Pan ddechreuais arni fis Mai diwethaf doeddwn i ddim yn hollol siŵr beth oedd o 'mlaen i. Do'n i ddim yn edrych ymlaen at wisgo cadwyn ac er i mi ei gwisgo sawl gwaith yn ystod y flwyddyn dydw i ddim yn teimlo'n fwy cyfforddus yn ei gwisgo. Dydw i ddim yn berson sy'n mwynhau seremoni ac fe fydda i'n edrych ymlaen at beidio gorfod ei gwisgo eto! Er hynny ro'n i'n sylweddoli bod rhaid parchu'r traddodiad a gwisgo'r gadwyn dan ddyletswydd wnes i.
Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur ac mae'n syndod faint o amrywiaeth o ofynion sydd ar Faer mewn blwyddyn. Fe agorais i sawl bore coffi, gwledda mewn ciniawau, cefnogi perfformiadau a digwyddiadau yn y dre. Roedd hi'n deimlad braf gallu cefnogi cymaint o weithgareddau ac erbyn hyn rwy'n gallu gwerthfawrogi gwaith cymaint o wirfoddolwyr sy'n asgwrn cefn ein cymuned ni. Daeth ymwelwyr o ben draw'r byd i Gaerfyrddin a minnau yn eu croesawu yn y Parlwr. Un o uchafbwyntiau'r flwyddyn oedd sgwrsio gyda thri Maer o Slovenia gan gymharu dyletswyddau. Mae Meiri'r cyfandir yn unigolion cyflogedig gan gyflawni rôl tebycach i Brif Weithredwyr y Siroedd yng Nghymru. Doedden nhw ddim yn deall sut roeddwn i'n gallu bod yn athro ac yn Faer.
Mae'r flwyddyn wedi bod yn llawn profiadau difyr a diddorol. Un o'r profiadau mwyaf anghyffredin oedd cynnau Tân Gwyllt y dref ar y parc ym mis Tachwedd. Yn ôl fy arfer, ro'n i'n hwyr. Do'n i ddim wedi rhagweld y byddai cymaint o draffig ac roedd rhaid gadael y car ar ochr y ffordd a brasgamu i gyrraedd y parc gan mai fy nyletswydd i oedd cychwyn y sioe. Roedd tua pedair mil o bobl yn amgylchynu'r cae ar ochr y dref ond fe ges i fy hebrwng i ben pella'r cae at y meicroffon er mwyn cynnal cyfweliad. Roedd hi'n dywyll fel bol buwch a minnau'n gorfod annerch y dorf oedd ganllath a mwy i ffwrdd! Profiad rhyfedd iawn na allai unrhyw un eich paratoi ar ei chyfer. Er hynny, ro'n i'n falch mod i wedi siarad gan mai dyna'r unig Gymraeg a glywyd dros y meicroffon gydol y nos.
Mae nifer fawr o bobl wedi cael sioc o weld Maer ifancach nag arfer yn y dre eleni. Rydw i wedi ceisio cario'r Gymraeg a fy ieuenctid gyda mi i bob digwyddiad. Cafodd hyd yn oed yr ymwelwyr rhyngwladol bwt o Gymraeg gen i er mwyn profi bod Cymru yn wlad ddwyieithog. Yn hytrach na chroesawu rhedwyr Ras Harmoni'r Byd yn y Parlwr fe ddewisais i redeg pedair milltir gyda nhw. Rhedais yn Ras y Maer dros y Pasg ac fe ganŵ^iodd Llinos a fi ar yr afon Tywi ym mis Rhagfyr gyda chriw y 'Mince Pie Paddle'.
Rydw i'n gefnogwr brwd o fusnesau bach yn y dref a dydw i ddim wedi bod trwy ddrysau'r Tesco newydd. Mae cyfnod yr adeiladu yng nghanol y dref yn peri anghyfleustra ar hyn o bryd ac mae'r dref yn wynebu her dros y deunaw mis nesaf. Mae datblygiad Debenhams i'w groesawu am ei fod yn atgyfnerthu apêl canol y dref. Rydyn ni yng Nghaerfyrddin yn brwydro yn erbyn y drefn fodern o ddatblygu y tu allan i'n trefi. Serch hynny byddwn i'n annog pawb i gefnogi'r farchnad a siopau'r dref lle'n bosibl a hynny er mwyn cadw cymeriad Caerfyrddin fel tref sy'n denu pobl o bell.
Wrth edrych at y dyfodol, rydw i'n falch iawn bod y Cyngor Tref yn trafod gosod paneli solar ar y to i gynhyrchu trydan. Y gobaith yw y bydd hyn yn creu trydan ar gyfer diwallu anghenion trydan Neuadd San Pedr a chreu mwy o drydan i'w fwydo i'r grid lleol.
Diolch i bawb a fu mor gefnogol eleni. Fe roddodd y Cyngor ffydd ynof fi i gyflawni swydd y Maer am flwyddyn ond ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y gefnogaeth sylweddol yr ydw i wedi ei dderbyn.
Aled Williams
Mwy am dref Caerfyrddin
|