大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gloran
Geraint Cynan Holi Geraint Cynan
Chwefror 2006
Sesiwn cwestiwn ac ateb gyda'r cerddor sy'n wreiddiol o Dreorci.
Pryd a ble y cawsoch chi eich geni?
Yn 1 Stryd Hermon, Treorci, 20 Mehefin, 1961. Dw i ddim yn si诺r pryd - ond efallai yng nghanol y nos!

Beth oedd cefndir eich teulu?
Cymysgedd o addysg a cherddoriaeth. Mam a Dad yn athrawon ac etifeddais fy ngallu cerddorol o'r ddwy ochr.

Ble cawsoch eich addysg?
Yn Ysgol Ynys-wen, Treorci ac wedyn yn Rhydfelen.

Oedd unrhyw athrawon yn ddylanwad arnoch?
Fel pawb a basiodd drwy Ynys-wen, mae'n amhosibl peidio a s么n am Meirion Lewis. Ac yn Rhydfelen, yr enwog Tom Vale!

Beth wnaethoch chi ar 么l gorffen eich addysg ffurfiol?
Cwympo i ddwylo'r diwydiant cerddorol rywsut. Atebais alwad ff么n i weithredu fel Cyfarwyddwr Cerdd i Theatr Crwban yn Aberystwyth. Deuddeg wythnos o theatr mewn addysg ac yn syth wedyn i gytundeb arall gyda Theatr Cymru. Digwyddodd hynny yn Hydref 1983 ac rwy'n dal i fyw bywyd freelance hyd heddi'.

Eich cartref a'ch teulu ar hyn o bryd?
Yn byw yn Yr Eglwys Newydd, Caerdydd gyda 'ngwraig, Lowri sy'n bennaeth ar yr Adran Ddrama yn Llanhari. Mae gennym dri o blant, Dyfed (15), Miriam (12) ac Aron (8) sy'n cadw `ngwallt yn wyn!

Ydych chi 'n dod n么l i'r Rhondda weithiau?
Ddim mor aml a hynny'r dyddie 'ma - ond mae'r croeso yr un mor frwd ag arfer pan fydda' i n么l.

Pryd a pham y dechreuoch chi ymddiddori mewn cerddoriaeth?
Yn ddiarwybod tra yn ifanc, si诺r o fod - cofio canu yn y capel / eglwys yn ifanc. Dw i'n credu i fi ddechre cael gwersi piano 'da Bryn Samuel yn saith mlwydd oed.

Beth yw eich gwaith nawr?
Rwy'n gyfarwyddwr cerdd a chyfansoddwr - ond fel y rhan fwya' o rieni erbyn hyn, yn yrrwr tacsi, cogydd a g诺r t欧^ effeithiol hefyd.

Pa fath o gerddoriaeth ydych chi'n hoffi gwrando arni?
Dewis eitha eclectig a dweud y gwir. Popeth o ganu gwerin i gospel a jazz. Fy hoff gyfansoddwyr yw Endaf Emlyn, Delwyn Sion a Sian Aames yn y Gymraeg a Bruce Hornsby, Randy Newman a James Taylor yn yr iaith fain.

Pa ganghennau eraill o'r celfyddydau sydd o ddiddordeb i chi?
Rwy'n mwynhau'r theatr, yn enwedig theatr Americanaidd. A does dim fel clywed cerddorfa yn ei holl ogoniant.

Pa bobl ddiddorol rydych chi wedi dod ar eu traws drwy eich gwaith?
Bryan Davies, y cyfeilydd anfarwol o'r Rhondda, Stewart Jones yr actor, y diweddar Tich Gwilym (ffrind a chydweithiwr) a'r anhygoel Dewi Pws. Hefyd, teithio'r holl ffordd i Tokyo a chwrdd a chadeirydd Cymdeithas Cymry Japan... a darganfod ei bod wedi ei geni yn yr un strad 芒 dad yn Y Pentre! Mae'r byd yn fach IAWN ar adegau!

Beth yw eich gobeithion mewn perthynas 芒'ch maes arbennig yng Nghymru?
Chwyldroad yn ymddygiad uchel swyddogion Canolfan y Mileniwm i' w gweld yn rhoi chwarae teg i artistiaid o Gymru. Hoffwn weld chwalu'r ddelwedd ystrydebol mai dim ond corau meibion a thelynau sy'n nodweddu ein diwylliant. Mae gennym lawer mwy i'w gynnig.

Beth ydych chi'n hoffi ei wneud yn eich amser hamdden?
Dilyn chwaraeon o bob math, yn enwedig rygbi, criced a ph锚l-droed Americanaidd. Dal i chwarae criced i'r capel - gobeithio mynychu'r cwrs golff yn fwy eleni! Rwy wrth fy modd yn ymlacio yn y gegin. Gwrandawr radio brwd.

Sut ydych chi 'n hoffi byw mewn dinas?
Ry'n ni'n ffodus i fyw mewn dinas sy'n fyrlymus ar hyn o bryd ac yn cynnig pob math o freintiau cymdeithasol. Mae hi hefyd yn gyfnod da i fod yn Gymro yn y ddinas. Mae mwy o deimlad cymuned bentrefol 'da ni yn yr Eglwys Newydd gan fod cynifer o Gymry o fewn ein milltir sgw芒r. Mae'r plant yn cerdded i'r ysgol gyda'u ffrindiau'n ddyddiol. Mae Llwybr Taf / y Taff Trail yn ein galluogi i feicio i lawr i'r Bae. Digon o amrywiaeth.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy