大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Disgwyl am y merched
Hynt y briodas:
Mae Beks Walters yn paratoi penwythnos i'w gofio ar gyfer y merched cyn priodi.

Onid ydw i'n fenyw ffodus!
Mae'n ymddangos bod dyn arall yn fy mywyd yn ogystal â Rod a hwnnw'n seleb hefyd!
Neb llai na Aled Sam!

Yn ôl y Western Mail ef yw'r rheswm y symudais i H K. Newyddion i Aled mae'n siwr!

Do bu ychydig o ddryswch a phenbleth yr wythnos ddiwethaf pan ymddngaosodd llun ohona i gydag Aled yn y papur uwchben y geiriau: "!Beks and fiancee Rod"

!Roeddwn i'n ddigon hapus i sgwennu darn i'r papur am fy symudiad i HK ond pan ddechreuais i dderbyn negeseuon testun rhyfedd o Gymru yn sôn am Aled Sam fel fy narpar wr doedd gen i ddim clem am beth yr oedd pobol yn sôn nes imi gael e- bost yn ymddiheuro o'r Mail.
Doniol!

Wythnos fflat owt
Bu'r pythefnos ddiwethaf yn un fflat owt gyda threfniadau'r briodas.

Rwyf wedi ymweld â stryd sy'n cael ei galw'n "wedding card street" gan y bobl leol.

Mae'r stryd yn nyfnderoedd Wanchai gyda llwythi o siopau yno yn gwerthu dim byd ond gwahoddiadau priodas.

Gwych os ydych chi'n Chineaidd ond heb fod cweit mor hwylus os mai gwelio ydych chi sef yr hyn mae'r Chineaidd yn ein galw ni'r gwynion

Ta beth, gan nad oes gennyf hanner digon o feistrolaeth ar Gantonaeg i sicrhau. fod yr hyn rwy'n ei ddweud yn gywir fe es â ffrind lleol gyda mi i gyfieithu.

Diolch I'r drefn, mae'r gwahoddiadau'n cael eu printio nawr.

Nefoedd esgidiau
Ar ben hyn bum mewn siop a fyddai'n nefoedd i Emelda Marcos siop sgidiau anhygoel.

Er mai'r bwriad oedd prynu ar gyfer y briodas, llwyddais i wneud hynny a mwy!

Mae'r bois yn y siop yn Admiralty yn arbenigo mewn sgidiau couture sydd fel arfer yn gopïau o sgidiau Jimmy Choo, Manolo Blanik a chynllunwyr tebyg.

Etifeddodd y brodyr y busnes oddi wrth eu tad a fu'n gwneud sgidiau fesul un ers trigain mlynedd.

Ni chymerodd ond dau funud imi ddewis; yn wir, fe wnaethon nhw neidio oddi ar y silff yn gweiddi, Pryna fi!

Wedi mesur fy nhroed o bob ongl bant a'r cynllun at y gwneuthurwyr ond yn y cyfamser allwn i ddim peidio a phrynu pâr arall ar gyfer un o benwythnosau mwyaf fy nghalendr - penwythnos fy hen!

Disgwyl ffrindiau
Rydw i ar drothwy penwythnos yr "Hong Kong hen" a'r bwriad ydi cael un penwythnos mawr fan hyn a un arall nôl yng Nghymru yng Ngorffennaf.

Rydw i'n ffodus drso ben bod dwy o fy ffrindiau agos yn dod allan i ymuno â mi a thua 15 o fy ffrindiau yn Hong kong.

Er bod teulu wedi ymweld â mi yn Hong Kong dyma'r tro cyntaf i ffrindiau ddod ac rwyf bron â marw ishe eu casglu nhw o'r maes awyr a dod a nhw nôl i Stanley i weld y fflat a threulio ychydig amser gydag Ela Mai a Rod cyn i bethau fynd yn wallgo!

Pan symudais i HK gyntaf fe wnes i ffrindiau gyda Nia o Gymru sydd bellach wedi symud i Singapore.

Er hyn, mae wedi gwirfoddoli bod yn gyfrifol am drefnu'r penwythnos i gyd ac yn nautriol, mae ambell beth mae'n gadw'n gyfrinach.
HELP!

Gwn yn barod y byddwn allan ar junk y dydd Sadwrn a'n bod yn aros mewn gwesty crand nos Sadwrn.

Er nad wyf yn hollol sicr be sy'n digwydd nos Wener a dydd Sul gallaf fod yn berffaith sicr y bydd Siampers yn llifo!

Mae rhan ohona i'n llawn panic rhyfedda a rhan arall yn meddwl, Na, mae fy ffrindiau yn fy adnabod yn ddigon da i beidio â chreu embaras ofnadwy imi neu ydyn nhw?!




asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy