大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cwlwm
Elgan Thomas Portread y Mis: Elgan Thomas
Gorffennaf 2003
Portread o Mr Elgan Thomas, Wauncordiwns, Blaenycoed

1. Rydych yn dod o'r ardal ond beth yw hanes gwreiddiau'r teulu?
Roedd fy nhad, Evan Thomas, yn hanu o deulu'r Maudsland, fferm fechan ar yr heol o Hermon i Castellnewydd Emlyn. Er mai fferm fechan ydyw fe fagwyd ar ei haelwyd un o'r teuluoedd mwyaf, mewn rhif beth bynnag, y gwn i amdano.

Credwch neu beidio cafodd un-ar-hugain o blant eu geni i Hannah a Thomas sef fy nhad-cu a mam-gu ar ochr fy nhad, ac er y bu tri ohonynt farw ar enedigaeth neu yn ifanc iawn fe lwyddodd deunaw i oroesi a byw i oedran teg. Yn wir mae tri o'r plant ieuengaf yn dal i gadw lamp y teulu ynghyn heddiw. Fe roia i waith catre i chi ffeindio mas pwy ydyn nhw.

Roedd mam hefyd, sef Mary Ellen, yn hanu o deulu go fawr, teulu'r Bwsh fel y'i gelwir yn yr ardal, tyddyn bach yn cysgodi'n ddi-nod yn y cwm gerllaw fferm Brynmeini, Talog. Yn anffodus nid yw'n ddim and ychydig adfeilion erbyn heddiw.

Ganwyd un-ar-ddeg o blant i Ann a William fy mamgu a nhad-cu ar ochr fy mam, a mae dau ohonynt hwythau yn dal i gynnau'r lamp. Mae'n debyg fod William, neu Bili Bwsh fel y gelwid ef, yn hoff iawn o wneud penillion, ac mae gen i benillion o'i waith a ysgrifennwyd mewn coffadwriaeth am gymydog.

Beth am eich teulu chi heddiw, yn Wauncordiwns?
Ym mis Medi 1977 mi briodes inne ag Anita, merch Mrs. Hannah Jane Jones, a'r diweddar Mr. Albert David Jones, Aberhenllan, Heol Llysonnen. Fe anwyd i ni ddwy ferch sef Meinir ac Anwen, y ddwy ar hyn o bryd yn dal i fyw ar yr aelwyd gyda ni.

Fferm fechan yw Wauncordiwns, ac erbyn heddiw nid yw'n ddigon o bell ffordd i gwrdd 芒 gofynion gwneud bywoliaeth. Roedd na gyfnod y byddai'n bosib cynnal teulu gyda'r anifeiliaid ar y tir, ond erbyn hyn rwy'n ofni mai'r teulu sy'n cynnal yr anifeiliaid, felly rhaid oedd chwilio am waith er mwyn cael incwm ychwanegol.

Un o'r ffyrdd hynny oedd cludo plant i ysgol Abernant, a bellach mae deng mlynedd ers i mi ddechrau gwneud hynny, ac yn ystod y saith mlynedd diwethaf rwyf wedi cael cyfle i weithio yn St么rs Talog yn dosbarthu nwyddau o bob math. Mae'n siop sy'n gwerthu tipyn o bopeth, o stamp i bostion ffensio neu fwydydd anifeiliaid, busnes gwerthfawr iawn mewn ardal wledig. Ma'r hybyseb 'na'n siwr o fod yn werth bonws go dda, wedwn i.

Beth yw eich diddordebau?
Pan oeddwn yn ifancach roeddwn yn hoff iawn o gystadlu mewn Ralis Ceir gyda'n ffrind Owen oedd bownd o fod mor ddwl 芒 finne. Cefais gryn bleser yn trefnu Helfeydd Trysor hefyd, ond un o'r pleserau mwyaf sydd gen i yw gwneud gwaith coed, rwy'n gwneud seldiau bychain ac ambell gadair eisteddfod.

Un o'r pethau ddaeth 芒'r pleser mwyaf i mi oedd cael cyfle i wneud tlws allan o bren deri at ran Aelwyd Hafodwenog ar gyfer Eisteddfod yr Urdd yng Nghwm Gwendraeth rai blynyddoedd yn 么l, ac rwy'n edrych ymlaen yn flynyddol at gystadleuaeth y parti dawns i Aelwydydd er mwyn gweld pwy sydd wedi ennill y tlws.

Ry'ch chi'n arweinydd y g芒n yng Nghapel Blaenycoed ac yn arweinydd at Barti Adar-y-Coed. Sut a phryd y dechreuodd hyn?
Fe darddodd y diddordeb o gynnal parti nosweithiau llawen a dram芒u o'r ffaith fy mod yn cofio Parti Bechgyn Blaenycoed mewn bri yn mynd o gwmpas y fro yn diddanu tua'r chwedegau. Yn anffodus fe orffennodd y parti hwnnw cyn i mi fod yn ddigon hen i ymuno, er rwy'n cofio bod yn eu cyngerdd ola' yn Elim Ffynnonddrain, a rhywffordd neu'i gilydd rown ni'n gobeithio cawsen ni'r cyfle i fod yn rhan o weithgaredd debyg.

Ym 1979, rodd yr Eglwys ym Mlaenycoed am ddewis arweinyddion y g芒n ar gyfer y plant a'r oedolion, ac er mawr syndod a braw i mi, cefais fy newis i arwain yr oedolion. Er bod hyn yn rhoi boddhad i mi wrth edrych yn 么l, rhaid cyfadde mai wrth fy nghwt y gwnes i ymgymryd 芒'r dasg, oherwydd nad oeddwn i'n deall fawr o ddim am ddysgu c芒n i mi fy hunan, heb s么n am ddysgu pobl eraill i ganu.

Gyda chymorth nifer o'r merched dawnus sy'n chwarae'r offeryn ym Mlaenycoed, a chefnogaeth Anita'r wraig, rwyf i ac Aeres, a gafodd ei dewis i arwain y plant ar yr un pryd, bron cyrraedd pum mlynedd at hugain yn ein swyddi. Rwy'n prysuro i ddweud fod 'na eraill bellach ymhlith yr aelodau sydd yn llawer mwy cymwys na mi i ymgymryd 芒r gwaith, felly byddent yn barod.

Mewn gwirionedd, o hyn y deilliodd Parti Adar-y-Coed, oherwydd yn y festri yn gwneud adloniant ar Noson Gwyl Dewi y cawsom ni'r cyfle cyntaf i berfformio. Wedi hyn gwahoddiad i fynd at eraill ar hyd y fro, a do, fe gawsom y cyfle rhyw ddwywaith i ymddangos ar y teledu ar y Noson Lawen.

I ddarllenwyr CWLWM rydych yn gyfarwydd fel dramodydd 芒'r actor tu 么l i gymeriad Wmffre yn Nramau'r Cwlwm. Beth yw cefndir hyn?
Erbyn hyn mae dram芒u yn chwarae rhan flaenllaw yng ngweithgareddau'r flwyddyn. I mi'n bersonol daeth y cyfle i droi fy llaw at ysgrifennu ambell ddrama gomedi, oherwydd bod prinder comed茂au, yn enwedig comed茂au sy'n weddus i'w perfformio ar lwyfan, a'r ffaith fod Peter Hughes Griffiths wedi fy ysgogi a'm hannog i wneud hynny.

Rhaid i mi gydnabod hefyd fod gen i ddyled fawr i'r diweddar Barch J.M. Gwyn Rhys a fu'n weinidog ym Mlaenycoed o 1967 - 1972, am ei hyfforddiant a'i arbenigrwydd ym myd y ddrama.

Adeg bythgofiadwy yw adeg paratoi ac ymarfer yn y ty co, ac mae nosweithiau tywyll y gaeaf yn hedfan heibio yn naws yr hwyl a'r gwmn茂aeth fendigedig. Diolch o galon i'r rhai hynny sy'n fodlon dod bob blwyddyn a hynny heb un geiniog o dal, and am gwpaned o de a chacen siocled gan Anita.

Bellach mae perfformiadau Adar- y-coed yn nram芒u'r Cwlwm yn ymestyn hyd at wyth mlynedd, and mae 'na ryw awydd wedi codi i wneud ein trydydd Pantomeim Cymraeg, efallai'r flwyddyn nesaf, ac os daw hyn i ben yna yn anffodus prin fydd yr amser i wneud drama yn ogystal.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy