Dyfernir gwobr Tir na n-Og bob blwyddyn i'r awduron am y cyfrolau gorau ar gyfer plant a gyhoeddwyd yn Gymraeg a Saesneg. Enillydd y wobr Saesneg eleni, a hynny am y pedwerydd tro oedd Frances Thomas am ei nofel 'Finding Minerfa'. Trwy garedigrwydd un o gyn-athrawon Ysgol Ynyswen, Gwyn Morgan, daethom i wybod am gysylltiadau'r awdures â Threorci. Ganed ei thad David Elwyn Thomas yn 1906 yn fab i'r bardd Dewi Glan Rhondda oedd hefyd yn David Thomas. Mae'n debyg bod y teulu'n byw yn Stryd Stuart i ddechrau ond y cof cliriaf sydd gan Frances yw mynd i Dŷ Rhos yn Heol Glyncoli lle roedd ei modryb, Gwladys Thomas yn byw. Roedd hithau'n brifathrawes ar ysgol gynradd tra bod modryb arall, Dorothy, yn briod â Glyn Richards, y fferyllydd yn Nhreherbert. Hyd y gwyddom, does neb o'r teulu ar ôl yn yr ardal bellach.
Llundain
Ers rhai blynyddoedd, bu Frances Thomas a aned yn Aberdâr yn byw yn Sir Faesyfed, heb fod yn bell o Lanfair ym Muallt ond er iddi gad ei geni yn Aberdâr, a byw wedyn yn Llundain am rai blynyddoedd cyn symud adre' i Gymru. Cafodd ei haddysg gynnar mewn ysgol gwfaint ac wedyn ym Mhrifysgol Llundain.
Am gyfnod hir, bu'n dysgu plant dislecsig yn y ddinas. Hanesydd yw ei gŵr ac mae ganddynt ddwy ferch ac un wyres. Yn ei hamser hamdden mae Frances yn mwynhau arlunio, cerdded a garddio. O dro i dro bydd yn cael cyfle i deithio ac mae'n arbennig o hoff o'r Eidal ac India.
Ysgrifennu
Cyhoeddwyd ei lIyfr cyntaf, 'The Blindfold Track' yn 1980 a seiliwyd stori arall o'i heiddo 'Who stole the bloater' ar hanesyn a glywodd gan ei thad am ardal Treorci. Dywed Frances bod syniadau yn gallu eich taro ym mhobman. Teithio trwy Wroxeter yr oedd hi a meddwl sut fyddai hi tasai dinas yno o hyd. Dyna hedyn 'Finding Minerva', ei nofel arobryn ddiweddaraf. Bydd Frances yn eistedd o flaen ei chyfrifiadur mewn ystafell ar y llofft a chael bod syllu ar y sgrîn a'r wal yn well nag edrych mas drwy'r ffenest lle mae gormod o bethau i dynnu ei sylw! Er bod rhai pynciau'n drist ac yn ddrwg weithiau, mae llawer hefyd sy'n dod â gwên i'r wyneb a'r peth gorau i awdur ei wneud yw cadw'r ddysgl yn wastad rhwng y ddau.
|