大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gloran
Llun o Ivor Rees yn fachgen Hanes Ysgol Penyrenglyn
Chwefror 2010
Hanes y Parch Ivor Rees yn ddisgybl yn Ysgol Penyrenglyn
Daeth y rhyfel a newidiadau eraill yn ei sgil. Roedd angen gofalwyr yn yr ysgol bob nos rhag ofn i fomiau tan ddisgyn arni, a Mr Pugh oedd yn cadw trefn arnynt. Cefais fy anfon unwaith at y gofalwyr, hen ddynion oedd yn byw yng nghyffiniau'r ysgol, a Nhad-cu yn eu plith, i ddweud wrthynt pa bryd i ddod i gasglu eu tad. Cafodd dosbarth o blant o Lundain ei ddanfon atom ynghyd a'u hathro. Yn rhyfedd lawn, dyma oedd ysgol fy Ewyrth Tom cyn iddo gael ei alw i'r fyddin.

Cafodd un o'n hathrawon ei alw i'r fyddin a rhaid oedd ad-drefnu ar frys. Gwyddom fod rhywbeth o'i le pan fyrstiodd Mr Evans 'Slashback' [Brilliantine ar ei wallt] i mewn i'r dosbarth mewn tymer wyllt. Edrychodd Mr Pugh arno'n syn gan ddweud, "ydych chin ymwybodol bod arholiad yn cymryd lle yn y stafell hon?" Ymddiheurodd y llall ac ymadael. Enillodd ein harwr y frwydr and collodd y rhyfel. Unwyd y ddau ddosbarth gyda Mr Evans yn athro arnom. Daeth chwyldroad i fywyd bechgyn Mr Pugh gan taw Saesneg a rhifyddeg oedd unig destunau'r wythnos o hynny allan a llawer llai o chwerthin. Dim and arholiadau'r Ysgoloriaeth oedd yn cyfrif nawr.

Daeth diwrnod mawr Y Scholarship ym mis Mawrth, 1942. Trefnwyd desgiau ar ein cyfer yn neuadd yr ysgol a bu tawelwch mawr. Roedd papurau mewn rhifyddeg feddyliol, rhifyddeg a dewis o bapurau Cymraeg a Saesneg, ill dwy ar yr un daflen. Ches i fawr o drafferth gyda'r rhan fwyaf o'r papur Saesneg, and roedd angen imi ateb un cwestiwn arall. Am ryw reswm, edrychais dros y cwestiynau Cymraeg a cheisio ateb un - llanw bylchau a'r gair lawn. Un ohonynt oedd,'Y mae fy nhad yn gweithio yn y .....' Ond beth? Sgrifennais 'colieri'. Ces i bryd o dafod gan Mam am imi beidio a rhoi 'pwll glo'. Ond sut oeddwn i wybod hynny?

Roedd gan y Rhondda ddwy ysgol sir yn y Porth, un i fechgyn ac un i ferched, y drws nesaf i'w gilydd and a llen haearn rhyngddynt. Cai'r ddwy eu rheoli gan fyrddau llywodraethol oedd yn atebol i Gyngor Sir Morgannwg. Yn ogystal, roedd gan Awdurdod Addysg y Rhondda ysgolion eilradd cymysg - hynny yw, gramadeg- yn y Pentre, Tonypandy, Ferndale a'r Porth yn ogystal ag Ysgol Dechnegol yn Llwynypia i fechgyn dros eu 13 oed. Byddai'r bechgyn a'r merched a'r marciau uchaf yn derbyn dau lythyr trwy'r post, un gan y cyngor sir yn cynnig lle yn yr ysgol sir a'r llall gan yr awdurdod addysg lleol yn cynnig lle yn yr ysgol eilradd agosaf. Tua 1200 o blant y Rhondda eisteddai'r arholiad yn flynyddol. Ym mis Mawrth 1942 roedd tua 30 o blant yn sefyll yr arholiad a phob un yn llwyddo. Bechgyn Penyrenglyn hawliodd y tri safle uchaf a chafodd wyth le yn yr ysgol sir, saith ohonynt yn y ffrwd uchaf. Yr arfer oedd danfon y canlyniadau trwy'r post a mawr oedd y cynnwrf yn yr ysgol pan gyrhaeddodd rhai bechgyn 芒'u llythyrau yn eu llaw. Cafodd y lleill ohonom ein hanfon adre'. Fy nghyfnither Letty agorodd y drws gan fy nghodi yn ei breichiau tra cyhoeddai gwen a dagrau Mam fod rhywbeth da wedi digwydd. Roeddwn yn rhif 17 ar restr yr ysgol sir a rhif 14 ar gyfer Ysgol Ramadeg y Pentre. Trannoeth yr Arholiad Ym Mhenyrenglyn cafwyd diwrnod o wyliau i ddathlu'r fath lwyddiant - and byr fawn fu'r dathlu. Y bore trannoeth, cyhoeddodd Mr Evans ei fwriad i ddechrau ar wersi algebra i'n paratoi ar gyfer ein hysgolion newydd. Yn unfrydol, gwrthododd y dosbarth weithio. Roedd ein hathro a'n prifathro wedi ein cymell i weithio'n galed ar hyd y flwyddyn gan addo amser hamdden hyfryd inni wedyn. Roedden ni wedi cadw ei rhan ni o'r fargen. Aeth y dosbarth ar streic! Danfonwyd am y prifathro. Daeth yntau ar frys a'n canmol ar ein llwyddiant mawr a mynegi cydymdeimlad a ni yn ein siom. "ond,' meddai, "mae enw da ysgol Penyrenglyn yn y fantol. Bydd bechgyn o ysgolion eraill yn cystadlu a chi a allwch chi ddim gadael yr hen ysgol i lawr."

Llwyddodd i'n seboni ni a dechreuodd y gwersi algebra er ein gwaetha', er nad oedd Mr Evans mor haearnaidd ag y bu. Nid oedd unrhyw ansicrwydd gennyf yngl欧n 芒'm dewis ac yn y mis Medi canlynol teithiodd wyth ohonom y saith milltir i'r Porth ar y bws a chael bod saith ohonom yn y dosbarth uchaf.

Dyddiau hapus oedd rhai Penyrenglyn i mi, a minnau'n ddiogel wrth draed athrawon a ofalai'n gydwybodol am fechgyn eu dosbarthiadau. Mae gen i ddyled fawr i dri dyn yn arbennig - Mr Evans 'Slash-back', Mr John Bebb Jones, ac yn arbennig i'r cawr bach hwnnw, Emrys Pugh.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy