Bu yna gystadlu brwd gyda C.Ff.I. Penybont yn fuddugol ac yn ennill y darian, C.Ff.I. Cynwyl Elfed yn ail a C.Ff.I. Llanelli yn drydydd.
Mrs Niki Roderick a Mrs Meinir Jones Parry oedd y beirniaid Cerdd, Mrs Gwenda Rees oedd y beirniad Llefaru, Miss Catrin Dafydd oedd y beirniad Gwaith Cartref, Miss Lynwen Griffiths oedd y beirniad Dawnsio Disgo, Mr Huw Watkins y beirniad Dawnsio Gwerin a Mrs Deris Williams a'i merch Anwen Eleri oedd yn beirniadu'r Adran Ysgafn. Cyfeilyddion yr Eisteddfod oedd Mr Geraint Rees a Mr Iwan Evans a diolch yn fawr iawn i bob un ohonynt am eu gwasanaeth arbennig.
Arweinyddion yr Eisteddfod eleni oedd Mr Irwel Jones, Miss Gillian Carpenter a Mr Owen Davies. Mrs Llinos Jones oedd yng ngofal ysgrifennu'r tystysgrifau. Mrs Jane Morgan a Miss Marian Thomas oedd yn cadw'r sg么r, a diolch i bawb am eu gwaith arbennig.
Gwestai yr Eisteddfod ar y nos Wener oedd Mr a Mrs Gareth Thomas, Gelliddu, ac ar y nos Sadwrn, Mr Noel Richards, Coedmoelion. Cafwyd araith wych gan y ddau a chyfraniadau hael tuag at gyllid Ffederasiwn y Sir.
Yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gerdd ac yn ennill Cadair y Sir eleni oedd Miss Gwennan Evans, C.FF.I Dyffryn Cothi. Roedd y gadair yn rhoddedig gan Mr Irwel Jones, Dyffryn Cothi, Cadeirydd y Sir. Mr Deryc Rees oedd yng ngofal Seremoni'r Cadeirio gyda Miss Ffion Thomas, C.FF.I Llangadog yn canu C芒n y Cadeirio a Mr Hefin Jones, Llanddarog yn canu'r Corn Gwlad.
Miss Angharad Thomas, C.Ff.I. Dyffryn Tywi; Miss Rhian Price Davies, C.Ff.I. Llanymddyfri; Mr Rhys Williams, C.Ff.I. Llanfynydd a Miss Hannah Witt, C.Ff.I. San Cl锚r fu'n cyfarch y buddugol. Clwb Ffermwyr Ieuainc Llangadog fu yn stiwardio trwy gydol y ddwy noson a diolch i Amaethwyr Caerfyrddin a Phumsaint am eu cefnogaeth fel noddwyr unwaith yn rhagor.
Eisteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc, Corwen
|