Ar adeg y Nadolig fel hyn, braint yw caei cyhoeddi detholiad bach o englynion athrylithgar y bardd o Dynewydd a cheisio gweld gwir arwyddoc芒d yr 诺yl trwy ei lygaid ef. Nadolig Er llawenydd i'r llinach, i feudy o fyd fe ddaeth bellach Y Duw byw yn blentyn bach Na welir ei anwylach. Ymson Mair Heno datgelwyd i minnau paham Y mae pen y bryniau Oll yn oll yn llawenhau, - Mae'r achos yn fy mreichiau.
Wrth i'r Crud Mor fwyn ydyw'r w锚n ar wyneb em Duw; Mae'n dalp o anwyldeb, Yn gariad er nad oes neb Yn brysio at ci breseb. Ymson Mair Os dof i Ddinas Dafydd anghofiaf fy ngofid a'm cystudd yn y fan, a 'nghwpan fydd yn llawn, yn llawn llawenydd.
|