大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cwlwm
Siop y Pentan, Caerfyrddin Penblwydd Siop y Pentan
08 Tachwedd 2002
Mae Siop y Pentan yn dathlu 30 mlynedd ers iddi agor ei drws am y tro cynta' ym 1972. Ond mae'r perchennog, Wyn Thomas, yn poeni am ba hyd y bydd yn parhau i werthu ei nwyddau Cymraeg o'i siop yn y safle bresennol yng nghanol sgw芒r y farchnad.
Ond nid am fod yna brinder cwsmeriaid. Yn wir, i'r gwrthwyneb. Mae cwsmeriaid yn heidio i Siop y Pentan o nifer o'r ardaloedd cyfagos. Ond mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn trafod cynlluniau i symud marchnad y dref o'i lleoliad bresennol, i hen safle'r mart.

Masnachwyr yn poeni
Mae cwmni Debenhams wedi dangos diddordeb i godi siop fawr ar safle'r farchnad, ac fe fyddai hyn yn golygu symud masnachwyr y farchnad ymhellach o ganol y dref, datblygiad a fyddai'n siwr o effeithio ar eu busnesau, meddai Wyn Thomas.

"Mae yna bosibilrwydd real y bydd y Cynghorwyr yn penderfynu symud y farchnad i gyd i hen safle'r mart. Maen nhw wedi llwyddo i symud y mart anifeiliaid lawr i Nant y Ci, ac mae hwnna wedi effeithio ar ein busnesau ni, a nawr maen nhw mo'yn ein symud ni eto meddai.

"Wi'n benderfynol, fydda'i ddim yn symud i'r lleoliad newydd, a allai fod mewn rhyw ddwy flynedd a hanner. 0'n i'n ffyrnig yn erbyn symud y mart, a dw i'r un mor ffyrnig nawr ynglyn 芒'r datblygiad yma. Dw i mewn trafodaeth gyda'r cynghorwyr," meddai, ac yntau'n byw mewn gobaith na fydd ei fywoliaeth yn dioddef unwaith eto.

Penblwydd Siop y Pentan
Mae'r newyddion am ddyfodol y farchnad yn dod wrth i Wyn, fel mae'r rhan fwya' o ddarllenwyr Cwlwm yn ei adnabod dw i'n siwr, ddathlu 30 mlynedd ers agor drysau Siop y Pentan am y tro cynta'.

Sgwn i faint ohonoch chi sy'n cofio'r siop wreiddiol yn Heol Dwr, pan oedd y Prif Lenor Eurig Wyn, William Lloyd a Lyn Thomas yn ei rhedeg ?

Dyma'r hanes ...
"Ron i'n gweithio i gwmni arwerthwyr John Francis ar y pryd," meddai Wyn yn cofio am y dyddiau da. "Rodd Wil a finne'n ffrindiau yn yr ysgol, a Wil ac Eurig yng Ngholeg y Drindod gyda'i gilydd. Fe benderfynon ni fod angen siop Gymraeg yng Nghaerfyrddin," meddai.

Cyfnod byrlymus
Dilyn esiampl siopau Cymraeg eraill fel Siop y Pethe' yn Aberystwyth, Ll锚n Llyn ym Mhwllheli a Siop y Werin yn Llanelli oedden nhw, meddai Wyn, a hynny yn rhannol am fod galw am werthu recordiau Cymraeg, yng nghyfnod byrlymus y s卯n gerddorol ar ddechrau'r 1970au.

"Dyna pryd roedd pobol fel Tony ac Aloma, Hogiau'r Wyddfa, Trebor Edwards ac Edward H yn eu hanterth. Ro'dd agor siope' Cymraeg yn rhywbeth o'dd yn digwydd mewn lot o drefi yn y cyfnod. Eurig Wyn oedd yn rhedeg y siop yn Heol Dwr ar y dechre', ac fe ddes i mewn yn llawn amser yn 1974," meddai Wyn, sydd wedi gweld lot o newidiadau ar hyd y blynyddoedd.

"Mae rhai pobol yn cwyno am y ddarpariaeth o gardiau neu lyfrau Cymraeg sydd i gael heddi', ond petaen nhw'n edrych yn 么l ar beth oedd i'w gael yn y 1970au, mae'n amlwg fod pethe' wedi symud mlaen yn aruthrol. Mae'n wyrthiol," meddai Wyn wrth s么n am yr holl ddewis o gardiau, nofelau a chryno ddisgiau Cymraeg da, yn ogystal 芒 deunydd i ddysgwyr sydd ar werth ganddo yn y siop, y dyddie' hyn.

Cwsmeriaid o bobman
"R'yn ni'n ddyledus iawn i'n cwsmeriaid ni, yn enwedig myfyrwyr Coleg y Drindod ac ysgolion Cymraeg yr ardal. Mae'r busnes wedi tyfu'n aruthrol, ac rodd hwnna'n rhywbeth roedden ni'n gobeithio'n fawr pan ddechreuon ni arni dri deg mlynedd yn 么l. Mae'n siop ardal, gyda phobol yn dod 'ma o bell - mae hyd yn oed cwsmeriaid gyda ni yn America!" meddai.

Ond a oes llawer o newidiadau wedi bod yng Nghaerfyrddin o safbwynt Cymreictod?

"Flynyddoedd yn 么l roedd Cymry di-Gymraeg yn elyniaethus i'r iaith, fydden nhw byth yn dod i mewn i'r siop, ond erbyn hyn mae llawer mwy o gwsmeriaid di-Gymraeg gyda ni sy'n ymfalch茂o yn eu Cymreictod.

"Er enghraifft y mis diwetha' adeg y g锚m b锚l-droed yn erbyn yr Eidal, roedd pobol yn falch eu bod nhw'n Gymry, ac yn dod mewn i'r siop i brynu capiau a fflagiau i fynd lawr gyda nhw i Gaerdydd."

Mae Wyn, Avril a Nancy yn gobeithio'n fawr y byddan nhw'n cael sefyll y tu 么l i gownter cartrefol Siop y Pentan yn y farchnad am flynyddoedd i ddod eto, ac na fyddan nhw'n cael eu gorfodi i godi pac.





0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy