|
|
Ar draeth gwyn y Nefoedd
Beks Walters yn edrych ymlaen at ddychwelyd i'r Nefoedd o'i chartref yn Hong Kong.
|
Dychmygwch ynys baradwysaidd. Milltiroedd o dywod gwyn. Pysgod yn heigio o'ch cwmpas yn y môr cynes. Palmwydd yn siglo'n braf yn y gwynt ysgafn. Yr haul yn tywynnu'n ddiddiwedd uwch eich pen a chithau'n edrych ar yr haul yn machlud gyda Singapore Sling yn eich llaw. Nefoedd!
A dyna'r nefoedd y cefais innau'r pleser o fod ynddi yr wythnos ddiwethaf wrth groesawu blwyddyn newydd y mwnci ar ynys anghysbell Borocay yn y Phillippines.
Mae'r enw yn dal i fy suo i gysgu nawr mod i nôl ym mhrysurdeb HK.
Tipyn o antur Mae'r daith ei hun i Borocay yn dipyn o antur. Yn gyntaf, rhaid hedfan i brifddinas y Philippines, Manila, ac oddi yno trosglywddo i faes awyr arall a hedfan ar awyren 12 sedd i bentref Catliclan.
Nid y peth doethaf i'w wneud os oes calon wan da chi gan ei bod fel roller coaster.
Wedi cyrraed Catlican gallwch weld Borocay yn y pellter gyda'r tywod gwyn fel mwclis o gwmpas gwyrdd yr ynys.
Cawsom ein tywys ar long banca wedi'i gwneud o fambw a chroesi draw i Borocay ei hun taith 20 munud.
Mae'r Bancas fel tacsis bach a dyna'r peth agosaf at dacsi a welwch chi yn Borocay oherwydd na chaniateir ceir na beiciau modur yno.
Mae'r rhan fwyaf o'r lleoedd aros, yn dai preifat a gwestai, ar y White Beach traeth 4km o hyd sydd wedi ennill gwobrau traeth mwyaf perffaith y byd.
Dydi hynny ddim yn synod gan fod y traeth fel rhywbeth allan o Robinson Crusoe. ac mae nifer o ffilmiau tebyg wedi eu saethu yno!
Cario'r bobol Wedi i'r llong angori tua chanllath o'r lan yr her ydi cario'r bobol a'u bagiau drwy'r dwr i'r traeth. Wn i ddim sut mae'r bois bach yn gallu cadw ar eu traed drwy'r dydd yn enwedig a hwythau'n cario cymaint o dwristiaid ar eu hysgwyddau.
Fel y rhan fwyaf o Asiaid, pobl fychain ydyn nhw ond yn andros o gryf.
Roeddwn i'n teimlo fel brenhines yn camu ar y traeth oddi ar ysgwydd un ohonyn nhw!
Roedd hi dipyn yn wahanol i RJ - druan ohono bu'n rhaid iddo gerdded gyda'r dwr lan at ei wregys gan gyrraedd y gwesty yn wlyb swps!!!!!
Hawdd deall pam fod y Traeth Gwyn wedi curo traethau Hawaii, Thailand, y Caribi a Tahiti a thraethau yn Awstralia.
Unwaith yr ydych chi ar y traeth mae'n anodd tynnu eich hun oddi yno, onibai eich bod am fynd i nofio yn y môr cynnes neu i nôl diod fwyaf poblogaidd yr ynys o'r bar yr enwog Mango Shake.
Bron iawn nad yw hi'n bosib defnyddio'r traeth fel fferm iechyd gan fod menywod yn cynnig masaj llawn ichi yng nghysgod y palmwydd - rhywbeth y gallwn i fod wedi manteisio arno yn ddyddiol gyda'r pris o 400 peso yn llai na £4!! Tipyn yn rhatach na'r £40 arferol yn Honkers.
Llogi llong Wedi tridiau o goginio yn y gwres a thopio lan liw haul hydrefol Honkers fe wnaethom ni lusgo ein cyrff dioglyd ar bob math o anturiaethau hwyliog ar y môr gan gynnwys sgio jet, reidio ar gefn llong fanana a llogi llong am y pnawn i'n hwylio o gwmpas yr ynys.
Roedd apêl arbennig i'r syniad o hwylio ar long fechan debyg i catemaran nes imi sylweddoli fy mod i'n debyg o gael fy nhaflu i'r môr fwy nag unwaith oherwydd nerth y tonnau.
Roedd fy nwylo yn hollol ddiffrwyth erbyn diwedd y daith o fod yn cydio mor dyn yn y llong!
Angen diogelu Ta beth, hedfanodd ein hwythnos ym mharadwys er mawr siom inni.
..Dim ond ers tair blynedd y mae trydan ar Borocay ac wrth fwynhau pryd o fwyd môr ffres ar ein noson olaf gobeithio yr oeddwn na fyddai'r ynys yn newid llawer yn y dyfodol gan fod angen diogelu ei symlrwydd, ei rhamant a'i hud.
Rwy'n dyheu yn barod am fy ymweliad nesa â'r Nefoedd.
|
|