|
|
Dathlu Blwyddyn y Llew
Beks yn sgrifennu o Hong Kon ar gychwyn blwyddyn newydd y lloer
|
Ar Ionawr y cyntaf y mae'r rhan fwyaf ohonom yn cychwyn ar gyfnod newydd yn ein bywydau - yn rhoi'r gorau i smygu, ceisio colli pwsau ac ati.
Gan amlaf ni ddaw dim o'r ymdrchion hyn a'r addunedau yn deilchion mewn dim o beth.
Dyw hynny'n drafferth o gwbl fan hyn - oherwydd toc wedi Ionawr 1 daw blwyddyn newydd y lloer a chyfle newydd inni addunedu eto!
Ie, mae'n amser dweud KUNG HEI FAT CHOI unwaith eto - "Blwyddyn newydd dda i bawb".
A chroeso i flwyddyn y mochyn!!
Mae'r flwyddyn newydd hon yn cael ei ddathlu ar Chwefror 18 ym mhob rhan o'r byd lle mae cymdeithas Chineaidd gref.
Dyma ŵyl bwysicaf y calendr Chineaidd ac mae'n parhau am bythefnos.
Gydag wythnos a hanner wedi mynd rydym ni fel teulu wedi bod yn gwneud y mwyaf o'r dathlu ac fel un na chafodd ei magu yn Hong Kong mae'r traddodiadau a'r defodau yn fy niddori yn fawr.
Blas go iawn Eleni, am y tro cyntaf, rwy'n teimlo imi gael blas go iawn ar y calan Chineaidd!!! Blas yn llythrennol gan fod I dim sum fel pe byddai'n dod allan o fy nghlustiau erbyn hyn!!!
Mae'n arferiad i blant gael dillad newydd ar gyfer y flwyddyn newydd a chaniateir i lawer ohonyn nhw wisgo'u gwisg draddodiadol am sawl diwrnod cyn ac yn ystod y flwyddyn newydd.
Gan fod Ela yn berchen pum cheongsam bellach roedd hi'n anodd dewis pa un fyddai hi'n ei gwisgo i fynd i'r ysgol am wythnos gyfan!
Lliw lwcus Y lliw traddodiadol i'w wisgo ydy coch gan ei fod yn lliw lwcus.
Mae hefyd yn beth cyffredin i bobol roi haenen ffres o baent coch ar y drysau neu o amgylch y ffenestri.
Fe brynon ni sawl addurn coch traddodiadol i'w hongian ar y drws ffrynt yn ogystal â moch coch i'w hongian yn y tŷ!
Mae bwyd a bwydydd arbennig hefyd gan wneud y flwyddyn newydd yn debyg i'n dathliadau Nadolig ni yn yr ystyr bod teuluoedd yn dod at ei gilydd am brydau hir.
Bwyd llysieuol Ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn newydd mae'r bwyd bob amser yn llysieuol gan osod nod iach ar gyfer gweddill y flwyddyn!!!
Rhaid cyfaddef fod y bwyd llysieuol lleol yn safonol iawn ac ar ddiwrnod olaf tymor ysgol Ela cefais gyfle i brofi dipyn ohono ar drip ysgol i dŷ bwyta Jumbo!
Dyma dŷ bwyta mwyaf y byd ar ddŵr. Yn anhygoel, mae ei dri llawr bob amser yn llawn o bobol yn bwyta dim sum!
Pwrpas y trip oedd i'r plant flasu dim sum a bod yn rhan o'r dathliadau.
Tuedd nifer o deuluoedd gorllewinol sy'n byw yn Hong Kong yw mynd dramor dros y flwyddyn newydd gan fod cymaint o wyliau cyhoeddus. O ganlyniad mae'r plant yn dal i fwyta pasta, pizza a'u bwydydd arbennig!!!!
Roedd cynnwrf aruthrol yn yr ysgol cyn i 100 o blant rhwng pump a chwech adael am y Jumbo.
Mae'n dipyn o joban cyrraedd yno gan fod yn rhaid defnyddio cwch sampan a'r syndod yw nad oes neb wedi disgyn i'r dŵr!!!
Darnau aur Er bod y rhan fwyaf o'r plant yn gyfarwydd â'r bwydydd a gawsom y diwrnod hwnnw roedd y cyfan yn ormod iddynt a bu'n rhaid iddyn nhw adael y Jumbo a'u stumogau yn dal yn wag oni bai am ambell i lwyed o reis a nwdls!!!
Mae dumplings yn boblogaidd iawn gan fod siâp y bwyd yn debyg i "gold nuggets" a ddarganfyddwyd yn hen China.
Yn ogystal, rhaid cael fat choi, sy'n fath o wymon gan fod y gair fat choi yn swnio'n debyd i'r gair Cantonaeg am gyfoeth.
Yn ogystal, rhaid bwyta ffrwyth mandarin gan fod enw'r ffrwyth, kam yn swnio'n debyg i'r gair am aur!!!
Mae pysgod - unrhyw bysgod - yn boblogaidd ond rhaid gadael ychydig ar y plât yn arwydd ichi gael eich digoni a bod digon i ddod!!
I'r plant Yr hyn sy'n gwneud yr ŵyl hon yn debyg iawn i'r Nadolig o ran ysbryd yw mai gŵyl i blant yw hi yn bennaf gyda phob plentyn yn derbyn pecynnau lai see.
Mae'r rhain mewn amlenni bach coch sy'n cynnwys arian lwcus ... neu arian losin yn ein tŷ ni!
Yn ogystal â phlant mae menywod di briod a ffrindiau yn cael y rhain hefyd.
Derbyniodd ein plant ni 30 pecyn eleni - dechrau da i'r flwyddyn!
Bu cyfle hefyd i weld tân gwyllt anhygoel a dawnswyr llew ym mhob twll a chornel o bob stryd!
Fe wnes i wir fwynhau y flwyddyn newydd eleni ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at Flwyddyn y Mochyn - neu'r mochyn aur fel mae rhai yn ei alw - un o'r blynyddoedd mwyaf lwcus ers degawdau! Kung Hei Fat Choi!
|
|