大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gloran
Tom Jenkins o Ynyswen Hunangofiant Gl枚wr
Ionawr 2007
Mae Tom Jenkins, Ynyswen yn cofio'n 么l i ddyddiau y pyllau glo; y rhyfel, y papur newydd a ddefnyddid fel papur t欧 bach, y 'losin-nos-sul', y tlodi, yr hwyl a'r chwerthin ...
Hunangofiant Gl枚wr: Rhan 2
Hunangofiant Gl枚wr: Rhan 3
Hunangofiant Gl枚wr: Rhan 4
Hunangofiant Gl枚wr: Rhan 5
Hunangofiant Gl枚wr: Rhan 6

Dyddiau Cynnar 1928-1934
Fe'm ganed dan olau nwy mewn stafell wely ffrynt yn Nhon Pentre ym mis Tachwedd 1928 a'r stryd dan eira. Gan fod 'na broblemau, doctor y pwll glo yn hytrach na'r widwith oedd yn goruchwylio'r enedigaeth. Dr Fergus Armstrong a drigai yn Gilnockie, Treorci [ar safle'r Llyfrgell bresennol] oedd y g诺r hwnnw. Roedd e' n llawfeddyg o fri, yn Sgotyn di-lol, braidd yn swrth a oedd wedi gwasanaethu'n anrhydeddus fel swyddog meddygol yn ystod y Rhyfel Mawr. Doedd dim angen poeni, roeddwn mewn p芒r saff o ddwylo! Ac yntau'n l枚wr, roedd fy nhad wedi cyfrannu 3 ceiniog o bob punt o'i gyflog isel i gael gwasanaeth meddyg, moddion a rhwymau. Yn y dyddiau pell yn 么l hynny cefais lawfeddyg o'r radd flaenaf i ddod 芒 fi i mewn i'r byd - a hynny am 9 ceiniog!

Gl枚wyr oedd 'nhad, fy nhad-cu a'm hen dad-cu gydag un tad-cu yn dechrau gweithio yn y pwll glo yn ddeg oed. Fe'i tynnid o'i wely cyn i'r wawr dorri a'i gario ar ysgwydd ei dad i waelod y pwll, ac yntau'n aml yn dal i gysgu, i weithio am saith neu wyth awr ond i'w dad allu dramaid ychwanegol o lo. Bu farw'r bachgen hwn, fy nhad cu, o'r dicai (T.B) yn 1904 pan oedd ond yn 43 oed gan adael fy mam-gu yn weddw a chanddi chwech o blant i'w codi.

Dechrau Gwaith
Dechreuodd 'Nhad weithio yn y pwll glo yn 13 oed. Trowsus oedd amdano' n mynd i'r gwaith ond gwisgai drowsus byr ar 么l dod adre. Wedi'r cyfan, doedd e ond yn grwt! Pan oedd yn fachgen ysgol, roedd 'Nhad yn byw yn eithaf agos at Mabon, William Abraham A.S. a bwysai 23 st么n. Cai help criw o fechgyn o'r ysgol leol i gyrraedd ei gartref a oedd ar ben tyle serth yn Y Pentre. Adeg y Nadolig cai'r bechgyn hyn eu gwobr ganddo sef pisyn tair arian ac oren. Wrth i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau, dywedodd 'Nhad gelwydd am ei oedran er mwyn ymuno 芒'r fyddin. Ymladdodd yn Ypres, Verdun a'r Somme a chael ei anafu dair gwaith wrth iddo wasanaethu'r Machine Gun Company.

Y Cartref
Roedd pump ohonom yn byw yn ein cartref distadl, sef Mam a 'Nhad, Mam-gu, hen ewyrth (brawd Mam-gu) ac ewyrth, brawd Mam. Collodd fy hen ewyrth un o fysedd mawr ei draed o ganlyniad i ddamwain gafodd tra ar drip Ysgol Sul i Aberafan. Tynnai fy nghoes am hyn gan honni bod pysgodyn danheddog, cas wedi ei gnoi. Cyfeiriem bob amser at fy ewyrth fel y lodjyr, ond fe'i gelwid yn 'Bates' gan bawb arall. Roedd ef hefyd wedi ymladd yn y Rhyfel Mawr a llwyddo i ddod trwy sawl brwydr yn ddianaf. Fodd bynnag, y tro cyntaf iddo ddod adref ar lif o Ffrainc, fe benderfynodd ddathlu ei lwc dda trwy feddwi ym Mhontypridd ar y ffordd n么l i'r Rhondda. Cafodd help i ddal y tr锚n olaf un adref ond wrth iddo ddisgyn yng ngorsaf Ystrad, fe gwympodd a thorri ei goes. Fe'i cariwyd yn 么l i'n t欧 ni ar stretsiyr. Aeth e drwy'r Rhyfel yn ddi-hap dim ond i gael ei anafu ar stesiwn Ystrad!

