大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Beks Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Beks yn ymweld â Macau am y tro cyntaf.
ER nad oes lle'n byd tebyg i Honkers, bois bach, mae'n braf cael dianc o'r ynys yn achlysurol - a dyna wnes i ddydd Sul.

Dianc i rywle Ewropeaidd ei naws gydag adeiladau Sbaenaidd eu natur a'r strydoedd gydag enwau Sbaeaidd-Bortiwgeaidd fel Estrada Cachilas ac Avenida de Amizde.

A dim ond awr o daith sydd yna i'r lle anghysbell hwn ar yr hydrofoil o Central HK.

Na, doedd dim angen hedfan deuddeng awr er mwyn blasu'r gymysgedd o'r bywyd hwn a diwylliant Chineaidd ym Macau sy'n gymysgedd wirioneddol unigryw o'r gorllewin a'r dwyrain.

Beks Adlais o enw'r dduwies, A-Ma sydd yna ym Macau a hithau'n cael ei haddoli gan bysgotwyr o ardaloedd Guandong a Fujian yn ne China.

Taflu fy hun i'r môr
Rhyngddo chi a fi, roedd gwir angen help y dduwies arnai ar y daith draw a bu bron imi â thaflu fy hun i'r môr sawl tra gan fod dyn y tu ôl imi a dynes y tu blaen imi - yn chwydu i fagiau plastig. Pleserus tu hwnt am 8.00 ar fore Sul!

Ta beth wnaeth hyn ddim effeithio ar fwynhad criw pêl-droed ar ei ffordd i chwarae ac wrth eu boddau yn stwffio noodles a Chickens' feet i lawr eu gyddfau.

Er fy mod innau'n awr yn bwyta reis a nwdls i frecwast yn achlysurol does gen i ddim awch cael traed yn fy mol beth cyntaf yn y bore!

Gweithdai drama
Wedi'r daith anturus roedd hi'n braf cael cyrraedd tir Macau a wyneb cyfarwydd yn y porthladd yn fy nisgwyl.

Fe gytunias fynd i ysgol iaith Jindou i gynghori'r athrawon yno sut i redeg gweithdai drama gyda phlant Chineaidd lleol.

Bwraid y gweithdai ydy gwella Saesneg y plant a'u meistrolaeth o'r iaith.

Roeddwn wedi cwrdd Mary Lou, un o'r athrawon yn y coleg, droeon yn HK.

Mae ganddi hi wreiddiau Sbaenaidd-Bortiwgeaidd yn ogystal â Philipino ac felly wrth ei bodd yn dangos uchelbwyntiau'r lle imi ar y ffordd i'r ysgol.

Golff a chasinos
Os ydych chi'n berson gamblo/golffio dyma'r lle i chi gan fod yma lwyth o gasinos a rhai o feysydd golff mwyaf bendigedig y byd!

Ar fy ffordd i'r ysgol teimlwn fy mod mewn ychydig o time warp ac heb lawer o syniad ym mha ran o'r byd oeddwn i er nad oeddwn ond ychydig filltiroedd o HK.

Cefais groeso bendigedig gan y staff yn Jindou sydd yn gwybod bellach am Sali Mali gan imi ddefnyddio rhai o lyfrau Ela fel enghreifftiau o'r hyn y gallwch ei wneud â llyfrau ac ati.

Ni wyddai'r criw yr oeddwn yn ei ddysgu fod yna'r fath iaith âr Gymraeg, felly galllwch ddychmygu faint o gwestiynau gefais i dros goffi canol bore!

Sôn am Spanish inquisition!

Roedd y criw yn frwdfrydig, eiddgar, er ychydig yn swil, sy'n rhywbeth cyffredin iawn ymhlith y Chineaid.

Rwy'n gwir gredu iddyn nhw ddysgu llawer a mwynhau y sesiwn drama gan fod yna lawer o chwerthin a chymeradwyo ar y diwedd gan brofi imi wneud rhywbeth yn iawn mae'n rhaid!!!!

Bwyd traddodiadol
Wedi'r diwrnod llwyddiannus hwn roedd rhai o'r athrawon yn awyddus i ddangos eu diolch drwy goginio pryd Macaneaidd imi yn eu cartref a doeddwn innau ddim yn mynd i ddadlau ynglyn â hynny.



MacauFelly bant â fi ar y tram i dy Peggy am Galinha Africana - cyw iar o Affrica gyda pherdys (shrimps) chili Macaneaidd - un o brydau traddodiadol yr ynys.

Mae'r cyfuniad ma o fwyd Chineaidd a Phortiwgeaidd yn wych gyda tumeric, llaeth cnau coco, sinamon a balicho yn creu blas ac aroglau â fyddai'n demtasiwn i unrhyw un.
Mmmmmm!

Gyda'n stumogau mor llawn roedd yn rhaid cerdded bant rai o'r calorïau felly ffwrdd â ni o gwmpas y dre gan ymweld â rhai o'r hen adeiladau yn cynnwys yr eglwys gadeiriol a rhai o'r hen amgueddfeydd.

Diolch i'r drefn, roeddwn wedi blino'n swps ac mewn byd arall ar yr heidroffoil yn breuddwydio am y tro nesa y byddwn yn ymweld â Macau.

Lle delfrydol i ymweld ag ef pan fyddaf yn hiraethu am Ewrop!





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy