大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Parti ar y naw yn dair oed
Beks Walters yn trefnu parti pen-blwydd ar y to yn Hong Kong.


Blwyddyn arall - parti arall.
A hithau'n dathlu ei thair oed cafodd Ela Mai barti buasai Brooklyn Beckham yn browd ohono!

Er, dydw i ddim yn credu y byddai Victoria yn lapio pass the parcel i 25 o blant tan ddau y bore y noson cynt.

Bellach, cafodd Els ddau barti pen-blwydd yn HK.

Roedd yr ail yn hawdd a phrin yr oedd hi'n siarad ond i ddweud wrthyf pa anrheg oedd hi ishe.

Mae'n syndod faint o newid fu yna mewn blwyddyn ac erbyn hyn, a hithau'n dair, y peth cyntaf mae'n y'i wneud hyd yn oed cyn mynd i'r ty bach neu ofyn am sudd - ydy gwisgo'i fyny.

Gwisgoedd ffansi
Mae ganddi wisgoedd ffansi yn amrywio Snow White i wrach, tylwyth teg (pedwar), Supergirl a môr leidr.

Yn wyneb hyn y petrh amlwg i'w wneud oedd trefnu parti Pirates and Princesses heb ofni o gwbl gael fy nghyhuddo o beidio â bod yn PC!

Dechreuodd y paratoadau bythefnos ynghynt prynu anrhegion ar gyfer y carry home's fel mae nhw'n cael eu galw fan hyn lle mae llawer o bethau yn Eingl Americanaidd iawn!

Pan oeddwn i'n blentyn, roeddech yn lwcus cael balwn a thamaid o gacen ben-blwydd mewn bag bach i fynd adre.

Eleni, roedd gan bob plentyn bar o chopsticks Nemo, swigod Sesamee Street, modrwy allweddau, losin, loli - a darn o gacen.

Rhaid bod yn filiwnydd i daflu parti pen-blwydd yn Honkers. Mewn nifer y bum i ynddynt cafodd y plant hyd yn oed grysau T a llyfrau i fynd adre. Ond mae'n siwr fod hyn yn wir ym mhobman bellach!

Hwyl yn y gegin
Cawsom lawer o hwyl yn y gegin wythnos y parti ac nid oes amheuaeth fod tair yn oed hyfryd sy'n sicrhau fod gennych chi rywun bach gyda chi i helpu o gwmpas y lle yn enwedig gyda'r cwcan.

Er bod y gegin yn edrych fel petai bom wedi ei bwrw erbyn diwedd y sesiwn coginio roedd Ela Mai yn wên o glust i glust a'i hwyneb yn llawn siocled a hithau'n browd iawn o'r bisgedi siâp sêr a chalonnau a'r gacen siocled roedd hi wedi'i gwneud ar gyfer y parti!

Y syniad oedd taflu'r parti mawreddog ar y to a'r peth cyntaf fore dydd Sadwrn roeddwn i , Rod ac Els yn fishi yn addurno'r to gyda balwns, posteri ayb.

Gan ei bod hi mor ddifrifol o boeth erbyn tua naw y bore dechreuodd y balwns fyrstio a bu'n rhaid imi fenthyg parasôls gan fy nghymdogion.

Gallwch ddychmygu pa mor boeth oedd hi erbyn tri o'r gloch pan ddechreuodd y parti ond roedd fy nhywysoges.

Ta beth, roedd fy nhywysoges fach yn barod i fynd ac yn edrych yn bictiwr yn eu gwisg dylwyth teg!

Roedd y plant wedi gwirioni gweld ei gilydd fel môr ladron a thywysogesau er i un orfod diosg ei ffrog wedi cyrraedd wedi i Isabel druan fod yn sâl ar ôl teithio o ynys Lama.

Fe wnaeth pawb fwyta'n anhygoel o dda gyda'r spring rolls a'r chicken satay yn mynd lawr gystal ag erioed!

Ymwelydd arbennig
Wedi'r bwyd cyhoeddais y byddai ymwelydd pwysig yn ymweld â ni - neb llai ni Dipsi o'r Teletubbies y mae Ela mor hoff ohonyn nhw!
Bu'r ymateb yn anhygoel diolch i John Davies - neu Bercoed fel mae'n cael ei alw ar ôl ei gartref, fferm Bercoed, Llandysul.

Ef yw un o ffrindiau gorau Rod ac yn un o'r best mên yn y briodas ac yn yr HK 7's gwisgodd fel Dipsi.

Gallwch ddychmygu ymateb y plant pan welon nhw Dipsi gwyrdd anferthol ar y to - rhai yn crio mewn ofn, gan gynnwys Ela, ac eraill yn rhedeg a thaflu eu hunain tuag ato a'i gusanu.

Chware teg i John doedd hi ddim yn beth hawdd bod yn y wisg drwchus na a hithau'n tua 36 gradd.

Un o'r uchafbwyntiau I mi oedd gweld Ela yn chwythu ei chanhwyllau ac, yn naturiol, bu'n rhaid canu yn Saesneg ac yn y Gymraeg gan chwythu ddwywaith.

Dwi'n credu i'r ail chwythiad na fwrw'r stwffin allan ohoni a do fe cafodd y dywysoges fach noson dda o gwsg ar drothwy ei thrydydd pen-blwydd.

Dyna ni te - dau barti pen-blwydd llwyddiannus ar y to wedi dod ac wedi mynd.

Efallai bod paratoi yn waith caled ond mae gweld y boddhad mae'n ei roi i'r rhai bychain yn fythgofiadwy.

Tybed beth fydd hi ishe wneud ar ei phedwerydd pen-blwydd? Rwyf wedi dechrau meddwl am y carry homes yn barod!






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy