大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gloran
T矛m Siarad Cyhoeddus, Ysgol y Cymer T矛m Siarad Cyhoeddus, Ysgol y Cymer
Rhagfyr 2008
Thomas Tudor Jones, Kate Holvey a Lewis Lloyd, o Ysgol Gyfun Cymer fu'n fuddugol mewn cystadleuaeth siarad cyhoeddus.
Unwaith eto, llwyddodd t卯m Siarad Cyhoeddus Ysgol Gyfun Cymer Rhondda i ennill Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus a drefnir yn flynyddol gan y Clwb Rotari.

Dyma'r pedwerydd tro i d卯m o'r Cymer ennill y wobr am y t卯m gorau yng Nghymru yn y gystadleuaeth gyfrwng Cymraeg.

Dechreuodd y daith yn Ysgol Gyfun Plasmawr ddechrau mis Tachwedd, pan gystadlodd y t卯m yn erbyn 9 o ysgolion eraill yn y rownd gynderfynol. Cafwyd llwyddiant mawr y noson honno, gyda Thomas Tudor Jones yn cipio'r wobr am y cynigydd gorau, a Kate Holvey, y cadeirydd, a Lewis Lloyd, y gwrthwynebydd, yn cael eu henwi ymysg y goreuon yn eu categor茂au nhw hefyd, yn 么l y beirniaid.

Ar y pumed ar hugain o Dachwedd, fe deithiodd y t卯m, ynghyd a'u cefnogwyr di-ri i lawr i Fae Caerdydd, i gystadlu yn y Rownd Derfynol. Braint oedd cael cystadlu yn Nh欧 Crughywel, cartref cyntaf Cynulliad Cymru, yn enwedig o ystyried y pwnc oedd yn cael sylw'r t卯m, sef "Breuddwyd ff诺l yw Cymru Rydd."

Cafwyd gwledd o drafod yn ystod y prynhawn, gan dimoedd o Ysgolion Bro Myrddin, y Fro, Preseli, Bryn Tawe, a Llanbed. Rhoddwyd canmoliaeth fawr i bob t卯m gan Gadeirydd y Beirniaid, Sulwyn Thomas, ac roedd panel y beirniaid i gyd yn gyt没n mai Ysgol y Cymer oedd y t卯m buddugol ar y diwrnod. Enwyd Kate Holvey yn gadeirydd gorau'r diwrnod, a Thomas Tudor Jones y cynigydd gorau. Daeth Lewis yn ail yn y gystadleuaeth am wrthwynebydd gorau'r diwrnod.

Yn ogystal 芒 hyn, cipiodd Thomas y wobr am siaradwr gorau'r gystadleuaeth, gan sicrhau bod y darian honno'n dychwelyd i Ysgol y Cymer unwaith eto.

Mae'r t卯m yn hapus iawn i orffen eu gyrfa ysgol ar nodyn mor llwyddiannus, ac yn dymuno pob hwyl i siaradwyr y dyfodol sydd 芒'r dasg anodd o geisio parhau 芒'r traddodiad hir sydd gan yr Ysgol bellach yn y maes hwn!

Hoffai'r t卯m ddiolch i bawb fu'n cefnogi yn ystod y gystadleuaeth, yn arbennig Clwb Rotari'r Rhondda am bob cymorth a chefnogaeth.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy