Nid yn unig y llwyddon nhw i ddod yn gyntaf yng nghystadleuaeth y Parti Unsain ond aethon nhw ymlaen i gipio'r brif wobr y corau ysgol dan 12 oed gan guro ysgolion o Aberystwyth a Phorthmadog. Dyma'r tro cyntaf i unrhyw ysgol o'r Rhondda ennill dwy o brif wobrau'r Eisteddfod ac mae plant a staff hyfforddi Bodringallt i'w canmol yn fawr iawn. Gwnaeth Gavin Moulsdale, Ysgol Gymraeg Ynys-wen yn arbennig o dda i gyrraedd y llwyfan yn yr Unawd i Offerynwyr Pres dan 12 a dod yn drydydd. Cafodd Gavin ei gyfweld ar Radio Cymru a chael cyfle i son am gysylltiad agos ei deulu a Band Treherbert. Agorodd yr Eisteddfod nos Sul, 29 Mai a sioe gerdd ysblennydd, 'Sain Cerdd a Sioe' . Y cyfarwyddwr cerdd oedd Geraint Cynan,un o feibion Treorci a'r cyflwynydd ac un o'r prif berfformwyr oedd yr actor adnabyddus o Gwm-parc, Daniel Evans. Roedd Daniel hefyd yn Llywydd y Dydd ar y dydd Mawrth pan gynhaliwyd seremoni'r Pedal Ddrama. Yn ei araith, Talodd Daniel deyrnged i'r Urdd a phwysigrwydd y mudiadyn ei ddatblygiad yn actor. Llongyfarchiadau i ddawnswyr Ysgol Gyfun Treorci ar ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth y ddawns fodern. Tipyn o gamp oedd cyrraedd y llwyfan.
|