´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Martin Hopwood Portread y Mis - Martin Hopwood, Llangynnwr
Mawrth 2005
Cyfle i ddod i adnabod Martin Hopwood o Langynnwr ger Caerfyrddin wrth iddo ateb cwestiynau ym Mhortread mis Mawrth, papur bro Cwlwm.
Pryd a pham y daethoch i fyw i ardal Caerfyrddin?
Daethom yma fel teulu ddiwedd 1993, wedi cyfnod o wyth mlynedd yn Llundain. Roeddwn i wedi bod yn gyfreithiwr gyda chwmnïau yn ardaloedd San Steffan a'r Ddinas, a Mererid wedi bod yn darlithio yng Ngholeg Prifysgol Llundain.

Ar ran corfforaeth ICI y bûm yn gweithio am gyfnod, ac roedd cael cyd-weithio â phobl ledled Ewrop yn gyffrous dros ben. Beth bynnag, gyda'n merched Hanna a Miriam wedi cyrraedd oedran ysgol gynradd, daeth yr ysfa gref i ddychwelyd i Gymru. Digwyddodd pethau'n sydyn iawn rywsut, ac o fewn dim o dro, roedd Mererid wedi cael swydd yn Abertawe a minnau yn Ne Penfro - felly Caerfyrddin oedd y lle canol amlwg i ymgartrefu!

Hyd heddiw, mae Mererid yn mynnu mai clywed y ddwy fechan yn ynganu geiriau fel 'cartwheel' a 'windmill' mewn acenion Cocni pur oedd y sbardun i droi nôl tuag at Glawdd Offa!

Pa newidiadau rÅ·ch chi wedi sylwi arnynt dros eich cyfnod yma'n yr ardal?
Y peth trawiadol imi yw pa mor brysur yw'r lle erbyn hyn. Deuddeng mlynedd yn ôl, roedd Caerfyrddin yn lle dipyn gwahanol yn fy marn i - doedd hi ddim yn anarferol i orfod dod a'ch modur i stop yn Heol Awst er mwyn caniatau i ddau hen ŵr orffen eu sgwrs yng nghanol y stryd! Wrth gwrs, mae ffactorau megis newidiadau yn y rhwydwaith ffyrdd, dyfodiad llu o siopau newydd a symud y mart allan o ganol y dref i gyd wedi ychwanegu at ail-ffurfio cymeriad yr ardal.

Rwy'n falch, serch hynny, 'mod i o leia wedi cael blas o'r hen gyfnod cyn iddo ddiflannu'n llwyr ... cofiaf Hywel, Penymorfa yn arwain y da ar hyd y lôn amser godro; y gŵr a'i bac o gŵn hela yn mynd am dro heibio Awel Tywi (ein stryd yn Llangynnwr); y tarw mawr du a ymddangosodd yn ein gardd gefn rhyw fore o wanwyn; mwynhau paned o goffi yng nghaffi cartrefol JD's, a hynny gyda pharablu Sbaeneg a Chymraeg yn y cefndir. Mae'r mewnlifiad o bobl o Loegr hefyd yn rhywbeth sydd wedi bpd yn amhosib i'w anwybyddu, ac erbyn hyn mae 'run mor debygol ichi glywed acenion Aldershot neu Newcastle ar y Clos Mawr ag yw hi i daro sgwrs â brodor o Alltwalis neu Gastellnewydd!

Teimlaf yn gryf dros yr angen i warchod yr iaith Gymraeg yn ein cymunedau, ac ers rhyw bum mlynedd bellach rwyf wedi bod yn un o aelodau pwyllgor rheoli Menter Taf Myrddin. Mae swyddogion y Fenter yn gwneud gwaith ardderchog, ac wrthi'n ddyfal yn creu prosiectau a chynnal gweithgareddau gyda'r nod o hybu'r Gymraeg a gwarchod ei statws yng ngorllewin Sir Gâr, a thu hwnt.

Nid yw'r cyfenw Hopwood yn cael ei ystyried fel un traddodiadol Cymreig - beth yw'r cefndir iddo?
Mae' na bobl o'r enw Hopwood wedi bod yn trigo yn ardal gogledd ddwyrain Cymru ers o leia canrif a hanner. Ym mhentref Coedpoeth, ger Wrecsam y treuliais fy machgendod cynnar, a llynedd aeth fy mab Llewelyn a minnau nôl i fro fy mebyd i weld gêm bêl-droed rhwng Cymru a Chanada ar y Cae Ras. Ar y bore Sul, aethom i oedfa yng nghapel Bathafarn (hen gapel y teulu ar ffordd y Talwrn). Cafodd Llewelyn ddweud adnod o'r sedd fawr, a chyhoeddwyd mai ef oedd y chweched cenhedlaeth yn berchen ar yr enw Hopwood i fynychu'r addoldy!

