Ychydig feddyliodd y grŵp bach ohonom a sefydlodd ein papur bro y byddai'n dal i fynd dros chwe mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, ac mor llewyrchus ag y buodd e erioed. Cyhoeddwyd deg rhifyn y flwyddyn yn ddi-fwlch dros y cyfnod hynny ac mae rhifyn Rhagfyr yn rhifyn 267. Mae lle i ddiolch ac i lawenhau yn llwyddiant ein papur misol Cymraeg ni, a hefyd bod 60 o bapurau bro tebyg ar hyd a lled Cymru ar hyn o bryd. Mae sefydlu a chynnal papurau bro wedi bod yn un o ddigwyddiadau pwysicaf hanes yr iaith yn ein dyddiau ni, a chofiwch mai gwirfoddolwyr sydd wrthi, ac wedi bod wrthi ers bron i ddeng mlynedd ar hugain. T. Gwynn Jones (Abergwaun yn awr) a sefydlodd Cwlwm a dweud y gwir. Fe alwodd e yn swyddfa Plaid Cymru yn 8, Heol Dŵr yng Nghaerfyrddin i ddweud wrtha i yr hoffe fe alw criw ynghyd i weld a odd posib trefnu i ni gael papur bro yn ardal Caerfyrddin. Roedd sawl ardal yng Nghymru eisoes yn cyhoeddi eu papur Cymraeg misol, ac felly, dyma fynd ati. Rwy'n un gwael iawn am gofio ffeithiau - yn enwedig ar ôl chwe mlynedd ar hugain! Ond, rwy'n cofio bod y diweddar Aneurin Jenkins-Jones a'r Parch Emrys Jones, gweinidog Heol Awst, yn rhan o'r grŵp cyntaf gyda T. Gwynn a minnau. Aneurin feddyliodd am yr enw Cwlwm. A'r cyfrifoldeb ges i oedd y dosbarthu, ac felly, rhaid oedd mynd ati i chwilio dosbarthwr ym mhob ardal. A wyddoch chi beth, mae rhai o'r cyfeillion hynny'n dal wrthi o hyd. Am chwe mlynedd ar hugain maen nhw wedi bod wrthi bob mis yn ddifwlch ac wedi dosbarthu miloedd ar filoedd o gopïau heb unrhyw dâl am eu gwaith. A dyna fu'r ysbryd erioed - pawb yn helpu mewn rhyw ffordd i sicrhau bod Cwlwm yn cyrraedd. Yn yr un modd mae llawer o'n gohebwyr yn yr ardaloedd yn dal wrthi. Tybed faint o eiriau maen nhw wedi ysgrifennu yn Cwlwm? I mi mae teyrngarwch pobl i'n papur bro'n rhyfeddod, a mawr yw ein diolch. T. Gwynn Jones oedd y golygydd am o leiaf y ddeng mlynedd gyntaf, ac i'r rhai ohonoch sydd wedi cael y cyfle i fod yn olygydd misol neu yn hirach na hynny, gallwch werthfawrogi dyfalbarhad Gwynn - wrthi'n fisol yn casglu deunydd, lluniau a newyddion ac ysgrifennu darnau sylweddol hefyd. Y golygyddion a ddilynodd Gwynn oedd y diweddar Huw Evans, Croesyceiliog, Gareth Evans, Llangynnwr, Wynne Jenkins, Heol Bronwydd a minnau am gyfnod cyn sefydlu'rpatrwm presennol sy'n gweithio mor hwylus, sef golygyddion y mis dan ofal prif olygydd. Mae'r gwaith felly'n cael ei rannu a phob golygydd yn cael cyfle i osod ei stamp ei hun ar Cwlwm yn fisol yn awr. Ni bu cyllid yn ofid erioed i bwyllgor Cwlwm tan yn ddiweddar, gan fod costau uchel i gyhoeddi ac argraffu erbyn hyn. Fel y gwyddoch dim ond un digwyddiad blynyddol i godi arian mae Cwlwm yn ei gynnal ers dros bymtheg mlynedd bellach, a hwnnw yw Gŵyl Dramâu Cwlwm'. Ry'n ni'n dal i lenwi Neuadd San Pedr ddwy noson yn olynol yn flynyddol, a mis Mawrth nesaf fel arfer fe fydd tri chwmni lleol yn cyflwyno eu comedïau ac yn creu llond lle o chwerthin. Credaf fod cynnal y dramâu ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn gyfraniad gwerthfawr gan fod cymaint o gwmnïau lleol wedi cymryd rhan, yn ogystal â'r ffaith fod y gymuned yn cael pleser. Mae dyfodol disglair a sicr i Cwlwm, ac er nad wyf yn cario cyfrifoldeb bellach, rwy'n dal ar y pwyllgor o hyd, a bydd John James yn dod â'i ddau gant o gopiau i mi'n fisol i'w dosbarthu i werthwyr eraill. Rwy'n ofni bod Cwlwm yn y gwaed - a sa i'n credu y galla i gael 'i wared e! Peter Hughes Griffiths Cynhaliwyd noson gymdeithasol i ddiolch i Peter am ei gyfraniad aruthrol i Cwlwm ar hyd y blynyddoedd yng Ngwesty Pen y Baedd, Caerfyrddin, nos Fawrth, Tachwedd 23ain. Noson i'w chofio! Dyma englyn T Gwynn Jones (golygdd cyntaf Cwlwm) iddo: Yn ei galon mae'r golud - ai dalent yw y dwylo diwyd; Onid rhoi a rhoi o hyd a fuost trwy dy fywyd?
|