大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gloran
Mrs May Jenkins Portread: Mrs May Jenkins
Hydref 2006
Sgwrs gyda Mrs May Jenkins o Dreorci, sy'n 93 oed yn olrhain hanes ei phlentyndod yn yr ardal a'r newidiadau a welodd yn ystod ei bywyd yn y dref.
Mae Mrs May Jenkins, Heol Glyncoli, Treorci yn 93 oed. Y mis hwn, mae hi'n rhannu rhai o'i phrofiadau a darllenwyr Y Gloran.

Dywedwch rywbeth am eich teulu
Ron i' n un o 10 o blant - 7 bachgen a 3 merch. Erbyn hyn, dim ond Ben (97 oed), sy'n byw yn Y Barri, a minnau (93 oed) sydd ar 么l. Daeth 'Nhad i Dreorci o Gwmsychbant, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin i weithio ym mhwll glo Abergorci a dilynodd ei frodyr ef, Ben a William i'r 'gweithie'. Un o'r Rhondda oedd Mam.

Roedd eich tad yn ddyn diddorol
Oedd. Cafodd e droedigaeth yn Niwygiad 04/05. Cyn hynny, bu'n smocio ac yn yfed ymhlith pethau eraill, ond ymaelododd yn Hermon adeg y Diwygiad a'r capel fu canolbwynt ei fywyd ar 么l hynny. Yno cafodd gyfle i ddatblygu ei ddiddordeb yn y ddrama a bu' n aelod o Gwmni Hermon a enillodd y brif wobr am actio drama yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli yn 1925.

Ond roedd yn flaenllaw yn y pwll glo hefyd
Oedd. Adeg streic 1926, fe gollodd ei swydd am feiddio siarad dros ei gyd weithwyr a dyna pryd y dechreuodd droi at arddio ar ei 'lotment ger y Pengelli i sicrhau bwyd i'r teulu. Roedd yn un o'r rhai ddechreuodd trefnu cegin gawl yn Ysgol Treorci a chael y bwtseriaid lleol i gyfrannu esgyrn a sborion cig er mwyn sicrhau bwyd i'r plant. Ond roedd rhaid i fi a fy mrodyr a chwiorydd fod ar ddiwedd y gwt bob tro rhag i neb ddweud ein bod ni'n cael ein ffafrio!

Roedd bywyd yn galed
Oedd, wir. Pan ges i fy ngeni yn 1913, Mam oedd un o'r rhai cyntaf i dderbyn yr 2/6 gan Lloyd George ar em plentyn. Ond er iddi gael 10 o blant, dim ond ar gyfer un y gallai hi hawlio'r hanner coron! Nhad oedd llywydd olaf y Rechabiaid yn yr ardal ac roedd cymdeithasau elusengar o'r fath yn fendith i lawer o bobl yn eu tlodi.

Ydych chi 'n gweld Treorci wedi newid ryw lawer?
Newid? Dwi'n cofio'r hewlydd heb darmac arnynt a cheffylau yn hytrach na cheir yn mynd hyd-ddyn nhw. Byddai pobl yn taflu cols a lludw ar wyneb yr hewl a dw i'n cofio'r stablau y tu 么l i'r Lion yn llawn o geffylau ar noson waith. Roedd gof wrth ei waith ar waelod Stryd Senghennydd. Coop y Ton a Threorci, Peglers, Thomas & Evans a Melias oedd y prif siopau a byddai ceffyl a chart Thomas & Evans yn dod o gwmpas yn gwerthu pop bob nos Sadwrn.

Ond roedd y Sul yn bwysig?
Yn sicr. Doedd dim gwaith yn digwydd ar y Sul. Byddai'r bwyd i gyd wedi ei baratoi ddydd Sadwrn a byddem yn y capel dair gwaith, o leiaf. Byddai'r diaconiaid a'r gweinidog yn cynnal oedfa ragbara卢toawl cyn oedfa 10.30 ac wedyn ysgol Sul ac oedfa'r hwyr ym aml iawn, Ysgol G芒n! Cerddorfa oedd yn cyfeilio yn Hermon a Howells yr Ysgolfeistr yn godwr canu ar y galeri.

Doeddech chi ddim yn cael chwarae ar y Sul.
Na, roedd rhaid inni fihafio. Rwy' n cofio imi unwaith gael chewing gum gan rywun a dechrau ei gnoi yn ystod oedfa'r hwyr. 'Oes rhywbeth yn dy geg?', gofynnodd Mam. 'Nac oes', atebais a cheisio cuddio fy mhechod! O'n blaen yn y capel, eisteddai Mrs Davies, Myrtle Grove, Y Pentre, ac am ei gwddf gwisgai boa ffwr crand. Yn slei fach, pan nad oedd Mam yn edrych, dyma fi' n cuddio'r gwm yng nghanol y ffwr, a doedd neb yn gallach!

Roedd rhywfaint o sbort yn y capel, felly?
Oedd. Ar ddiwrnod y Gymanfa, byddai plant Hermon yn ymgynnull o flaen y capel ac yn gorymdeithio trwy'r dref y tu 么l i faner yr Ysgol Sul. Roedden ni wrth ein bodd. Teimlem fel tywysogion! Ac roedd crefydd yn bwysig ar yr aelwyd. Feiddien ni ddim dechrau bwyta cyn i 'Nhad offrymu gras a byddem ni'r plant i gyd yn sefyll pe deuai gweinidog neu athro i'r t欧^. Dyna rywbeth na welwch chi'r dyddiau hyn.

Mae eich teulu bron i gyd wedi byw yn hir. Beth yw'r gyfrinach?
Bwyd plaen da a gwaith caled! Roedden ni i gyd a'n ddyletswyddau yn blant a doedd dim maldod!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy