Allan o 7 maes a archwiliwyd, cafwyd bod yr ysgol yn deilwng o radd 1 mewn chwech ohonynt, canlyniad gyda'r gorau a gafwyd gan unrhyw ysgol gynradd yn y cwm. Wrth grynhoi eu casgliadau dywedodd yr arolygwyr, "Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Bronllwyn yn ysgol dda gyda nodweddion rhagorol. Mae'r disgyblion yn derbyn profiadau cwricwlaidd cyfoethog sy'n meithrin eu Cymreictod a'u hymwybyddiaeth o'u r么l fel dinasyddion byd-eang. Mae'r ysgol yn gymuned hapus a chartrefol lle rhoddir pwyslais ar gyd-fyw, parch a chwrteisi." Yn groes i'r arfer, mynnodd y tim arolygu fod yr ysgol "wedi tanbrisio ei heffeithiolrwydd" mewn pedwar o'r cwestiynau a chodwyd y radd o 2 i radd 1.
Un o'r nodweddion y tynnwyd sylw ato yw parodrwydd y plant i ddefnyddio'u Cymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Dywed yr adroddiad, "Nodwedd arbennig ar draws y ddau gyfnod allweddol yw bod y disgyblion yn cyfathrebu 芒'i gilydd yn Gymraeg ar y buarth a bod y Gymraeg yn iaith gwaith a chwarae". Mae hyn yn gryn gamp ac yn glod i'r athrawon o gofio bod y rhan fwyaf o lawer o'r disgyblion yn dod o aelwydydd di-Gymraeg.
Telir teyrnged i'r prifathro a'i ddirprwy am eu harweiniad a'u brwdfrydedd a dywedir bod "ysbryd t卯m yn amlwg ym mywyd pob dydd yr ysgol ac mae'r holl staff yn gynwysiedig mewn penderfyniadau a wneir trwy ddeialog dyddiol a chyfarfodydd." Dywedir bod y cynnydd er yr arolygiad diwethaf yn rhagorol. Mae llwyddiant Bronllwyn a'n hysgolion Cymraeg eraill yn hysbyseb dda i addysg Gymraeg ac mae pawb sy'n poeni am ddyfodol yr iaith yn drwm yn nyled yr athrawon sy'n rhoi o'u hamser a'u doniau i hyrwyddo addysg ein plant.
|