|
|
Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!
Gyda'i sioe radio ei hun, pilates a noson allan tan oriau mân y bore mae hwn yn gyfnod prysur i Beks yn Hong Kong.
|
Dwi'n credu bod hi'n saff dweud imi gael cyfnod mwyaf bishi fy mywyd yn HK dros y pythefnos ddiwethaf. Mae tri rheswm pam; radio, pilates a ffrindiau - hynny yw, y pethau cymdeithasol maen nhw'n tueddu i'w trefnu!
Ta beth, dwi ddim yn achwyn o gwbl ond yn mwynhau pob eiliad - ar wahân i drip MTR drewllyd i stiwdios RTHK (Radio Television Hong Kong) gyda'r nos! Mmmm - tybed allwn i ofyn i'r uwch gynhyrchwyr a fyddai'n bosib cael car i fy nghludo i'r stidwio??!!
Unrhyw beth i osgoi drewdod traed a cheseiliau pobol am hanner awr ar drên tan ddaear wedi diwrnod o waith !!!
Chwifio'r faner Dwi di bod yn gwneud gwaith cyflwynydd oedd bant am bythefnos yn cyflwyno a chynhyrchu sioe nosweithiol ar radio 3/RTHK.
Bu'n gyfnod od bod ar yr awyr bob nos unwaith eto gan fy atgoffa o'r dyddiau pan oedd hyn yn rhan o fy mywyd bob dydd yng Nghaerdydd.
Gan mai fi oedd yn cynhyrchu hefyd, dwi di bod yn ddigon ffodus i fedru arbrofi â cherddoriaeth newydd a chwifio'r faner dros Gymru drwy'r gerddoriaeth wych ydym ni'n gynhyrchu.
Yn anffodus, gorsaf gwbwl Seasneg - gydag ychydig o Fandarin a Chantonaeg - ydi ydy Radio 3 felly bu'n rhaid imi gadw at gerddoriaeth Eingl Gymreig y SFA, Stereophonics, Lost Prophets, Manics, Catatonia a Cherys.
A fy ffefryn ar hyn o bryd, Goldie Looking Chain.
Rwy'n clywed fod y bois yma yn gwneud dipyn o enw iddyn nhw'u hunain acw ond enw newydd iawn ydyn nhw yn HK - ond bydd hynny'n newid erbyn bydda i wedi gorffen da nhw!
Gan fod HK yn lle mor gosmopolitaidd gydag ex-pats neu gweilos yn dod o bob rhan o'r byd mae'r siart fan hyn yn llawn amrywiaeth gyda phresenoldeb cryf o Awstralia, yr Unol Daleithiau ac Ewrop ac mae'n grêt darganfod artistiaid a bandiau newydd bron iawn bob dydd.
Fy sioe fy hun Yn ogystal â'r sioe newydd rwyf hefyd wedi cael fy slot fy hun ar Radio.3 gyda sioe newydd sbon bob bore Sul rhwng naw ac un. Dim nosweithiau Sadwrn mawr bellach oherwydd gall pedair awr o gyflwyno ar eich pen eich hun deimo fel oes ac angen canolbwyntio drwy'r amser!
Hunllef llwyr i rywun gyda phen mawr!
Ta beth, rwyf wedi ecseitio'n bost gyda fy sioe gyntaf yn dechrau ymhen teirawr a minnau'n teipio hwn am chwech y bore a'r pili pala yn fy mol yn llawer rhy swnllyd!
Lleddfu poen Ond mae pethau eraill heb law gwaith. Pilates yn un!
Bum yn dioddef gyda nghefn a fy ngwddf ers blynyddoedd ac o'r diwedd, wedi sawl X ray ac MRI, dywedodd fy arbenigwr mai physio-pilates yw'r ffordd ymlaen!
Unrhyw beth i leddfu'r boen.
Felly, dwi di bod yn teithio i Central ddwywaith, dair, yr wsnos am sesiwn pilates personol gyda Roshenda.
Mae'n swnio ychydig fel triniaeth superstar mi wn - fel rhywbeth fyddai Madonna yn i wneud - ac mae'n andros o ddrud fel popeth arall yn HK. Ond dyna beth mae yswiriant meddygol yn da!
Drwy'r meddwl Mae pilates yn wahanol iawn i unrhyw ymarfer corff dwi di wneud yn y gorffennol ac yn hytrach na theimlo fy mod wedi ymlâdd yn gorfforol yn dilyn sesiwn fy ymennydd sy'n brifo wedi'r holl feddwl!
Mae'n beth od iawn ond defnyddir yr ymennydd i ddeffro'r cyhyrau sydd braidd byth yn cael eu defnyddio.
Mae fel rhoi injan newydd mewn hen gar ac rwy'n falch o ddweud mod i'n gweld newidiadau bychain yn fy osgo o flaen cyfrifiadur yn stiwdio ac ati.
Byddaf megis menyw newydd erbyn Dolig!
Gorau'r byd Ond ni fu bod yn fishi gyda gwaith a pilates yn rhwystr rhag mynd allan i fwynhau!
Mae fy ffrind Ffenging-Vietnamaeg, Thiery yn DJo'n gyson yng nghlwb 1/5 yn Wanchia - clwb tywyll, cŵl fel NY loft ac yn lle sydd wastad yn denu pobol brydferth Hokers.
A'r wythnos ddiwethaf roedd un o DJs gorau'r byd yn troelli yno!
Mae Sandy Riviera o dras Puerto Ricaidd , yn byw yn Efrog Newydd ond fwy neu lai mewn dinas wahanol bob penwythnos - Paris, Llundain, Efrog Newydd, HK!!!
Welais i erioed gymaint o bobol yn mynd amdani am 5.30 y bore! Oes, mae gan y dyn fysedd a chlustiau gwyrthiol - mae hynny'n ffaith ac wrth iddi wawrio ar fore Sadwrn poeth a minnau'n gadael gyda thraed tost dau beth oedden yn awchu amdanynt - kebab a gwely!!!
|
|