大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gloran
Patagonia! Dyma Fi
Mehefin 2006
Ym mis Chwefror teithiodd Islwyn Jones y Deintydd, Tonypandy i Batagonia i bysgota. Y mis yma, mae'n s么n am y profiad hwnnw a chawn glywed am ei ymweliad 芒'r Wladfa ei hun yn y rhifyn nesaf.
Dydd Gwener, 24 Chwefror.
O'r diwedd roedd y freuddwyd yn cael ei gwireddu! Edrychais ma's o ffenest yr awyren a gweld dinas enfawr Buenos Aires yn ymledu oddi tanaf. Roedd 24 awr wedi mynd heibio ers imi ddal y bws o Gaerdydd i Heathrow y diwrnod blaenorol. Roedd John, fy nghymydog, a minnau'n cwrdd ag Illtyd, John arall a Charlie yn Buenos Aires y noson honno.

Treulion ni'r noson mewn gwesty cyn dal awyren arall a'n cludai i Gallegos yn ne Patagonia, taith o ryw ddwy awr a hanner cyn cyrraedd ein cyrchfan, 'Las Buiteras' tuag awr yn ddiweddarach. 'Las Buiteras' oedd y loj neu lety lle roeddem i aros am y chwe diwrnod nesaf, yn pysgota Afon Gallegos. Erbyn inni gyrraedd yno roedd yn dechrau nosi, ond roedd cerbyd 4x4 yn ein disgwyl i'n cludo i'r 'hacienda'. Teithion ni ar hyd heol darmac am tua 10 milltir ond bu gweddill y daith ar hyd ffordd debyg i'r rhai yn y fforest ar ben y Rhigos ! Mynd ar hyd honno am ryw 20 milltir cyn troi'n ddisymwth a dilyn trac hyd yn oed yn fwy garw cyn cyrraedd 'Las Buiteras'.

Y Paith
Erbyn hyn roedd hi'n ddu fel y fagddu, ond y peth a'm trawodd oedd ein bod yng nghanol y paith heb unrhyw arwydd o fywyd dynol am filltiroedd o'n cwmpas. O'r diwedd dyma ni'n cyrraedd 'Las Buiteras' y loj pysgota moethus ar yr hacienda. Roedd pryd o fwyd yn ein haros a chroeso bendigedig. Ar 么l yr holl deithio fues i ddim yn hir cyn cwympo i gysgu ond cefais fy neffro am 6.30 y bore gan s诺n pac o g诺n yn cyfarth cystal ag unrhyw gloc larwm. Roedd y pysgota ar fin dechrau!

Pysgota
Codon ni am 7 a chael brecwast cyn i'r 'gillies', sef y tywyswyr pysgota, ein cludo yn y 4x4 at yr afon. Wrth eu holi am y c诺n, ces ar ddeall taw c诺n y gauchos oedd y rhain - dynion garw a dreuliai eu bywydau ar y paith yn bugeilio'r 50,000 o ddefaid merino oedd yn byw yno. Roedd tir yr hacienda tua'r un maint 芒 Morgannwg! Tirlun tebyg iawn i ben Bannau Brycheiniog sychedig oedd o'm blaen. Porfa sych, melyn, llwch a llwybrau garw i'r cerbydau trafeilio ar hyd-ddynt, ond y peth a' m trawodd mwya' oedd y ffaith nad oedd coeden yn unman ar wah芒n i'r rheiny a blanwyd o gwmpas yr hacienda.

Roedd popeth mor eang, mor agored, doedd na ddim s诺n ond bref ambell ddafad a s诺n y gwynt - gwynt, gyda llaw, a allai chwythu hyd at 50 milltir yr awr. Ac yn rhedeg drwy ganol y cyfan oedd striben risialog Rio Gallego - holl bwrpas ein taith. Tybed a fyddem yn gallu'i themptio i ildio rhai o' i physgod braf i ddwylo criw o Gymry? Roedd `na sewin ynddi hyd at 25 pwys!!

Bywyd Gwyllt
Wrth deithio at yr afon gyda Claudio y gillie, gwelsom yr holl fywyd gwyllt oedd yn bodoli ar y paith gwelltog - fflamingos llachar o gwmpas yr afon a'r rhea, aderyn mawr tebyg i estrys a allai redeg tua 40 milltir yr awr o flaen y cerbyd! Synnais at amrywiaeth y bywyd gwyllt - eryrod, llwynogod llwyd, ysgyfarnogod, sgync, armadillos a hwyaid a gwyddau o bob math.

Yn ogystal, gwelsom caracaras, adar a edrychai fel croesiad rhwng hebog a pharot ynghyd ag ambell guanaco, anifail tebyg i llama, er ein bod braidd yn bell i'r de. Gofynnais am y piwma a chael ar ddeall eu bod ar gael er eu bod, drwy drugaredd, yn brin yn y rhan hon o Batagonia gan eu bod yn ffafrio mynyddoedd uchel Yr Andes, ryw 200 milltir i'r gorllewin o le roedden ni. Heb arddangos unrhyw ofn, roedd y casgliad lliwgar hwn o adar ac anifeiliaid yn hapus i rannu eu cynefin 芒 chriw o deithwyr o dramor.

Y Tywydd
Roedd Illtyd, pysgotwr profiadol a fu yno chwe gwaith o'r blaen, wedi ein rhybuddio am y tywydd yn y rhan hon o'r byd. "Cer 芒 digon o eli haul a digon o ddillad twym!", oedd ei gyngor rhyfedd. Ac roedd e' n iawn. Er ei bod yn haf cawsom dymheredd o -4 selsiws un diwrnod a 75 gradd y diwrnod nesaf. Glaw a chesair, heulwen tanbaid, gwyntoedd hyd at 50 milltir yr awr a hyn i gyd o fewn yr un diwrnod. Am brofiad o brofi'r pedwar tymor o fewn 24 awr! Gofynnais i Claudio sut dywydd oedd yno yn ystod y gaeaf. Oedd 'na lawer o eira? Wedi'r cyfan, doedden ni ddim yn rhy bell o'r Antartig. Dywedodd wrthyf fod tymheredd y gaeaf yn gostwng hyd at -20 selsiws. Roedd yn rhy oer i gael eira! Bu'r chwe diwrnod nesaf yn brofiad hynod.

Roedd y pysgota'n galed dros ben ond fe lwyddais i ddal fy sewin gorau erioed ar 么l 40 mlynedd o bysgota - un 15.5 pwys ynghyd 芒 llawer o rai go lew eraill. Bwyd da, golygfeydd anhygoel a chwmni hwyliog. Aeth y chwe diwrnod yn rhy chwim o lawer ond allaf i ddim cwyno gan imi yn ystod cymal nesaf y daith sylweddoli breuddwyd fy mebyd - sef ymweld 芒'r Wladfa.


Cyfrannwch

Sarah Jones o Gaerfyrddin
Mae'r ddyddiadur hon yn sicr wedi fy mherswadio i, i fwcio tocyn i Batagonia!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy