|
|
Fflat newydd a buddugoliaeth
Mae Beks newydd symud i fflat newydd yn Hong Kong - a blasu ei buddugoliaeth genedlaethol gyntaf yno!
|
Dychmygwch yr olygfa ... bocsus ym mhobman yn llawn dodrefn. Gweithwyr yn rhoi toiledau i mewn. Dynion yn cyrraedd i ailgysylltu 大象传媒 Prime - sianel na allwn i fyw hebddi, gan fod teledu HK mor warthus! A minnau yng nghanol y cyfan yn teipio fy ngholofn gyntaf o'n fflat newydd ni!!
Er gwaetha'r llanast a'r sŵn mae rhyw dangnefedd yn perthyn i deipio gan fod ein cyfrifiadur ar ddesg y tu ôl i falconi lle gallaf weld fy hoff draeth, St. Stephens, i'r dde lle mae pobol yn syrffio gwynt.
Ac i'r chwith, mae golygfa hyfryd o Fôr De China.
Bydd y lle yma'n nefoedd wedi i'r gwaith gael ei gwblhau ac wedi i'r gweithwyr adael!
Er mai dim ond rownd y gornel yr ydym ni wedi symud roedd y gwaith pacio a'r annibendod cyn waethed a phe byddem yn symud ar draws gwlad - nid y profiad brafiaf pan fo baban i gyrraedd ymhen cwta wyth wythnos a'r bol yn teimlo'n fawr iawn!
Druan o Rod. Ni fum i lawer o help iddo gyda'r symud, - ond yn ôl fy arfer yr oeddwn i'n dda iawn yn gweiddi orders!
Lle drud Gan fod real estate - fel mae'n cael ei alw fan hyn - mor ddrud a HK yn un o'r lleoedd drutaf yn y byd nid oes llawer o bobol yn prynu eiddo yma.
Rhentu mae'r rhan fwyaf gan ein cynnwys ni.
Mae'r farchnad yn un anwadl iawn a phethau fel SARS a'r Asian Crisis yn medru effeithio'n fawr ar brisiau tai.
O ganlyniad, mae'r rhan fwyaf yn byw mewn fflatiau.
O ganlyniad rhaid dewis a dethol celfi'n ofalus a does dim o'r busnes "Wi'n credu nai gadw hwnna jyst rhag ofn yna.
Na, os nad oes defnydd i gelficyn caiff ei werthu ar wefan Asia Expat!!
Yn bersonol, rydw i'n berson sentimental iawn ac wedi torri nghalon sawl gwaith yr wythnos hon wrth ffarwelio ag ambell beth - a dydi'r hormonau ddim yn helpu ar adegau fel hyn yn siŵr i chi!!!!
Ta waeth, y peth pwysig yw ein bod ni "I mewn!" a dwi'n hyderus iawn byddwn yn hapus ein byd yma.
Seithfed nef! Yn ogystal â symud mae hi wedi bod yn gyfnod bishi dros ben oherwydd yr HK Sevens.
Eleni, teimlai fel pe byddai'r byd i gyd wedi glanio yn HK gan fod cwpan y byd yn cael ei chynnal yma.
Hyd yn oed ar gyfer y Sevens arferol mae'r holl benwythnos yn garnifal ond roedd eleni yn hollol anghredadwy.
Mae'n arferiad i bawb wisgo lan mewn gwisg ffansi i wylio'r gêm sy'n golygu bod y dyrfa yn gymysgedd o bob math o greaduriaid o Teletubbies i transvestites mwyaf deniadol HK.
Y South Stand ydy'r lle mwyaf gwallgof a does dim pwrpas meddwl gwisgo unrhyw beth sy'n hanner deche gan eich bod yn siŵr o adael a'ch dillad yn drewi o gwrw a Pimms!!!
Dyma lle mae ffans hard core y Sevens yn eistedd o wyth y bore tan ddiwedd y dydd gyda phethau fel peli rygbi bach a chreaduriaid gwynt o bob math yn cael eu lluchio i bobman - felly rhaid paratoi am ambell i ddamwain!
O Gaerdydd Daeth criw o ugain draw o Gaerdydd - criw Côrdydd - ac, wrth gwrs, roedden nhw'n barod am wythnos dda!
Nid yn unig roedden nhw yma i weld un o benwythnosau mwyaf cyffrous calendr chwaraeon y byd ond roedden nhw yma hefyd pan oedd Cymru'n wynebu'r Gwyddelod yn Stadiwm y Mileniwm.
Gallwch ddychmygu'r cynnwrf a'r cyffro ymysg Cymru HK cyn y gêm. Dim ond un peth oedd ar feddwl pawb - Y Gamp Lawn!
Roedd y gêm yn cychwyn am 11.30 y nos ein hamser ni - yr amser perffaith gan fod y Sevens yn gorffen gwpwl o oriau cyn hynny a phawb mewn hwyliau da wedi diwrnod o rygbi ac o gwrw!
Mae'n gwbl amhosib cyfleu sut yr oeddwn i'n teimlo fel Cymraes yn Asia yn dilyn y canlyniad ac ni allaf innau ond dychmygu y teimladau yng Nghymru.
Yn naturiol, mae teulu a ffrindiau wedi anfon papurau newydd atom ac fe fum yn darllenyr hanes ar y rhyngrwyd ac yr oedd yr hiraeth yn ddirdynnol.
Crys coch Fe gerddais i mewn i HK Stadium ar y dydd Sul wedi'r gêm gydag Ela yn gwisgo ei chrys rygbi Cymreig ac yn teimlo fy mod yn cerdded ar gymylau hudolus ... roeddwn i mor hapus ac mor browd.
Ac yr oedd hyn yn dilyn cyflwyno rhaglen radio bedair awr ar y bore Sul gyda llwyth o Gymru yn ffonio i mewn - yn dal yn gwbwl feddw!!
Mae baner y Ddraig Goch yn dal i hedfan yn browd iawn yn y fflat newydd yn Stanley HK!!!!
|
|