|
|
Babi newydd
Mae JJ y babi newydd wedi cyrraedd cartref Beks yn Hong Kong
|
Maddeuwch fy absenoldeb dros y mis diwethaf ond trowyd byd teulu'r James ben ei waered ers dyfodiad "y dyn bach mawr!"
Wedi'r hir ymaros a'r enedigaeth ddramatig - fydde chi'n disgwyl dim llai wrth gwrs - mae Joni Teifi James wedi cyrraedd yn saff ac mae e nawr bron yn fis oed!
Fe'i ganwyd ar Fehefin 11 yn ysbyty Matilda, Hong Kong.
Fel yr oeddem ni'n tybio wedi wythnos o fynd dros y dyddiad penodedig bu'n rhaid imi gael fy 'nghymell' gan nad oedd unrhyw sôn fod y dyn bach am ymddangos ohono'i hun - tebyg i'w dad, roedd yn hapus i ymlacio a'i chymryd hi'n braf!!!
Ta beth, wedi un awr ar bymtheg o wewyr esgor, bu'n rhaid wrth emergency c- section i roi genedigaeth i Joni Teifi oedd yn pwyso 4.5kg neu 10 pwys.
Wompyn o faban da llond pen o wallt du! Cariad.
Y gwesty ar y bryn Mae'r chwe noson o aros yn y Matilda yn teimlo fel blynyddoedd yn ôl nawr ond roedd yn brofiad bendigedig bod yno yn gwella wedi'r llawdriniaeth a chlosio at JJ.
Daw'r rhan fwyaf o'r bydwragedd o Singapore, Indonesia a Hong Kong ei hun ac yr oedd yn amlwg yn syth fod ganddynt allu greddfol i ofalu am bobl.
Roedd fy mydwraig i, Angie, yn angel a theimlwn yn chwithig dros ben yn ffarwelio â hi cyn troi am adref.
Mae'r ysbyty ar dir uchaf yr ynys gyda golygfeydd rhyfeddol o ynys HK. Mae'n cael ei alw "the hotel on the hill" gan ei fod yn lle mor hyfryd.
Roedd gen i falconi i mi fy hun ger fy stafell preifat. Sôn am driniaeth pum seren!
Gan inni gael tywydd teiffŵn gyda glaw ofnadwy gydol mis Mehefin dim ond unwaith, yn anffodus, y cefais i'r pleser o eistedd ar gadair esmwyth i fwynhau'r golygfeydd gyda'r babi.
Tro nesa, byddaf yn ceisio amseru pethau'n well - hynny yw, os bydd tro nesa!
Wedi gwirioni Fel gallwch ddychmygu, mae Dad wedi gwirioni'n llwyr gyda'i fab deg pwys a dwi'n credu bod y deigryn yna oedd yn ei lygaid pan welodd Joni am y tro cyntaf yn dal i fod yna!
Yn amlwg, mae gobeithion mawr gyda ni y bydd i'r bychan yrfa fel chwaraewr rygbi i Gymru!
Mae'r corff ganddo ac ar ben hynny fe'i ganwyd yn 2005 - blwyddyn y Gamp Lawn.
Ydym, rydym ni'n gredwyr mawr mewn ffawd yn ein tŷ ni!
A sôn am ffawd, mae JJ (fel rydym ni'n ei alw) wedi ei eni hefyd ym mlwyddyn y ceiliog yn ôl y calendr Chineaidd sy'n golygu y bydd e'n gymeriad gyda chweched synnwyr, yn weithiwr caled, yn dweud ei feddwl ac yn greadur extravagant iawn!
Tybed, pwy mae e'n ddilyn fan yna te??!!
Cyn belled nad yw e'n gwario ei arian i gyd ac yn cadw ychydig i ofalu am ei fam yn ei henoed!!
Ffrindiau da Mae'r ffaith nad oes gennym deulu agos yn Honkers yn golled fawr ar adegau fel hyn ond bu ein ffrindiau yn anhygoel o gefnogol ym mhob ffordd gan brofi fod y ffrindiau rydych chi'n wneud oddi cartref yn medru bod bron mor agos â theulu.
Cawsom ein sbwylio'n llwyr ac mae Ela Mai wedi derbyn bron iawn yn un faint o anrhegion a JJ!
Ac mae'r "chwaer fawr" wedi ymateb yn anhygoel i'w brawd bach a gallaf ddweud a fy llaw ar fy nghalon na fu owns o eiddigedd.
Mae wrth ei bodd yn helpu Mam i newid clytiau, rhoi bath iddo ac yn y blaen.
Croeso adref Pan dychwelodd y ddau ohonom o'r ysbyty roedd hi wedi gwneud posteri "croeso adref" a pharatoi te parti gyda balŵns a chacen siocled!
Dyna beth oedd croeso anhygoel.
Yn amlwg mae baban newydd yn trawsnewid eich byd am gyfnod.
Gall y diffyg cwsg fod yn anodd ar adegau ond mae'r pleser o gael "bwndel" sy'n medru rhoi gwên ar eich wyneb dim ots pa adeg o'r dydd neu'r nos yw hi yn brofiad gwefreiddiol.
Mae JJ yn datblygu'n ddyddiol gan fod ar ddihun am gyfnodau hirach.
Mae hefyd yn dechrau ymateb i'n lleisiau.
Dwi di mwynhau y mis cyntaf o fywyd Joni yn fawr iawn ac os bydd y misoedd a'r blynyddoedd nesaf unrhyw beth tebyg byddaf yn fam hapus iawn!!!
|
|