Yr oedd Delme Evans wedi gwneud cyfraniad mawr i lawer o fudiadau. Gwelwyd hyn yn ei ffyddlondeb i'r Eglwys. Fe fuodd yn warden Eglwys Sant Ioan Caerfyrddin, ac yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru a llawer o bwyllgorau eraill yn yr Eglwys.
Yr oedd hefyd yn aelod o Goleg Ethol yr Eglwys sydd yn ethol Esgobion. Fel Cadeirydd Pwyllgor codi arian Plwyf San Pedr fe gododd arian mawr i wneud y gwaith adnewyddu ar yr eglwys yn bosib.
Y tu hwnt i'r Eglwys fe wnaeth gyfraniad mawr i fudiadau gwirfoddol, fel Coomb Cheshire Home, Canolfan Teuluol Ty Ni, Cymdeithas y Plant ac i fudiadau eraill fel y Rotari. Fe fuodd hefyd yn llywodraethwr ar Ysgol Waun Dew Caerfyrddin.
Mae'r golled yn fawr i'r teulu ac yn enwedig i'w weddw Jean, ond hefyd y mae'n golled i'r gymuned yng Nghaerfyrddin. Yr oedd Delme yn berson hyfryd, un oedd yn barod i helpu unrhyw un. Dim ond unwaith yr oedd yn rhaid gofyn i Delme wneud unrhyw beth - yr oedd yn barod bob amser.
Fe welwyd y parch mawr oedd gan bobl Cymru tuag ato yn ei angladd. Roedd dros 500 cant yno - pobol a ddaeth o dros Gymru gyfan i roi diolch i Dduw am ei fywyd a'i gyfraniad i fywyd ein cenedl.
Anodd iawn fydd llanw'r bwlch y mae wedi ei adael, ond diolch i Dduw am yr anrhydedd o gael ei adnabod a'i alw'n ffrind.
Erthygl gan Y Parchedig Ganon Randolph Thomas
|