Erbyn Nadolig 1914 roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn rhyw bum mis oed. Ar 么l y symud yn ystod y cyfnod cynnar, roedd y rhyfel ar Ffrynt y Gorllewin yn Ffrainc a Gwlad Belg wedi rhedeg i'r gors - yn rhy aml yn llythrennol felly - gyda'r ddwy fyddin yn meddiannu ffosydd oer, gwlyb, cyfochrog yn ymestyn dros 475 o filltiroedd o F么r y Gogledd i ffin y Swistir.
Y Cadoediad
Prin y gellir amgyffred colledion Ffrynt y Gorllewin rhwng Awst a Rhagfyr 1914:
Lladdwyd 306,000 o filwyr Ffrainc, 241,000 o filwyr Yr Almaen, 30,000 o filwyr Gwlad Belg a 30,000 o rai Prydain. Eto i gyd, ar Noswyl y Nadolig 1914 rhoddwyd y gorau i ymladd gan elynion oedd hyd yma wedi gwneud eu gorau glas i ladd ei gilydd ac wedi gweld eu ffrindiau'n cael eu chwythu i ebargofiant gan sieliau neu eu rhwygo'n ddarnau gan fwledi peiriannau saethu. Cafwyd cadoediad answyddogol a barodd, mewn rhai achosion, am ddyddiau.
Ddigwyddodd mo'r cadoediad na'r cyfeillachu ar hyd yr holl ffrynt, ond cyfarfu cannoedd, os nad miloedd o filwyr, Prydeinwyr ac Almaenwyr yn bennaf, - er gwaethaf gwg eu huchel-swyddogion - yn 'Nhir Neb' rhwng y ffosydd gan gyfarch ei gilydd a chyfnewid m芒n anrhegion fel botymau, wisgi, siocled, jam a sigarau. Canwyd carolau ac mae rhai adroddiadau am gemau p锚l-droed yn cael eu chwarae.
Pam?
Pam digwyddodd hyn? Yn 么l rhai sylwebyddion roedd cymhellion hunanol - er enghraifft - cyfle i ddod i wybod union leoliad y gelyn a chyfle i gladdu'r meirw a oedd mewn rhai achosion wedi bod yn gorwedd yn Nhir Neb ers tro. Fodd bynnag, rhaid sylweddoli bod y ffosydd, mewn mannau, yn agos iawn i'w gilydd - weithiau ag ond 30 llath rhyngddynt - a bod milwyr y ddwy ochr wedi cyfathrebu 芒'i gilydd. Hawdd dychmygu bod chwilfrydedd dynol wedi arwain milwyr ar y naill ochr a'r llall i geisio dod i nabod eu gwrthwynebwyr oedd yn byw o dan yr un amgylchiadau truenus. Yn ogystal, 'dyw hi ddim yn ormod dychmygu bod teimladau normal milwyr cyffredin yn dod i'r amlwg er gwaethaf yr amgylchiadau, gan adfer eu dynoliaeth o dan ddylanwad arhosol ysbryd y Nadolig.
Profiadau Frank Richards
Bu Frank Richards (1883-1961), Cymro o Went a weithiai yn l枚wr cyn ymuno 芒'r fyddin barhaol yn 1901, yn gwasanaethu trwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf gydag ail Fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Mae e'n adrodd ei atgofion o gadoediad y Nadolig yn ei hunangofiant, 'Old Soldiers Never Die' (1933):
"Ar fore'r Nadolig dyma ni'n codi bwrdd ac arno'r geiriau 'Nadolig Llawen'. Neidiodd dau o'n dynion i ben y parapet gan gael gwared a'u hoffer a chodi eu dwylo uwch eu pennau. Gwnaeth dau o'r Almaenwyr yr un peth a dechrau cerdded i fyny ar hyd glan yr afon i gwrdd 芒'n bechgyn ni. Cwrdd ac ysgwyd dwylo - a dyma ni i gyd yn dod ma's o'r ffos. Rhuthrodd Buffalo Bill, cadlywydd ein cwmni i mewn i'r ffos i geisio ein rhwystro, ond roedd e'n rhy hwyr: roedd y cwmni cyfan allan, a'r Almaenwyr gyda nhw. Roedd rhaid iddo dderbyn y sefyllfa a chyn bo hir roedd ef a swyddogion eraill y cwmni ma's hefyd. Cwrddon ni 芒'r Almaenwyr yng nghanol Tir Neb. Roedd eu swyddogion nhw allan erbyn hyn hefyd a dyma'n swyddogion ni yn eu cyfarch.... Treulion ni'r diwrnod yng nghwmni ein gilydd. Sacsoniaid oedden nhw a rhai ohonynt yn gallu siarad Saesneg. A barnu wrth eu golwg, roedd cyflwr eu ffosydd cyn waethed a'n rhai ni. Dywedodd un o'u dynion a fedrai Saesneg ei fod wedi gweithio yn Brighton am rai blynyddoedd, ei fod wedi cael llond bol ar yr hen ryfel `ma ac y byddai'n falch pan fyddai'r cwbl drosodd. Dywedon ni wrtho nad ef oedd yr unig un a deimlai felly.
Adawon ni monyn nhw i mewn i'n ffos ni a chawson ni ddim mynd ar gyfyl eu hun nhw. Gofynnodd Cadlywydd Cwmni'r Almaenwyr i Buffalo Bill a fyddai'n derbyn cwpl o gasgenni o gwrw gan ei sicrhau na fyddai ei ddynion yn meddwi arnynt. Roedd ganddynt ddigon yn y bragdy. Derbyniodd y cynnig a rholiodd un neu ddau o'r dynion y casgenni drosodd a'u rhoi yn ein ffos. Anfonodd y swyddog Almeinig un o'i ddynion yn 么l i'r ffos a daeth yn 么l toc yn cario hambwrdd ac arno boteli a gwydrau. Dyma swyddogion y ddwy ochr yn tincial gwydrau ei gilydd gan gynnig llwncdestun brawdgarol.
Roedd Buffalo Bill wedi cyflwyno pwdin Nadolig iddynt ychydig ynghynt. Roedd dealltwriaeth rhwng y swyddogion y byddai'r cadoediad answyddogol yn dod i ben ganol nos. Wrth iddi nosi, dyma ni'n mynd yn 么l i'n ffosydd, ond ychydig cyn canol nos penderfynon ni na fydden ni'n dechrau tanio cyn iddyn nhw wneud ... Thaniwyd mo'r un ergyd ar Ddydd San Steffan gan y naill ochr na'r llall. Roedd hi fel petai'r ddwy fyddin yn aros i'r llall ddechrau. Gwaeddodd un o'u dynion arnom a holi sut roedden ni wedi mwynhau'r cwrw. Atebon ni ei fod yn wan iawn ond ein bod yn ddiolchgar amdano. Aeth y sgwrsio `ma ymlaen trwy gydol y dydd. Y noson honno wrth iddi dywyllu, daeth bataliwn o frig芒d arall i gymryd ein lle."
O'r diwedd, ailddechreuodd y gyflafan - a pharhau, gwaetha'r modd, am bedair blynedd arall.
|