|
|
SARS - yr ymateb yng Nghymru
Wedi cyfnod yng nghanol argyfwng SARS yn Hong Kong bu Beks ac Ela Mai ar ymweliad a Chymru
|
Mae'n ymddangos mai fi yw "arbenigwraig" SARS y dwyrain pell!
Fi yw'r llais a'r wyneb mae pawb bellach yn ei gysylltu â Honkersa SARS.
Wn i ddim pa mor llesol fydd hyn i'm delwedd ond beth bynnag am hynny, gyda'r sefyllfa yn gwaethygu'n ddyddiol fe wnes i ag Ela Mai benderfynu mai'r peth doethaf fyddai hedfan nôl i Brydain am gwpwl o wythnosau.
Rhaid cyfadde, bu'n braf medru diosg yr acsesori anhepgor yna o fwgwd.
Rwyf wedi arbed ffortiwn hefyd gan fod yn rhaid ichi wisgo un newydd sbon bob dydd!
Ac am y tro cyntaf erioed roeddwn yn falch o weld ac anadlu smog Llundain!
Roedd maes awyr Chap Lap Kock fel y bedd y noson roeddem yn hedfan yn ôl naws gyffrous arferol yn gwbl absennol a llwythi o deithiau wedi eu canslo.
Hunllef 17 awr Mae'r daith yn ôl a blaen rhwng 12 a 13 awr fel arfer ond oherwydd SARS mae'n awr yn cymryd 17 awr sy'n hunllef gyda plentyn 23 mis oed!
Y rheswm am hyn yw fod staff BA yn gwrthod aros yn Hong Kong ac o ganlyniad rhaid hedfan i Bangcoc yn gyntaf er mwyn newid criwiau.
Ta beth - roedd un peth cadarnhaol am y daith nid oedd yr awyren ond chwarter llawn gyda digon o le i mami ac Els symud o gwmpas.
Ymateb rhyfedd Bu'n brofiad rhyfedd bod nôl yn y wlad hon - gydag ymateb ambell i berson tuag atom yn rhyfeddach fyth!!!
Gan fy mod yn awyddus iawn i leddfu pryderon pobol fan hyn cyn cyrraedd bu Els a minnau yn gweld meddyg cyn gadael er mwyn sicrhau ein hunain ein bod yn gwbwl iach.
Ar ben hyn cawsom ein sgrinio ddwywaith ar y ffordd draw!!
Er hyn oll, mae ambell un wedi gwahardd eu plant rhag mynd yn agos at Ela ac un neu ddau wedi bod ofn dod yn agos ataf innau gan wneud hwn yn gyfnod prysur o "air kissing darling!"
Penwythnos fawr Ta beth - y peth pwysicaf yw fod y bobol yr wyf yn eu gwir garu fel fy nheulu a'm ffrindiau wedi bod yn hynod falch o'n gweld ni'n dwy, gan gynnwys Lowri, John, Joni bach a Beca.
Felly, a hithau'n benwythnos fawr i Celtic y penwythnos ddiwethaf, (Celtic V Rangers) manteisiais ar y cyfle ihedfan I Glasgow i weld fy nheulu.
Roedd hi mor braf gweld y criw yn enwedig wee Joni fel mae'n cael ei alw gan yr Albanwyr!
Mae e nawr yn dri mis oed a John Hartson, ei dad prowd, wedi cael tatw enfawr JONI ar draws ei dorso.
Roeddwn innau hefyd yn hynod falch o weld John yn edrych mor ffit ac yn deneuach nag a welais i o erioed.
Dim rhyfedd ei fod yn saethu'r goliau na i mewn ac yn chwarae ei bêl-droed gorau erioed!!!
Fel yr hen ddyddiau Ers dychwelyd o'r Alban bu fel yr hen ddyddiau i Beks ac C2 - ydw wi di bod nôl ar yr awyr yn llenwi sgidie Daf Du ac heb ddefnyddio gormod o ystyrdebau mae'n rhaid dweud ein nod ni i gyd fel un teulu mawr ar Radio Cymru a'r croeso a gefais heb os yn un hollol "gen".
SARS neu ddim, mae'r sefyllfa yn edrych dipyn well yn HK na phan adewais i ac o ganlyniad rydym ni'n dwy fach yn hedfan adre nôl - gyda'r awyren siwr o fod bron iawn yn wag a minnau'n disgwyl upgrade go dda Siampers ahoy!!!!
|
|