大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ela Mai yn un o westai gorau'r byd Lle mae pawb yn gwenu
Beks Walters sy'n byw yn Hong Kong yn cael blas wr fywyd gyffro Bangkok - lle mae pawb yn gwenu ond rhai o'r merched yn cael eu trin yn ffiaidd

Dim ond cwpwl o ddiwrnodau ar ôl dychwelyd o fy anturiaethau ym Macau bum ar antur arall mewn lle bishi, byrlymus, besyrc o'r enw Bangkok!

Er nad oeddwn wedi bod yn y ddinas fawr, ddrwg, hon o'r blaen yr oeddwn wedi darllen digon amdani i wybod beth i'w ddisgwyl.

Un peth oedd ar fy meddwl tra'n pacio ar gyfer ein gwyliau - a fyddai digon o le yn fy nghês ar gyfer yr holl fargeinion?

BeksNid y bargeinion yn unig ond yr holl bethau ar restr cyn hired a fy mraich a gefais gan ffrindiau yn Honkers, sy'n gyfarwydd a BK, yn cynnwys bagiau, dillad a chelfi hyd yn oed.

Bwyd a gwên
Gan ei bod yn hwyr iawn y nos arnaf yn cyrraedd BK ni chefais fawr o gyfle i baredio o gwmpas y gwesty a mwynhau moethusrwydd dihafal y Suckhothai un o westai gorau'r byd.

Mae hwn yn westy arallfydol ond mewn ffordd seml dros ben.

Does fawr o ddodrefn yn y lle a'r gair understated sy'n neidio i'r meddwl.

Serch hynny, mae popeth sy'n ymwneud â'r gwesty yn hynod o chwaethus o'r creadigaethau o flodau i'r bwyd Thai ac o'r spa gyda'r triniaethau diweddaraf i'r wên berffaith ar wynebau'r staff.

Dim rhyfedd mai fel Gwlad y Gwenau - Land of Smiles mae Thailand yn cael ei hadnabod!

Nid yn unig mae pobl Thai yn bobl serchus dros ben ond maen nhw hefyd yn grefyddol tu hwnt gan eich cyfarch yn wastad â'r wai.

Na, does dim o'r busnes siglo llaw 'ma yn mynd ymlaen nac air kissing y gorllewin!

Y wai ydy'r dull arferol o gyfarch sef gosod eich dwylo gyda'i gilydd fel pe byddech chi'n mynd i weddïo gan edrych ar y person yr ydych yn ei gyfarch!

Roeddwn i'n hen law (!) arni o fewn ychydig oriau.

Mae sawl ffordd o deithio o gwmpas y ddinas ac fe ddewisodd Ela a minnau y Sky Train a'r tuk tuks sef tacsis bychain rhad sy'n gyfuniad o feic modur a Robin Reliant. Hwylus iawn yn y traffig trwm os nad oes gormod o siopa 'da chi!

Mae Ela nawr a'i bryd ar deithio mewn tuc tuc drwyr amser ac mae'n anodd iawn ei chael i ddeall pam nad oes yna rai yn HK.

Paradwys Meistres y Fargen
Sôn am siopa. Dyma baradwys Meistres y Fargen ac wedi 24 awr o grwydro gwahanol farchnadoedd cefais ffrog mewn defnydd sidan-Thai a honno wedi'i chynllunio a'i chreu yn arbennig i mi.

Dwi'n tybio y buasai ffrog debyg wedi costio tua $2000HK ond dim ond tua £50 oedd y greadigaeth binc a brynais i yn steil ffrog draddodiadol Thai!!!!

Llu o farchnadoedd
Mae llu o farchnadoedd yn BK a'r rheini yn arbenigo mewn meysydd gwahanol; gwaith arian, gemwaith, sidanwe Thai traddodiadol, hen gelfi, mapiau, pren. - mae'n rhestr ddiddiwedd.

Diolch byth fod gennym ni gynllun go lew pa farchnadoedd i'w bwrw neu fe fyddem ni'n dal yno yn crwydro'n ddiamcan! O ganlyniad i fy ngwaith ymchwil trwyadl yn pori drwy lyfrau am BK cyn cychwyn fe ddychwelon ni adref gyda set o gyllyll a ffyrc hynod wahanol, dillad galôr, a chelfi fel sun loungers - y gellid eu defnyddio pe na byddai hi mor boeth yn HK!

Wrth gwrs doedd yna ddim lle i lawer o'r pethau hyn ar yr awyren felly maen nhw yn howld rhyw long ar hyn o bryd - gobeithio!

Gorffwys ac ymlacio
Wedi'r holl chwilota am fargeinion braf oedd cael gorffwys fy nhraed bach yn y Suckhaothai gyda'i spa arbennig ymhlith y gorau yn Asia.



Ela yn un o westai crandiaf y bydDewisais i y driniaeth Thai massage gan wisgo pyjamas Thai pwrpasol ar gyfer y driniaeth -

a gweddïo na fyddai neb oedd yn fy adnabod yn fy ngweld.

Diolch i'r drefn dim ond Ela welodd mami yn edrych fel lemwn!!

Wedi ychydig o orffwys ger y pwll a nofio a bwyta llawer gormod o Red Curries - fy hoff gyri o Asia - roedd hi'n amhosib gadael y ddinas fawr ddrwg heb brofi ychydig o fywyd drwg y nos a chlybio tan oriau mân y bore.

Bywyd du merched y nos
Mae bywyd nos BK yn agoriad llygad ond nid yn rhywbeth ar gyfer y gwangalon.

Gyda llawer ohono yn danddaearol iawn mae'n gas gen i orfod dweud fod llawer o ferched ifanc iawn yn cael eu camddefnyddio yn y ffyrdd mwyaf ffiaidd.

Mae mor hawdd peidio â bod yn wrthrychol am yr holl beth a chael eich ypsetio gan yr hyn a welwch ond, wedi'r cyfan, dyna fywyd sbo ac mae'r un fath yn y rhan fwyaf o ddinasoedd mawr y byd.

Yn sicr, bu fy ymweliad cyntaf â Gwlad Thai yn agoriad llygad ac mae gen i atgofion hynod felys a chyffrous o BK fel y daith i lawr Afon y Brenhinoedd mewn longboat, te traddodiadol yng ngwesty crand y Penninsula, treulio llwyth o amser yn ceisio esbonio i Ela pam fod eliffantod yn mhobman! - un o symbolau traddodiadol Thailand.

Mae BK yn lle hynod gyffrous gyda phob math o bethau ar gyfer pob oedran a'r bobol ymhlith y rhai cleniaf yn y byd.

Yn ffodus rwy'n bwriadu dychwelyd yno fis Hydref ond bydd angen cynllunio'n fanwl ar gyfer hynny!




asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy