大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cwlwm
Mefin Davies Llwyddiant i bedwar o fro Cwlwm
Gorffennaf 2002
Mae pedwar o fro Cwlwm wedi bod yn dathlu eu llwyddiant yn ddiweddar.
Mae Mefin Davies wedi bod yn llwyddiannus yn maes rygbi, Rhian Mair Lewis yn y byd cerddorol, Glenys Thomas wedi ei hethol yn is-lywydd Merched y Wawr ac Eirith Evans wedi ei gwneud yn Llywydd yr Urdd.

Cap i Mefin
Mae Mefin Davies, Llythyrdy, Nantgaredig wedi llwyddo i ennill ei gap llawn i d卯m rygbi Cymru yn Ne Affrica. Mae Mefin wedi cael tymor llwyddiannus eleni gyda th卯m Pontypridd ac yn llawn deilwng o gael ei ddewis i fynd ar daith i Dde Affrica.

Mae eisoes wedi bod yn gapten ar D卯m A Cymru ac mae cael chwarae dros ei wlad yn goron ar ei dymor. Mae Mefin yn dilyn 么l troed un o drigolion Nantgaredig sef y diweddar Dr Jones Davies, Erw Lon a thad Henry Jones Davies. Fe chwaraeodd ef dros Gymru hefyd.

Glenys yn is-lywydd
Yn ail mae angen llongyfarch Glenys Thomas, Coedlan Mostyn, Caerfyrddin gan ei bod yn mynd i dderbyn anrhydedd uchaf mudiad Merched y Wawr. Glenys Thomas

Yn ddiweddar cafodd ei hethol yn is-lywydd y mudiad am y ddwy flynedd nesaf ac yna hi fydd Llywydd Cenedlaethol y mudiad o 2004-2006. Mae hi'n aelod o Gangen Caerfyrddin a chyn swyddog gweithgar.

Mae pawb yn gwybod am wasanaeth clodwiw a diflino Glenys ar hyd y
blynyddoedd i bethau gorau ein cenedl.

Nid yn unig ei bod yn ysgrifennydd Cwlwm ers llawer o flynyddoedd ond mae wedi bod yn ysgrifenyddes Sir Gaerfyrddin o'r Urdd hefyd gyda'r cyfrifoldeb o drefnu'r eisteddfodau sirol ers blynyddoedd maith iawn.

Fel 'tase hynny ddim yn ddigon mae hi'n cymryd rhan flaenllaw ac ymarferol mewn llu o weithgareddau diwylliannol eraill yn lleol ac yn genedlaethol. Mae Glenys yn athrawes yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman. Mae'r gwaith o arwain y mudiad pwysig hwn yn dipyn o anrhydedd.

Rhian yn ennill ysgoloriaeth
Rhian Mair Lewis Merch arall sydd ag achos i ddathlu yw Rhian Mair Lewis o Idole ger Caerfyrddin.

Mae Rhian wedi ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel am y flwyddyn 2002 mewn cystadleuaeth rhwng saith o enillwyr prif gystadlaethau Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro, a gynhaliwyd yn Theatr Stanwell, Penarth ar y 29ain Mehefin.

Mae'r ysgoloriaeth yn werth 拢2000. Darlledwyd y gystadleuaeth ar S4C yn ddiweddar, gyda Gethin Page o Flaenycoed hefyd yn cystadlu.

Cafodd Rhian ei hyfforddi ar gyfer ei buddugoliaeth ar yr unawd allan o unrhyw sioe gerdd yn y genedlaethol gan Marian Thomas, Pennaeth Adran Cerdd a'r Cyfryngau, Coleg y Drindod, Caerfyrddin.

Mae Rhian, sy'n gyn-ddisgybl o Ysgol y Dderwen ac Ysgol Bro Myrddin, yn brysur iawn ar hyn o bryd yn ymarfer ar gyfer cynhyrchiad operatig Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Yn y cynhyrchiad hwnnw fe fydd hi'n chwarae un o'r prif rannau yn y sioe Paradise Moscow gan Shostakovich syn cael ei berfformio ddechrau'r mis hwn.

Bydd Rhian yn defnyddio'r arian i gael hyfforddiant proffesiynol pellach yn Llundain.

Llywydd newydd yr Urdd
Yn olaf mae llwyddiant wedi dod i ran merch arall or fro sef Eirith Evans o Flaenycoed. Mae Eirith wedi ei gwneud yn Llywydd yr Urdd am y flwyddyn 2002.

Eirith EvansErs pan yn ifanc iawn bu Eirith yn cystadlu'n gyson yn Eisteddfodau'r Urdd. Mae hi'n berson amryddawn iawn ac mae hi'n athrawes yn Ysgol Gynradd Pontyberem.

Mae hi wrth ei bodd yn crwydro ar draws y byd. Bu'n astudio yn Houston, gweithio yn Awstralia ac arwain trip o aelodau'r Urdd i Dwrci yn ogystal ag ymweld 芒 Lesotho.

Mae Eirith yn cydnabod ei dyled i fudiad yr Urdd ac yn awr yn cael y cyfle i wasanaethu'r mudiad.





0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy