Anrhydedd fawr a ddaeth i ran yr ysgol ddechrau mis Medi oedd derbyn gwahoddiad i gyhoeddi Neges Ewyllys Da'r Urdd yn 2005. Erbyn hyn, mae'r chweched dosbarth wrthi'n llunio'r neges a fydd ar y thema, "Ca^r dy gymydog". Mae hon yn thema addas iawn o gofio mai Shelter Cymru yw'r elusen a fydd yn cydweithio 芒'r Urdd y flwyddyn nesaf. Cyfle i drafod Daeth Owain Llewelyn o'r elusen i siarad 芒 rhai o'r disgyblion am broblemau digartrefedd yng Nghyrnru. Bu'r ymweliad yn gyfle i'r disgyblion ymarfer eu Cyrnraeg, ei holi am y broblem yn y gymuned hon ac ystyried beth y gallant ei wneud i gynorthwyo pobl lai ffodus yn ein cymdeithas. Braf yw gweld cymaint o bobl ifainc yn ymgyrnryd 芒'r gwaith o ddifrif gydag 18 o'r chweched isaf ac 17 o'r chweched uchaf sy'n astudio Cymraeg yn cymryd rhan. Fe fydd y profiad a ddaw i'w rhan yn ystod y flwyddyn nesaf o fudd mawr i'r disgyblion wrth iddynt gyhoeddi'r neges ar y radio, i aelodau o'r Cynulliad ac ar lwyfan neuadd ysblennydd Canolfan y Mileniwm. Cyfle i ddathlu Bydd cyfle i bobl y Rhondda ymfalch茂o gyda'r disgyblion mewn noson o ddathlu cyhoedddi'r neges yn theatr y Parc a'r Dar, nos Lun, 21 Chwefror 2005. MaeYsgol Gyfun Treorci yn diolch i'r Urdd am y cyfle i fod yr ysgol Saesneg ei chyfrwng gyntaf i gyhoeddi'r Neges Ewyllys Da ac am roi cyfle i ddisgyblion sydd 芒'r Gyrnraeg yn ail iaith iddynt i gyhoeddi neges mor bwysig i bedwar ban byd. Mae cyffro yn barod ymhlith disgyblion yr ysgol wrth feddwl am gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd fel yn y gorffennol gan obeithio'n fawr iawn y bydd yr Adran Gerddoriaeth yn llwyddiannus eto yn y Genedlaethol. Bydd yr Adran Chwaraeon hefyd yn gobeithio ailadrodd llwyddiant y llynedd. Mae ein dyled fel cenedl ac fel ysgol i'r Urdd yn fawr iawn wrth i'r mudiad roi cyfle i' n hieuenctid brofi cymaint. Gwersylla Ym mis lonawr eto bydd yr ysgol yn mynd 芒 dros 200 o ddisgyblion Blwyddyn 7, 8, 12 a 13 i Langrannog, traddodiad sydd wedi bodoli yn yr ysgol ers dros 20 mlynedd a bydd dros 300 o ddisgyblion yn mynychu cwrs yng Nglan-llyn ym rnis Tachwedd. Gobaith Ysgol Gyfun Treorci, gyda chymorth mudiadau fel Urdd Gobaith Cyrnru a menter laith Rhondda Cynon Taf yw sicrhau bod y disgyblion yn tyfu'n ddinasyddion cyfrifol a fydd yn parhau i gefnogi'r Gymraeg yn y Rhondda fel sawl un arall a gafodd ei addysg yn yr ysgol.
|