|
|
Pen-blwydd i'w gofio i Beks
Beks Walters yn sgrifennu o Hong Kong Does dim dowt amdani, yr ydych chi unai'n berson pen-blwydd neu ddim!
|
Yn bersonol - a dwi 'n siwr na fydd hyn yn syndod i unrhyw un - dwi'n gorfoleddu ym mharatoadau pen-blwydd pobol eraill ac yn mwynhau hyd yn oed yn fwy nonsens fy mhen-blwydd i fy hun.
Mae'n hen arferiad bellach i mi ddechrau sôn gwpwl o fisoedd cyn y diwrnod ei hun am yr hyn hoffwn y'i gael - a doedd eleni ddim yn eithriad.
Rhyngddo chi a fi, dechreuais anfon ebyst gyda rhestr o'r trugareddau bychain a gymerodd fy ffansi rai wythnosau'n ôl.
Roedden wedi mwynhau gymaint droi "y tri mawr" y llynedd doedd fy nisgwyliadau ddim cymaint eleni - ond bois, cefais fy synnu a fy syrpreisio o bob cyfeiriad.
Mmmmm, wi'n lico pen-blwyddi steil HK!!!!!!!
Dechreuodd y dathliadau ddeuddydd ynghynt dros ginio merched a sawl gwydraid o vino yn fy hoff dy bwyta, The Boathouse yn Stanley.
Y peth cyfleus yw ei fod dafliad carreg o'n ty ni. Braidd yn rhy gyfleus efallai!
Gwyddwn fod Nia sydd hefyd o Gaerdydd - a David wedi trefnu trip bythgofiadwy i ddathlu eu pen-blwydd priodas ond bu bron imi daro'r llawr pan ddywedo nhw fy mod innau hefyd yn mynd ar y trip.
A sôn am drip!
A sôn am ffrindiau hefyd! Mae pawb angen ffrindiau fel Nia a David!
Doeddwn i erioed wedi bod mewn hofrennydd o'r blaen ond roeddwn i wastad ishe gweld HK o'r awyr.
Roedd yr hen faes awyr yng nghanol dre tan yn ddiweddar ac mae'n debyg eich bod bron iawn yn gallu gweld pobol yn golchi llestri yn yr high rises pan oeddech yn glanio,
Nawr, gan fod y maes awyr mas ar ynys Lantau does dim cyfle da chi weld y golygfeydd ac edmygu rhai o adeiladau ucha'r byd.
Ta beth fe welais i'r cyfan ar un o'r diwrnodau mwyaf berwedig a chlir eleni. Perffaith!
Gadawsom Victoria Harbour am bedwar ar gyfer hanner awr yn hedfan draw tuag at dde China, yn gyntaf, ac wedyn draw tuag at y parc Disney newydd sy'n agor yn 05 cyn cyrraedd de yr ynys a Stanley ein cartref ni..
Dychmygwch y pleser ar wynebau Ela ac RJ pan ffoniais i nhw o'r hofrennydd gan ddweud mai fi oedd yn codi llaw arnyn nhw yn chwarae ar y to!
Roedd yr holl beth mor afreal.
Diweddglo ac un o uchelbwyntiau'r trip i mi oedd hedfan nôl i Central a bod yn uwch na thrydydd adeilad uchaf y byd y 2.F.C ac yna glanio ar do un o westai mwyaf posh ac enwog y byd, The Peninsula, lle mae Becks a chriw Real Madrid yn aros yr wythnos hon.
Ac os yw'n ddigon da i'r Becksus yna. . .!
Wedi glanio ar do y gwesty cawson ein tywys i lawr grisiau preifat megis sêr Hollywood i'r Clipper Lounge am goctels siampên!!
Ond er cymaint oeddwn i'n dyheu am gael aros ymhlith y bobol prydferth roedd yn rhaid cael Cinders i'w gwely cyn hanner nos!
Wedi'r cyfan roedd llwyth o anrhegion i'w hagor yn y bore!!!!
Chware teg I RJ ac Ela Mai roedden nhw wedi bod yn hynod fishi yn siopa.
A do, fe dalodd yr ebyst gyda'r diwrnod yn cychwyn mewn steil gyda chacen ben-blwydd a sampyrs.
Bu'n rhaid ei throi hi yn go gloi ar ôl hynny gan fod pethau pwysig i'w gwneud fel cael y manicure-pedicure hanfodol yn fy hoff spa fel un o fy anrhegion pen-blwydd ac ag yna dal yr heidroffoil i ynys Lantau gyda criw o ffrindiau.
Mae traethau ynys Lantau yn hynod braf a'r daith gweddol hir werth pob eiliad. A'r ymweliad ag un o dai bwyta mwyaf anghyffredin yr ynys The Stoop.
Mae gan y lle yma, sydd â'i berchnogion o dde Affrica, enw da ar hyd a lled y New Territories.
Cystal y danteithion.mae'n amhosib bod yno yn am lai na phum awr!
Na, wnai ddim anghofio fy mhen-blwydd cyntaf yn HK ac rwy'n edrych ymlaen yn barod at ben-blwydd 04!
|
|