Mae'n debyg mai ymfudo i'r ardal i chwilio am waith yn y pylloedd plwm a glo oedd hanes fy nghyndeidiau. O Sir Gaerhirfryn (Lancashire) y daethant yn ôl pob sôn, er bod 'na bentref hefyd o'r enw 'Hopwood' yn nghanolbarth Lloegr, ger Coventry. Y gwahaniaeth mawr ers talwm, wrth gwrs, oedd y byddai'r mewnfudwyr yn ymdoddi i'r gymdeithas ac yn troi'n Gymry Cymraeg naturiol. Yn wir, mae Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn frith o gyfenwau dieithr Gittins, Carrington, Astley, Kelly, yn enghreifftiau o deuluoedd sydd wedi bod yn Gymry da ers sawl cenhedlaeth.

Pe na baech wedi bod yn gyfreithiwr, beth arall fyddech wedi hoffi'i wneud fel gyrfa?
Mae hwn yn gwestiwn anodd, gan fy mod yn mwynhau fy ngwaith o ddydd i ddydd. Ym maes y gyfraith sifil yr wyf yn arbenigo; datrys anghydfod ('dispute resolution') yw'r ymadrodd ffasiynol i ddisgrifio'r gwaith - sy'n cwmpasu achosion iawndal, cyfraith y gweithle, dehongli contractau, a llu o sefyllfaoedd amrywiol ble mae pobl yn anghydweld â'i gilydd!

Rwyf bellach yn gyfreithiwr gyda chwmni Morris Roberts yn Heol Spilman, Caerfyrddin ac yn hapus i gael bod yn rhan o dîm mawr o gyfreithwyr abl, pob un yn arbenigo yn ei faes dewisedig.

Does gen i ddim syniad beth fyddai wedi dod i'm rhan petawn wedi mynd ar drywydd gyrfa wahanol - rhywbeth ym maes newyddiadura, neu hanesydd efallai? Yn blentyn ysgol ifanc iawn, gyrru trên oedd y prif nod - er i bêl-droedio proffesiynol ac actio yn y theatr groesi fy meddwl wrth imi fynd yn hŷn! Rhaid dweud hefyd imi ddod i adnabod strydoedd ac ardaloedd Llundain yn bur dda yn ystod fy nghyfnod yno'n gweithio, a bu^m yn ystyried fwy nag unwaith sut beth fyddai hi i lwyr feistroli'r 'knowledge', a gyrru cab du o amgylch y metropolis!

Beth yw'ch diddordebau?
Mae un o'r atebion i'r cwestiwn hwn yn dilyn ymlaen yn naturiol o'r paragraff blaenorol. Yn debyg i lawer i riant arall, mae rhuthro o gwmpas Caerfyrddin fel gyrrwr tacsi gwallgo'n llenwi cryn dipyn o'm hamser 'hamdden'. Pan nad wyf wrthi ar garlam yn y car, rwy'n hoff o ymchwilio hanes Rhyfel Mawr 1914-18, gwylio ambell ffilm gerddorol a dilyn hynt a helynt clwb pêl-droed y dre.

Mae tîm Dinas Caerdydd hefyd yn agos at fy nghalon (gan imi dreulio deuddeng mlynedd yn y brifddinas, wedi i Mam a Nhad a'm chwaer Elspeth a minnau symud i'r De yn 1963); mae hyd yn oed Llewelyn a'r merched wedi etifeddu'r hoffter teuluol o'r Adar Glas, ac mae 'na sawl trip bob tymor i Barc Ninian. Yn anffodus (byddai Mererid yn dweud), nid yno'n unig y mae'r diddordeb yn y bêl gron yn gorffen - gan fy mod hefyd yn dilyn crysau coch y tîm cenedlaethol gartref a thramor.

Mae cefnogi Cymru dros Ewrop wedi' nghyflwyno i bob math o ddinasoedd diddorol Nuremberg, Brwsel, Zurich, Belgrade, Moscow. Ac yn wir, bydd criw ohonom o Gaerfyrddin yn ei bwrw hi am Fiena dros wyliau'r Pasg, gan obeithio gweld Cymru'n trechu'r Awstriaid (a manteisio ar y cyfle hefyd i weld ambell opera, amgueddfa gelf a chyngerdd o gerddoriaeth glasurol - Neil Rosser, LlÅ·r James a GO Jones fydd yn gyfrifol am baratoi'r gweithgareddau diwylliannol hyn).

Diddordeb teuluol newydd yw gwersylla - rydym wedi buddsoddi mewn pabell, a haf y llynedd buom ar dramp yn rhai o ardaloedd hyfrytaf Cymru (gan gynnwys un penwythnos gwych ar lethrau Cader Idris yng nghwmni ein cymdogion o Awel Tywi, Emyr a Gaynor Jones a'u merched Myfi a Gwenno).

Pwy ydych yn ei enwebu ar gyfer y mis nesaf?
Dafydd Hughes, Heol y Delyn, Caerfyrddin.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý