大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gloran
Alun Pugh Cyfweliad y mis: Alun Pugh
Mawrth / Ebrill 2006
Alun Pugh yw'r Gweinidog yn y Cynulliad sy'n gyfrifol am y celfyddydau a'r iaith Gymraeg. Mae'n ymateb i holiadur Y Gloran y mis hwn.
Pryd a ble y cawsoch chi eich geni?
Cefais fy ngeni yn Ysbyty Llwynypia ar 9 Mehefin, 1955.

Beth oedd cefndir eich teulu? O ble y daethant i Gwm Rhondda?
Roedd fy nheulu cyfan yn gweithio yn y pyllau glo. Daethant i'r Rhondda o Aberystwyth. Roedd fy nhad yn gwei卢thio ym Mhwll Glo y Cambrian.

Ble cawsoch eich addysg?
Mynychais Ysgol Gynradd Cwm Clydach ac Ysgol Ramadeg Tonypandy. Eich cartref a'ch teulu ar hyn o bryd? Rydw i'n byw ym mhentre Gellifor ger Rhuthun ac mae fy mhlant yn gweithio yng ngogledd Cymru.

Ydych chi'n dod yn 么l i'r Rhondda weithiau?
Mae fy mam yn byw yng Nghwm Clydach ac rydw i'n ymweld 芒 hi yn rheolaidd.

Pam a sut yr aethoch chi ati i ddysgu Cymraeg?
Dechreuais i ddysgu Cymraeg drwy dreulio wythnos yng Nghanolfan Nant Gwrtheyrn a oedd yn hwb dda i fy ymdrech. Rydw i'n cael gwersi yn achlysurol ond gan amlaf, dw i'n dysgu wrth weithio mewn awyrgylch dwyieithog ac yn y dre ble rwy'n byw.

Pryd a pham y dechreuoch chi ymddid卢dori mewn gwleidyddi卢aeth?
Ymunais 芒'r Blaid Lafur yn 19 blwydd oed. Cefais fy ethol yn Gadeirydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Morgannwg. Roeddwn i'n benderfynol o wneud Cymru yn gymdeithas deg - ac mae hynny' n dal yn wir!

Pa fath o lyfrau ydych chi'n hoffi eu darllen?
Llyfrau teithio. Rydyn ni' n byw mewn byd hynod o amrywiol a did卢dorol a dw i' n mwynhau profi diwylliannau gwa卢hanol.

Pa ganghennau eraill o'r celfyddydau sydd o ddiddordeb i chi?
Cerddoriaeth. Rydw i'n dysgu chwarae'r git芒r bas ar y funud!

Beth yw eich gobeithion mewn perthynas 芒'r celfyddydau yng Nghymru?
Gwneud yn si诺r fod pob cymuned yng Nghymru yn elwa o'r buddsoddiad enfawr o arian cyhoed卢dus yn y celfyddydau.

Beth ydych chi'n hoffi ei wneud yn eich amser hamdden?
Mynydda, yn enwedig ym mynyddoedd Eryri.

Ydych chi' n teimlo' n hyderus yngl欧n 芒 dyfodol y Gymraeg?
Ydw - dw i'n hapus i weld cynnydd yn y nifer o bobl sy'n siarad yr iaith mewn ardaloedd fel y Cymoedd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy