Shelley Rees (Stryd Crawshay, Ton Pentre)
Fel actores yn 'Pobol y Cwm' rwy'n teimlo fy mod wedi cael y Nadolig yn barod am inni recordio rhifynnau'r Nadolig rai wythnosau yn 么l. Ond bydd hi'n braf cael chwarae 芒 Lowri, fy merch fach a rhannu ei thrganau! Yn fwy na dim, bydd hi'n braf peidio 芒 gorfod dysgu sgript newydd am wythnos neu ddwy. A bydda' i'n si诺r o fwyta lot!Esme Holmes (Warden T欧 Siloh, Y Pentre)
Heddwch ac iechyd yw'r unig ddau ddymuniad sy gen i. Rwy'n ymwybodol hefyd fod llawer o hen bobl yn cael eu hesgeuluso yr adeg hon o'r flwyddyn a fy ngobaith i yw eu bod yn cael pob gofal a sylw.
Malcolm Thomas (Perchennog 'Carpets & Carpets', Treorci)
Mae eleni wedi bod yn ofnadwy o brysur yn y siop ac rwy'n edrych ymlaen at ymlacio. Cerdded o gwmpas Bae Caerdydd gyda fy wyresau Holly a Scarlet a chael ambell i bryd o fwyd yn 'Salts'. Ond cyn hynny rhaid ffitio cant a mil o garpedi ond gallaf warantu y byddaf yn rhydd i weld Treherbert yn curo Treorci ar y cae rygbi.
Hefin Gruffydd (Prifathro Ysgol Gymraeg Bronllwyn)
Bydd fy rhieni yn dod aton ni dros y Nadolig a bydd hynny'n braf. Rwyf bob amser wrth fy modd yn cael pleser wrth weld y plant yn agor eu hanrhegion fore'r Nadolig ond efallai mai'r pleser mwyaf fydd ymlacio a gwneud dim ar 么l holl brysurdeb tymor ysgol.
Tina Morgan (Stryd Bailey, Ton Pentre)
Cael cyfle i ymlacio gyda'r teulu fydd y pleser mwya' ond byddwn hefyd yn cael parti i'r teulu ar Ddydd San Steffan. Adeg y Nadolig hefyd, rwy'n hoffi mynd am dro ar lan y m么r gyda Dai, fy ng诺r, India fy merch a Kian, fy 诺yr bach.
Malcolm Wilkinson (Siop Iechyd, Y Stryd Fawr, Treorci)
Adeg i roi yw'r Nadolig. Byddwn yn mynd at deulu fy ngwraig yn Swydd Lincoln dros y gwyliau. Bydd tuag 20 ohonom yn cwrdd yno ond mae trefniant nad oes neb yn prynu anrheg werth mwy na 拢5 i unrhyw un arall. Cwrdd 芒'n gilydd yw'r peth pwysica' ond rwy'n sicr bod rhoi, yn enwedig i rywun mewn angen, yn rhoi mwy o bleser na dim yr adeg 'ma o'r flwyddyn.
Susan Young
Dwi'n edrych ymlaen at chwarae gyda'r plant, cael cyfle i ddarllen a dw i'n si诺r y byddaf i'nbwyta ac yfed llawer gormod. Amser i'r plant yw'r Nadolig - ein pleser ni yw i'w gweld nhw'n mwynhau.
Colin James (Siop Bwydydd Anifeiliaid, Stryd Bute, Treorci)
Adeg y Nadolig, am ein bod yn cau, bydd pobl yn prynu dwywaith cymaint o fwyd ac felly rhaid gweithio ddwywaith mor galed ag arfer am hanner wythnos cyn cau. Byddan nhw'n prynu anrhegion i g诺n a chathod - gwelyau, teganau a hosanau Nadolig yn enwedig. Ar 么l i'r siop gau, byddaf ond yn barod i ymlacio.
Mrs Rona Pugh (T欧 Siloh, Y Pentre)
Mae mynd i Bontypridd at Marilyn, fy merch a'i phriod, bob amser yn bleser. Rwyf hefyd yn hoff iawn o wrando ar garolau, yr adeg hon o'r flwyddyn. Dyw anrhegion ddim mor bwysig ag y buon nhw unwaith, ond wedi dweud hynny, rwy'n gobeithio y bydd Si么n Corn yn dod 芒 'dressing gown' newydd imi!
Mrs Beti Owen (T欧 Siloh, Y Pentre)
Rwy'n hoff iawn o'r Nadolig ei hun ond yn casau'r ffws a'r ffwdan sy'n gysylltiedig 芒'r cyfnod cyn yr 诺yl.