大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gloran
Mae nifer o siopau gwag yn Nhreorci Dyfodol Treorci
Hydref 2002
Ym marn rhai, megis John Davies yr hanesydd (a aned yn y dref), Treorci yw 'prifddinas' Cwm Rhondda. Ond yng ngolau casgliadau arolwg diweddar gan Fanc Barclays a fydd hyn yn wir yn y dyfodol?
Yn 么l yr arolwg mae pobol ifanc a chyfoethog Cymru yn cefnu ar Gaerdydd fel lle i fyw ac yn dewis byw yn y Cymoedd.

Mae'r ymchwil yn dangos fod gan etholaethau Pontypridd, Y Rhondda a Blaenau Gwent, chwe gwaith yn fwy o bobol o dan 30 sy'n ennill arian mawr na'r Fro.

Mae gan y Fro 1 o bob 100 person o dan 30 sy'n ennill mwy na 拢60,000 y flwyddyn a Chaerdydd 3 o bob 100 o bobol felly.

Ond er mawr syndod mae gan Bontypridd gyfradd o 6 o bob 100 o'r bobol ifanc gyfoethog hyn.

Yn ystod y 18 mis diwethaf mae'r gwerthwyr tai wedi sylwi ar gynnydd mawr yn y nifer o bobol sy'n byw yng Nghaerdydd ac yn chwilio am dai yn ardal Llantrisant a Phontyclun.

Ond yn awr, yn 么l rhai o'r gwerthwyr tai, mae rhai o'r bobol hyn yn chwilio am dai ymhellach i mewn i'r Cymoedd.

Mae hyn yn newydd da i'n hardal ni wrth gwrs ond rhaid cofio bod y bobol hyn yn chwilio am gynefin ac awyrgylch gwahanol i'r hyn sydd gennym yn awr.

Beth sydd gan brif stryd Treorci i'w gynnig? O ran yr amgylchfyd 'caled' mae tair siop wag ar gornel heol fawr y dref gyda dwy ohonyn nhw wedi bod yn wag ers blynyddoedd a'r drydedd wedi bod yn wag ers y Nadolig.

Does dim bwyty i'w weld yn y dref sydd o'r un safon 芒'r Bwyty Arbennig ger Cefn Coed y Cymer, Merthyr Tudful.

Yn 么l perchennog y lle bwyta hwnnw roedd yr ardal yn 'edrych fel tomen' pan sefydlodd ei fusnes naw mlynedd yn 么l ond yn awr, meddai, mae'r lle i gyd fel pe bai'n gwella.

A ddaw'r math hwn o welliant i ran Treorci? Rhaid gobeithio y daw ac y bydd y dref yn gwella fel ei bod yn gallu bod yn 'brifddinas' deilwng i'r Cwm.





0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy