´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Dawnswyr Tipyn o Bopeth Anrhydeddu gwraig leol yn yr Å´yl Ban Geltaidd
Mai 2005
Llywydd Anrhydeddus yr Ŵyl Ban Geltaidd a gynhaliwyd eleni yn Nhrali oedd arweinydd y grŵp dawnsio lleol "Dawnswyr Tipyn o Bopeth", sef Mrs Bobbie Evans, Trelech.

Wrth annerch y gynulleidfa yn y noson agoriadol, gwnaeth hynny yn gyntaf yng Ngwyddeleg, yna yn y Gymraeg a diweddu gyda rhai sylwadau yn Saesneg. Yn ei haraith mynegodd iddi deimlo bod anrhydedd y llywyddiaeth nid yn unig wedi ei gyflwyno iddi hi ond hefyd i holl ddawnswyr a cherddorion "Dawnswyr Tipyn o Bopeth sydd wedi cefnogi'r ŵyl yn selog er 1987.

Diolchodd hefyd i'r Pwyllgor Cymreig, ac yn arbennig i Tegwyn Williams sydd wedi llafurio'n ddiwyd ar hyd blynyddoedd maith i sicrhau cynrychiolaeth gref o Gymru yn yr Å´yl Ban Geltaidd yn yr Iwerddon.

Am y drydedd flwyddyn yn olynol cipiodd Dawnswyr Tipyn o Bopeth y wobr gyntaf yn y brif gystadleuaeth ddawns ryngwladol, (2ail-Gleneagle Dancers, Eire; 3ydd-Dawnswyr Aelwyd Caernarfon). Cyflwynwyd tlws y gystadleuaeth hon - cawg (quaich) Albanaidd neu 'cwpan cyfeillion' - i Bwyllgor yr Ŵyl yn 2004 gan Bobbie Evans pan oedd yn islywydd. Heblaw am y gystadleuaeth uchod bu aelodau eraill y grŵp yn cystadlu ar hyd yr wythnos.

Bu i Gwendolen Cottam a Hilary Jay gystadlu yn yr unawd cân werin a enillwyd gan y cystadleuydd o'r Alban. Ysgubwyd y gwobrau gan aelodau "Tipyn" yn y gystadleuaeth canu'r ffidl gyda Mary Day yn cipio'r wobr gyntaf, Katie Marriott yr ail, ac Anna Fonge y drydedd. Bu i Eleanor Cottam a Mathew Burke gystadlu yn y gystadleuaeth ddawns unigol a enillwyd gan ddawnsiwr step traddodiadol o Connemara. Daeth Mathew yn drydydd da i ddawnsiwr o Gilarne.

Yn olaf bu i "Tipyn" fodloni ar y drydedd wobr yn y gystadleuaeth am 'dawns newydd ei chyfansoddi' Enillwyd y gystadleuaeth hon gan grŵ lleol arall sef Dawnswyr Talog, a Dawnswyr Caernarfon yn ail.

Bob bore yn ystod yr wythnos gwelwyd "Tipyn o Bopeth" yn eu gwisgoedd a'u hetiau ar draws y dref yn dawnsio ar y strydoedd, yn enwedig y tu allan i siopau noddwyr yr Ŵyl. Bob prynhawn aeth y grŵp i gynnig adloniant - yn gerddoriaeth, caneuon a dawnsiau - i drigolion hŷn Trali sydd yn awr yn byw mewn Cartref Henoed. Yn ystod yr wythnosbu iddynt ymweld â saith cartref yr henoed, cyn belled â Chilarne ac i lawr yn 'Y Dingle', ac un ymweliad â chleifion yr ysbyty hefyd.

Ond yn ddi-os, cafwyd "uchafbwynt" yr wythnos cyn y perfformiad yn y "Noson Gymreig" pan, am yr ail flwyddyn yn olynol, ofynnwyd i "Tipyn" ddawnsio yn Stadiwm Rasio Milgwn Trali gan ddawnsio rhwng y rasys. Bu hwn yn hwyl braf gyda phawb yn y grŵp wrth eu bodd yn dawnsio yn y Stadiwm, un o brif noddwyr yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Nhrali.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r ´óÏó´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý