大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cwlwm
Llun llong lusitania Trysor
Ebrill 2008
T.Gwyn Jones, Golygydd cyntaf Cwlwm a un o Lywyddion G诺yl Dram芒u Cwlwm 2008 yn s么n am ei drysor ac R.M.S Lustania aeth i'r dyfnder ar Mai 7fed, 1915.

Mae'n si诺r i chi ddarllen yn rhifyn diwethaf o Cwlwm (Mawrth 2008), ein bod yn dathlu pen-blwydd arbennig yn 30 oed eleni ac i'r rhifyn diwethaf ddigwydd bod y tri chanfed rhifyn. Codwyd y syniad i gysylltu a T.Gwynn Jones, Golygydd cyntaf Cwlwm ac un o Lywyddion G诺yl Dram芒u Cwlwm sy'n digwydd ar ddechrau'r mis hwn. Cododd Nan Lewis y ff么n ac roedd yn barod iawn ei gymwynas. Dywedodd y byddai TRYSOR ar ei ben ei hun wedi ei siwtio'n well ac fe gewch weld pam yn y man. Dyma T. Gwynn i s么n am yr hanes.

Fe fenthyciais lyfr o Lyfrgell Abergwaun o'r enw Lusitania - The Ship and Her Record. Fe'i cefais yn llyfr arbennig o ddiddorol, a chan mod i'n byw yng ngolwg y m么r, fe fagais ryw ddiddordeb yn y stori, er bod gen i fwy i'w ddweud wrth gi defaid nag wrth long.

'Ychydig o gefndir i gychwyn. Ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf, roedd hi'n gyfnod "Rule Britannia, Britannia Rules the Waves". Ond yn 1897, fe adeiladodd yr Almaenwyr long enfawr bedair simne - y llong fwyaf i groesi'r Iwerydd, a'r gyflymaf hefyd. A dyna grib oes Fictoria wedi ei thorri, ac am ddegawd fe aeth pethau o ddrwg i waeth, a llongau'r Almaen yn mynd yn fwy ac yn fwy. A doedd pethau ddim yn dda rhwng Prydain a'r Almaen - roedd s诺n rhyfel ym mrig y moroedd- Rhaid oedd cystadlu 芒'r Almaen, doed a ddelo.

Rhoddodd Llywodraeth Prydain fenthyg dros ddwy filiwn a hanner o bunnau i gwmni Cunrad i adeiladu dwy llong enfawr - y Mauritania Lusitania i fynd n么l a blaen i'r Amerig. Roedd yna amodau clir. Roedd y ddwy long i gael eu hadeiladu i fod yn llongau rhyfel pe bai raid; roedd y ffurfafen wedi dechrau duo bryd hynny yn 1907 a rhaid oedd cystadlu 芒'r Almaenwyr ac achub y blaen. A rhaid cofio mai llongau pleser moethus oeddynt.

Roedd y Lusitania yn 790 troedfedd o hyd - hyd dau a hanner o feysydd p锚l-droed. Anferth o long a'r llong fwyaf moethus a rodiodd y moroedd. Gallai groesi'r Iwerydd mewn llai na phum niwrnod. Y 'ni' oedd yn rheoli 'nawr, er mawr ofid i'r Almaen, a gyda 'ni' oedd y llaw uchaf.

Fe'i lansiwyd ar ei thaith gyntaf ar Fedi 12, 1907, a 200,000 o bobl yn ei gwylio'n gadael Lerpwl. Fe dorrodd y rhyfel ar Awst 4ydd, 1914. Ar 1af o Fai 1915, hwyliodd y Lusitania o Efrog Newydd am Lerpwl. Ar y 7fed o Fai, a hithau rhyw ddeuddeg milltir o Iwerddon, 'roedd sybmar卯n Almaenig - yr U-20 yn llercian. Fe daniodd un torpido at long bleser fwyaf y byd, ac o fewn deunaw munud roedd y Lusitania ar ei ffordd i waelod y mor. Arni yr oedd 1,257 o bobl a 650 o griw. Boddwyd 785 o bobl a 413 o'r criw, a hynny o fewn chwarter awr. Bu sawl ymdrech gan ddeifwyr dros y blynyddoedd i chwilio'r olion. Erbyn hyn, 'does fawr ohoni ar 么l - llong fwyaf ei dydd, a'r harddaf, bellach yn ddim and tomen o fetel ar waelod yr Iwerydd, tua 300 troedfedd i lawr.

Ond mae'n bryd dod 芒'r stori i ben. Ac nid wyf wedi s么n am y TRYSOR. Roedd yr Almaen mor falch o fod wedi ennill y wobr fawr, ac yn llawenhau cymaint nes taro medal i gofio'r achlysur - 300 o fedalau aur a channoedd o rai pres, a bocs gyda llun y llong arno i ddal y fedal ac mae gen i un o'r medalau pres. O le y daeth hi? Roedd teulu fy nhad yn byw mewn tyddyn bychan o'r enw Cadwst wrth droed mynydd y Berwyn - tyddyn bychan, teulu mawr - a bywyd yn sicr o fod yn galed, ac yn dlawd. Ac wedi i'r olaf o'r teulu adael y tyddyn yn y chwedegau, fe fu clirio.

Ac felly y daeth y fedal i'm dwylo i. " Trysor" meddech chi. Dim and ar un olwg. Mae edrych arni, a'i byseddu yn deffro'r cof am Cadwst, ac yn ail-greu'r darlun sydd gen i yn fy meddwl o fy nhaid, a theulu fy nhad. Hwnnw yw'r trysor - ac mae'n drueni mai un o ddigwyddiadau erchyll y Rhyfel Mawr sydd y tu 么l i'r cyfan. Ond ei chadw yn y cwpwrdd gwydr fydd ei hanes, si诺r o fod.

T. Gwynn Jones

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy