大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gloran
Cyntaf - am yr eildro!
Ebrill 2005
Roedd mis Tachwedd yn fis prysur iawn i d卯m siarad cyhoeddus Ysgol Gyfun Cymer Rhondda.
Mae gan yr ysgol draddodiad cryf o lwyddo yng nghystadlaethau siarad cyhoeddus ar lefel sirol ac yn wir, ar lefel genedlaethol. Llynedd, Ysgol Gyfun Cymer Rhondda oedd yr ysgol Gymraeg gyntaf erioed i gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth siarad cyhoeddus Prydain ac Iwerddon y Rotari trwy gyfrwng y Saesneg.

Llwyddodd y t卯m hefyd i gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth Gymraeg y llynedd a churo sawl t卯m o dde Cymru.

Mae'r siaradwyr huawdl yn gyfarwydd ag ennill rhai o brif wobrau'r gystadleuaeth; llynedd fe ddaeth tarian 'Prif Siaradwr' yr 糯yl yn 么l i'r Cymer yn ddiogel yn nwylo Timothy Lloyd, sydd bellach yn astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Llundain a Hannah Williams, sydd erbyn hyn yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe, enillodd wobr 'Gwrthwynebydd y Noson'.

Prif fechgyn yr ysgol, Alun Williams ac Owain McKimm a disgybl Blwyddyn 10, Daniel Owen, oedd cynrychiolwyr y Cymer eleni. Ar 么l llwyddo i guro wyth t卯m arall o Rhondda Cynon Taf yn y rownd gyntaf yn Ysgol Gyfun Llanhari ac Owain McKimm yn cael ei ddyfarnu'n 'Wrthwynebydd y Noson', bu'n rhaid iddynt wynebu pump t卯m arall yn rownd derfynol y gystadleuaeth yn Ysgol Gyfun Treorci.

Y Parchedig R Alun Evans oedd Cadeiriydd y panel beirniadu ac roedd yntau a'r ddau feirniaid arall "wedi'u gwefreiddio gyda safon y gystadleuaeth" haerodd mai hon oedd un o'r cystadlaethau gorau iddynt feiriadu erioed. Roedd 6 t卯m o Lanbed yn y Gogledd i Fro Morgannwg yn y De, yn y gystadleuaeth, ond ennill, unwaith yn rhagor fu hanes t卯m y Cymer.

Alun Williams enillodd wobr 'Prif Gynigydd y Noson' a rhannodd t卯m y Cymer y brif wobr 'Tim Buddugol Siarad Cyhoeddus De Cymru' gydag Ysgol Gyfun Glantaf. Mae'r darian, unwaith eto, yn 么l yn y Cymer a'r t卯m eisioes wedi dechrau paratoi ar gyfer y gystadleuaeth Saesneg.

Dymunwn bob llwyddiant i'r t卯m a llongyfarchiadau gwresog ar eich llwyddiannau hyd yn hyn!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy