|
|
Glaw, rasus a gwersi!
Beks yng nghanol glaw mawr Hong Kong lle mae hi'n awr yn byw.
|
Daeth y glaw. Deng niwrnod di dor ohono!
Ac nid y glaw yn unig ond llifogydd,niwl, mellt a tharanau.
Taranau mor swnllyd eu bod yn cael eich deffro yn y nos a bron iawn eich gorfodi i neidio yn y gwely!
Croeso I Hong Kong ym Mehefin" yn wir fel mae sawl un wedi dweud wrthyf yr wythnos hon.
Ond diolch ir drefn mi ddaliodd y tywydd am un o ddiwrnodau pwysicaf y flwyddyn yma, gwyl Tuen Ng gwyl syn cael ei chysylltu a bwyta Zongzi (twmplinau reis) ag yn bwysicach gyda rasio cychod draig - dragon botas!
Swn y drymiau A ninnau wedi bod yn clywed swn y drymiau ers misoedd yr oedd yna gynnwrf aruthrol ar fore'r diwrnod mawr a miloedd ar filoedd o bobol yn heidio in rhan ni or ynys, Stanley ar traeth sydd tua 30 eiliad i ffwrdd!!!!
Oedd, roedd hin fishi!
Mae hin wyliau cyhoeddus yn HK ar ddiwrnod Gwyl Tuen Ng a bron bawb yn mynd i wylio'r rasio rhwng timau o bedwar ban byd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.
Fel y gallwch ddychmygu, y lle gorau i weld y rasio a chefnogi eich tîm ydi unai ar y traeth neu o gwch junk ar y môr.
Mae nifer o gwmnïau mawr fel banciau a busnesau cyfreithiol yn llogi junk am y diwrnod a'i lwytho gyda siampên a digon o fwyd i borthir pum mil gydar bwriad o eistedd yn ôl yn yfed, bwyta a - os ydych chi'n dal ar eich traed erbyn amser cinio - chefnogi eich tîm! Wedir cyfan, maen ddiwrnod hir gydar rasio yn cychwyn am wyth y bore a gorffen am tua saith y nos.
To cyfleus Doedd hi ddim yn syndod i mi ddarganfod ein bod ni yn bobol boblogaidd iawn ar ddiwrnod y rasio - dwin rhyw ame fod gan y ffaith eich bod yn medru gweld y rasio on to ni rywbeth i'w wneud â hynny!!!!
Do, fe ddaeth y criw selog draw i gael brecwast-ginio ar y to heb orfod cael eu gwasgu fel sardîns lawr ar y traeth.
Gan fod y tywydd mor boeth a chan fod ambell i wydraid o vino wedi mynd yn syth i fy mhen mi wnes i fanteisio ar ddefnyddior hamoc gryn dipyn tra'n gweithio ar y lliw haul!
Ar ôl lot o fwyta ac yfed reodd hin amser neidio ar sanpan,(cwch bach) a gwneud ein ffordd allan ar y môr i ymuno gyda chriwau gwahanol ar junks gwahanol i wylio uchafbwyntiaur rasio a chefnogi ffrindiau oedd yn chwysu ar y dwr.
Diwrnod da!
Ar redeg Ta beth er gwaethaf y glaw mae bywyd wedi bod yn mynd yn ei flaen yn Honkers a'r busnes rhedeg yma wir wedi cydio ir graddau fy mod wedi bod yn rhedeg ar hyd y traeth a thuag at Tai Tam Reservoir pan for dwr bron iawn lan at fy nghluniau!!!!
Rhaid cyfaddef, tran rhedeg gallwn glywed mam yn sibrwd Ti'n siwr o ddal niwmonia yn gwneud y fath beth tin gwybod!!!!
Maen rhaid cyfaddef mae rhywbeth cathartig iawn mewn teimlo eich bod yn brwydro yn erbyn yr elfenau a rhedeg drwyr môr!!!!
Mae rhedeg hefyd yn fy ngalluogi iI feddwl ac yn fy ysbrydolu i wneud penderfyniadau positif.
O ganlyniad i ambell i syniad a gefais tra'n rhedeg yr wythnos hon, dwi'n awr yn mynd i wneud gwaith gwirfoddol gyda plant bach Chineaidd syn dysgu Saesneg ar ynys Macau!!
Ie fi'n dysgu.
Cysyniad rhyfedd win siwr!!!
Ar Ynys Macau Traddodiad Portiwgeaidd sydd i Ynys Macau ac felly'n rhoi ymdeimlad o fod yn gyfandirol iawn yn ogystal â bod yn Chineaidd.
Maer daith yno yn awr ar y hedroffoil a dyna lle byddai i'n bwrw amdano ar fore Sul i'r Jingdou Language Centre.
Maen fwriad dar ysgol redeg gweithdai drama yno dros yr haf er mwyn meithrin a datblygu sgiliau Saesneg y plant bach Chineaidd syn mynychu'r ysgol a dwi di cytuno mynd yno i gwrdd âr criw a chynnig ambell syniad iddyn nhw!!!
Tra yn y brifysgol yn Llundain, cefais y cyfle i wneud sawl peth tebyg mewn gwersyll yn yr UD ac i ddweud y gwir, dwi wedi ecseitio'n llwyr am y peth gan fod pawb mor gadarnhaol a gobeithiol.
Ydy, maen go wahanol i ddarlledu ond hei, pam lai?!
Sôn am weld hanner Asia mewn wsnos. Ar ôl dod nôl o Macau rydyn ni bant ar wyliau i rywle dwi di bod yn dyheu ymweld ag ef ers dipyn - lle llawn cyffro.
Bangkok dyma nin dod!!!!! Oh, mae bywyd yn anodd!!!!!
|
|