddathlu - terfyn SARS!
O'r diwedd gwnaeth y WHO ddatganiad swyddogol yn dweud ei bod hi nawr yn sâff teithio i HK ac o ganlyniad gallwch bron iawn a theimlo yr ynys gyfan yn gollwng ochenaid o ryddhad.
Sôn am wrthgyferbyniad llwyr o gymharu â chwpwl o fisoedd yn ôl.
Mygydau wedi mynd Mae'r haul yn disgleirio bob dydd a'r gwres yn y 90au a'r mygydau a ddaeth yn arwydd o'r salwch bron iawn wedi diflannu'n llwyr.
Gwn am nifer o bobol a gafodd bartioedd "llosgi mygydau"!
Paradwys i siopaholics - dyna HK ond hyd yn oed fwy felly'n awr gan fod sales anferthol mewn siopau crand fel Seibu, Lane Crawforfd sy'n cyfateb i Harrods yn Llundain gyda 30% bant.
Y bwriad, wrth gwrs, ydy annog siopwyr HK i fynychu y canolfannau siopa mawr unwaith eto wedi misoedd o gadw draw.
Ydy, mae hwn yn gyfnod bod yn ddewr a bwrw am dre. ond, yn bwysicach na hyn oll, mae pobol HK nol yn ngwneud beth mae nhw'n wneud orau - cymdeithasau.
Dim ofn Oherwydd y newid byd yma a'r teimlad fod pethau bron iawn yn "arferol" unwaith eto mae bywyd bob dydd wedi newid i ni hefyd a bellach does gennym ni ddim ofn neidio ar fws neu ar y trêns tanddaearol, MTR.
Does dim cymaint o bwysau arnom yn awr i neidio i'n cawodydd bob dwy funud ac yr ydym wedi bod yn mynychu ein hoff dai bwyta fflat out - o leia roedd SARS yn dda o safbwynt peidio â gorfwyta a goryfed yn gymdeithasol!!!
Mae Ela Mai wedi bod nôl yn mynychu ei hysgol ddwyieithog Saesneg-Mandarin ond fel gweddill y plant yn dal i gael profion tymheredd bob bore a c mae'n rhaid i bawb sy'n ymweld â'r ysgol gerdded dros fat arbennig er mwyn sicrhau fod pawb yn hollol lân.
Poeth a glawog Gan imi benderfynu cymryd time out a chael hoe fach o weithio am rai misoedd, dwi wedi bod yn gwneud yn fawr o dywydd bendigedig gwanwyn yma.
Gall Gorffennaf ac Awst fod yn eithriadol o boeth a glawog ond Mai yn draddodiadol sych a phoeth - perffaith ar gyfer rhywun fel fi sydd bellach yn "addolwr haul" proffesiynol!!!
Gan nad yw hi'n cymryd ond tua hanner munud i gerdded o'n ty ni i'r traeth rydw i ac Ela Mai wedi bod yn ymwelwyr selog â thraeth Stanley. I ddweud y gwir, mae'n gyfnod cyffrous dros ben i fod yn ymwed â'r traeth a hithau'n gyfnod rasio y dragon botas.
Bob dydd, bydded hi'n fore neu'n nos, gallwch glywed drymiau'r llongau yn cael eu bwrw a llwyth o bobol chwyslyd dros ben yn cyrraedd y lan.
Yn bersonol, allai ddim meddwl am unrhyw beth gwaeth i'w wneud na rhwyfo fflat owt yn y gwres 'ma.
Tywydd sbectol haul, Gucci, Cosmopolitan yn un llaw ac OK yn y llall ydi hwn i mi!!!
|
|