大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cwlwm
Norah Isaac. Llun gan Brian Davies. "Llwybrau Norah"
Ionawr 2004
Ar brynhawn Sul, Tachwedd 30ain, 2003 cynhaliwyd cyfarfod arbennig yn Theatr Halliwell, Coleg y Drindod i ddathlu ac i ddiolch am fywyd y diweddar Norah Isaac.

Bu'n un o'r cyfarfodydd mwyaf arbennig a gynhaliwyd erioed yng Nghaerfyrddin ac yng ngeiriau pawb a gafodd y fraint o fod yn bresennol - "fe fyddai Norah wedi bod wrth ei bodd pe bai hi yno."

Agorwyd y gweithgareddau gan y Parchedig Desmond Davies, Gweinidog Y Tabernacl Caerfyrddin, ac fe ganwyd emyn mawr John Gwilym Jones 'Fe chwythodd yr awel at Gymru drachefn', ac i ddilyn fe welwyd llwyfan llawn o blant a phobl ifainc Aelwyd Ffynnon-ddrain ac Aelwyd Myrddin.

Canodd Andrew Rees y g芒n hyfryd 'Bugeilio'r Gwenith Gwyn' a Rhian Williams Gywydd T Gwynn Jones i Norah. Cafwyd cyflwyniadau hefyd gan Mari Emlyn, Mererid Hopwood a Tudur Dylan. Yna daeth Cefin Roberts a'i ddisgyblion o Ysgol Glanaethwy i'r llwyfan gan gyflwyno hanner awr wefreiddiol wedi ei phlethu gan ddawnsio byrlymus Dawnswyr Nantgarw yng ngofal Cliff Jones ac Eirlys Britton ynghyd ag aelodau Lleisiau Ll锚n y cwmni a sefydlodd Norah yng Ngholeg y Drindod.

Ar 么l i'r Prchedig Lyn Rees, Rhydaman gyflwyno emyn Gwyl Ddewi Norah a'r gynulleidfa yn ei chanu cafwyd cyflwyniad llafar gan Carys Davies, Enillydd Gwobr Llwyd o'r Bryn 1995 a theyrngedau disglair a phwrpasol gan Y Parchedig R. Alun Ifans, Llwydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol.


Medal Cymdeithas y Cymmrodorion a oedd i'w chyflwyno i Norah Isaac ar y dydd y bu farw fis Awst diwethaf.
Medal Cymdeithas y Cymmrodorion a oedd i'w chyflwyno i Norah Isaac ar y dydd y bu farw fis Awst diwethaf.
John Samuel ar ran Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a drosglwyddodd Fedal Er Anrhydedd y Gymdeithas, a oedd i'w chyflwyno i Norah ar y dydd y bu farw fis Awst diwethaf, i Faer Caerfyrddin Peter Hughes Griffiths i'w harddangos a'i chadw yng Nghaerfyrddin.

Lansiwyd Cronfa Goffa Norah Isaac gan y Dr. Medwin Hughes, Prifathro Coleg y Drindod gan ei bod yn fwriad gan y Coleg i gomisiynu ffenestr liw er cof amdani.

Offrymwyd gweddi i gloi gan Y Parchedig Desmond Davies a therfynwyd trwy ganu emyn mawr Lewis Valentine 'Dros Gymru'n Gwlad'. Trefnwyd y rhaglen gan Mererid, Cefin a Peter ac yn dilyn y cyfarfod cafwyd cwpaned o de a chyfle i gymdeithasu yn Ystafell Cothi yng Ngholeg y Drindod.

Ac yng ngeiriau un a anfonodd air o ddiolch yn dilyn y cyfarfod - "Braint yn wir oedd cael bod yno - byddai Norah wedi ei phlesio".

Mae cerdd gan y prifardd Mererid Hopwood i Norah Isaac yn rhifyn mis Ionawr o Cwlwm.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy