|
|
Yn fy Sevens nen
Beks Walters yn cael bocs yn y Sevens yn Hong Kong.
|
Mae un peth sy'n denu mwy o ymwelwyr i HK na dim byd arall - 20,000 ohonyn nhw i gyd - yr Hong Kong Sevens.
Mae penwythnos olaf mis Mawrth yn uchafbwynt i'r nifer ohonom sy'n byw yn yma ac yn ymddiddori mewn pethau ar wahân i rygbi gan gynnwys gwisgo lan, yfed pitchers o Pimms a chwrw, cyfarfod hen gyfeillion a mwynhau'r craic o weld 23 tîm o bellafoedd byd yn mynd amdani yn Stadiwm HK.
Gan nad oedd Cymru yn cystadlu eleni yr Alban oeddwn i'n gefnogi.
Bum yn ddigon ffodus i weld sawl gornest chwaraeon dros y blynyddoedd gan gynnwys Cwpan Rygbi'r Byd yn Stadiwm y Mileniwm, gemau pêl-droed rhyngwladol a gwylio John Hartson, fy mrawd yng nghyfraith, yn chwarae pêl-droed mewn sawl rhan o'r byd.
Ond gallaf ddweud â fy llaw ar fy nghalon na phrofais i erioed awyrgylch fel y Sevens!
Carnifal a pharti Mae'n gymysgedd o garnifal yn Rio, parti gwisg ffansi a chystadleuaeth rybgi.
Does dim drwgdeimlad na chwympo mas dim ond lot o waeddi, dawnsio a joio'r hwyl gyda rhai pobol wedi trefnu eu gwisgoedd fisoedd ynghynt.
Eleni gwelais griw o ferched wedi'u gwisgo fel Miss Riding Hood a chriw o fois yn eu hugeiniau yn mynd fel John Mc Enroe!
Dwi'n siwr imi weld tua 20 Teletubbie yn y South Stand heb sôn am nyrsus, doctoriaid, gofodwyr heb sôn am y miloedd ar filoedd o grysau rygbi o bedwar ban byd.
O'm cymharu â'r rhain teimlwn i'n reit gymedrol iawn yn fy ngwisg Hawaii!!!
Mewn bocs Mae fy nhad yn ddwl am chwaraeon a wastod wedi breuddwydio am fynychu'r Sevens; felly, jobin dda i'w ferch symud i HK a gallu cael sedd mewn bocs iddo am y penwythnos gyfan!!!
Mae gwylio'r gystadleuaeth "o focs" fel bod mewn byd gwahanol o gymharu â'r south Stand lle'r eisteddais i y llynedd ynghanol y peli plastig, y cwrw a'r ewyn shafio sy'n cael eu lluchio ato chi.
Camgymeriad fyddai gwisgo unrhyw beth teidi yn y fath le gan mai'r bin sbwriel yw eu tynged wedyn!
Na, os i chi'n ladi fel fi byddwch yn osgoi'r South Stand bob gafael a'i adael i'r selogion sy'n dechrau ciwio am wyth y bore.
Oes, mae colled ym mhen rhai pobol!
Ambell i drip Ond eleni cefais innau'r pleser o fod mewn bocs drwy gydol y penwythnos diolch i RJ (neu yn hytrach, cyflogwyr RJ!)
Doedd dim hyd yn oed angen symud o'r sedd i archebu jwgeidi o Pimms!
I ddweud y gwir symudais i ddim rhyw lawer drwy'r penwythnos ar wahân i ambell i drip i'r babell siampên.
Roedd hi'n hyfryd gweld ffrindiau Cymraeg oedd wedi hedfan yno o wledydd eraill yn Asia. Rhai o 'Sing', Beijing, Kuala Lumpur ac ati a gallaf gadarnhau fod y Gymraeg yn fyw ac yn iach y penwythnos hwnnw yn Stadiwm HK!
Gan i Loegr fod yn fuddugol ddwy flynedd yn olynol gallwch ddychmygu'r pwysau oedd arnynt i gael y drydedd fuddugoliaeth eleni a chyda hynny mewn golwg roedd cynrychiolaeth gref yno i'w cefnogi.
A chawson nhw mo'u siomi ac roedd rhan helaeth o'r dorf mewn perlewyg wrth i'r chwaraewyr dderbyn eu gwobrau gan neb llai na Jona Lomu!
Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Cymru yn cystadlu y flwyddyn nesa gan fod y Sevens yn gyfle mor fendigedig i ymwelwyr fwynhau Dinas y Byd ei gorau.
Dim ond un gair o gyngor - cadwch bant o'r Pimms. Diod y Diafol yw hi!
|
|