Cafodd Mam-gu str么c yn fuan ar 么l i 'Nhad-cu farw, 24 blynedd cyn fy ngeni, ac ar ben ei cholled bu rhaid iddi ymlafnio i fagu chwech o blant ifainc. Dyna pryd daeth ei brawd (fy hen ewyrth) i'r adwy. Collodd ef ei wraig a phlentyn ychydig o flynyddoedd cyn str么c Mam-gu. O weld trafferthion ei chwaer, gwerthodd ei d欧 ei hun a dod yn benteulu, yn dad ac yn dad-cu ar ein cartref ni. Roedd e wedi ymddeol o'r pwll ychydig cyn i fi gael fy ngeni ac roedd yn 68 oed, wedi ei eni yn 1860.

Roedd yr hen ewyrth hwn yn uchel ei barch. Yn ein cartref roedd hen gadair freichiau bren a elwid yn 'gadair Wncwl Tomi' a chai neb eistedd arni ar wah芒n iddo fe. O ganlyniad i'r str么c, collodd Mam-gu ei gwallt, ond trwy drugaredd fe dyfodd yn 么l, a chydag amser adferwyd ei nerth hefyd. Roedd hi'n wraig fonheddig o'r iawn ryw!

Dechrau'r Ysgol
Es i'r ysgol yn 3 oed yn Y Gelli. I nodi'r achlysur nodedig hwn roedd yn arfer i bob plentyn gael tynnu ei lun mewn bwth enfawr ychydig tu fa's i glwydi'r ysgol. Un o bleserau mwyaf fy mlwyddyn cyntaf oedd cael chwarae 芒 chlai plastisin a chreu anifeiliaid, llongau a phobl. Mae llawer o'r profiadau o'r cyfnod hwn yn dal yn fyw yn y cof. Er enghraifft, byddwn yn rhoi gwerth dimai o sherbert mewn glasaid o dd诺r a thrwy ryw ryfedd wyrth ei droi yn Lemon锚d!

Cof gennyf hefyd am ewyrth o Gwmparc a alwai yn ein t欧 ni bob nos Sul ar 么l y cwrdd. Yn ddiffael, deuai 芒 bagaid o losin dant yn unswydd i Mam-gu. Ond gwyddwn yn iawn y cawn si芒r a chymaint oedd fy awydd i flasu'r losin-nos-Sul nes imi ddechrau meddwl amdanynt rywbryd ar nos Wener! Cristion ail anedig oedd Mam a oedd wedi ymadael 芒'r capel Bedyddwyr lle y cafodd ei magu yn 1921. Ar y pryd, roedd yr efengylydd Pentecostaidd, Stephen Jeffries, yn cynnal cyfarfodydd yn Y Gelli ac awgrymai i'r dychweledigion ymuno 芒'r Eglwys Bentecostaidd. Cofiaf weld y bugail Pentecostaidd yn ymweld 芒'n cartref pan oeddwn yn grwt bach a minnau'n ei alw yn Iesu Grist!

Yanrhegion Dirwasgiad
Dyma flynyddoedd y Dirwasgiad. Roedd fy nheulu'n falch ond yn hynod dlawd. Doedd dim s么n am ystafell ymolchi, t欧 bach dan do, peiriant golchi, gwres canolog na charpedi gosod yn ein t欧. Yr unig sebon oedd ar gael oedd sebon coch carbolig, ac yn y t欧 bach defnyddiem sgwarau o bapur wedi eu torri'n ofalus a siswrn o hen rifynnau o'r South Wales Echo. Darnau o gydau fflwr wedi eu golchi oedd ein neisiedon. Fy hoff bryd o fwyd oedd cinio dydd Gwener - cig moch a thomatos tun o'r Co-op lleol gyda phwdin bara i ddilyn. Papurau newydd gl芒n oedd ein lliain bord ac fel arfer ar ddydd Gwener bwytai 'Nhad a f'Ewyrth gyda ni fel dau ddyn du a llwch y pwll glo yn dal ar eu hwynebau ar 么l gorffen y sifft.

Gan Tom Jenkins, Ynyswen. Wedi ei olygu gan Hugh Davies.


Coal House
Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy