´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Logo Ysgol y Dderwen Addysg Gymraeg tref Caerfyrddin
Ionawr 2005
Ysgol y Dderwen, sef ysgol Gymraeg tref Caerfyrddin yn dathlu ei phen-blwydd yn hanner cant oed ym mis Ionawr 2005.
Sefydlwyd yr Ysgol Gymraeg gyntaf yng nghanolfan yr Urdd yn Heol Llanbadarn, Aberystwyth ar 25ain o Fedi 1939 gan Syr Ifan ab Owen Edwards a Miss Norah Isaac.

Ond, dros gwpaned o de yng nghaffi'r Dolwar yn Heol Las, Caerfyrddin yr heuwyd yr hedyn cyntaf i sicrhau bod addysg Gymraeg yn dod yn rhan o batrwm addysg yn y dyfodol, a Sir Gaerfyrddin oedd yr Awdurdod Addysg cyntaf yng Nghymru i gynnal ysgolion Cymraeg o dan y Ddeddf Addysg 1944. Dr Matthew Williams, Arolygydd Ysgolion, ac yn byw yng Nghaerfyrddin ar y pryd, a Miss Olwen Williams o Lanelli oedd y ddau yng nghaffi'r Dolwar, ac ar ddydd Gŵyl Dewi Sant yn 1947, yn festri Capel Seion, Llanelli, yr agorwyd yn swyddogol Ysgol Gymraeg Llanelli gyda Miss Olwen Williams yn brifathrawes ar 34 o blant.

Ers y dyddiau hynny tyfodd Ysgol Dewi Sant ac Ysgol Brynsierfel yn ysgolion Cymraeg llewyrchus iawn yn nhref y sosban.

Er i rieni yn nhref Caerfyrddin ymgyrchu am Ysgol Gymraeg o 1946 ymlaen gorfod iddyn nhw aros tan Ionawr 3ydd 1955 cyn gweld agor Ysgol Gymraeg Caerfyrddin yn rhan o Ysgol y Merched, Pentrepoeth gyda 21 o blant rhwng saith ac wyth oed. Miss Gwen Jones, Gorwel, Bancffosfelen oedd yr athrawes ar y dosbarth hwn gyda Miss E.H.Goodwin o Gynwyl Elfed yn brifathrawes ar Ysgol Pentrepoeth. Felly mae Addysg Gymraeg yn dathlu ei hanner canfed pen-blwydd yn nhref Caerfyrddin a bellach mae ymhell dros 300 o ddisgyblion yn Ysgol y Dderwen, yr enw a roddwyd ar yr ysgol yn 1962.

Erbyn Medi 1955 apwyntiwyd dwy athrawes arall i'r ysgol sef Miss Gwyneth Davies a Mrs Enid Jones, Maelor, Heol Abergwili. Roedd 50 o blant yn yr ysgol mewn llai na blwyddyn, gyda thair athrawes. Tyfodd yr ysgol yn gyflym iawn a ffurfiwyd Cymdeithas Rhieni yn dilyn cyfarfod yn Festri'r Priordy ar Fawrth 15ed 1956.

Etholwyd y Dr Jac L. Williams, darlithydd yng Ngholeg y Drindod, yn gadeirydd a'r Parch Cyril Williams, gweinidog Capel y Priordy'n ysgrifennydd. Etholwyd Mr Howard Lloyd yn gadeirydd yn fuan wedyn gan i'r Dr Jac L. Williams symud i'r Brifysgol yn Aberystwyth. Ers y dyddiau cynnar hynny mae'r Gymdeithas Rhieni wedi gweithio'n ddifwlch er lles yr ysgol gan ddangos cefnogaeth i bob agwedd ar ei gwaith.

Ar Fedi'r 1af 1959 cychwynnodd Mr W.J. Phillips o Lanpumsaint yn brifathro ar yr ysgol ac ar fore Gwener Mehefin 12ed 1964 agorwyd 'Cylch y Cymry Bach' gan y Parchedig W.B. Griffiths, Gweinidog Capel y Priordy erbyn hynny, a chadeirydd y pwyllgor cyntaf a wnaeth gais am Ysgol Gymraeg yn 1947.

Mrs Teresa MacWilliam, Llangain yn awr, oedd yng ngofal y cylch yn Festri Capel Heol Dŵr. Er bod Ysgol Feithrin bellach yn rhan o Ysgol y Dderwen ers agor yr ysgol newydd yn 1984 mae 'Cylch y Cymry Bach' yn dal yn boblogaidd er iddi newid ei henw sawl tro ar hyd y blynyddoedd yn Festri Capel y Tabernacl a bellach yn Festri Capel Bethania o dan ofal Mrs Sharon Lewis. Yn 1966 symudodd Ysgol y Dderwen o Bentrepoeth i safle Ysgol y Grange (y safle presennol) gan fod lle i saith dosbarth yno.

Yn 1984 ymddeolodd Mr W.J.Phillips ar ôl 25 mlynedd fel prifathro. Apwyntiwyd Mr Berwyn Jenkins, brodor o Aberteifi'n brifathro newydd ar yr ysgol newydd bresennol a godwyd ar yr un safle. Bu Mr Berwyn Jenkins yn brifathro am 20 mlynedd gan ymddeol yn yr haf 2004, ac mae'r prifathro newydd, Mr Huw Watkins o Bontarddulais, wedi cychwyn ar ei ddyletswyddau ers Medi diwethaf.

Ar Fedi'r 1af 1986 y mabwysiadwyd Gwisg Ysgol o liwiau gwyrdd ac aur. Cynlluniwyd bathodyn gan Owen Charles ac Eleri Lewis a dewiswyd arwyddair priodol iawn - 'O'r Fesen, Derwen a Dyf'. Ac o'r fesen a blannwyd hanner can mlynedd yn ôl mae'r ysgol bellach yn dderwen fawr gadarn. Boed i fes gael eu plannu a thyfu'n dderi cadarn am yr hanner can mlynedd nesaf eto.

Peter Hughes Griffiths

DERI DDATHLU!

Braf oedd gweld Theatr y Lyric yn llawn ar Ragfyr 7fed a'r 8fed ar gyfer cynhyrchiad ysgol y dderwen - Deri Ddathlu.

Roedd y sioe, gyda chast o fwy na thri chant o blant yn olrhain hanes Addysg Gymraeg yn nhref Caerfyrddin dros yr hanner canrif diwethaf.

Gosodwyd yr hanes mewn cyd-destun diddorol, sef parti pen blwydd cymeriad o'r enw Dewi a oedd yn cyd ddathlu ei ben blwydd yn hanner cant. Roedd y gynulleidfa wrth ei bodd yn edrych drwy albwm lluniau a ymddangosodd yn grefftus ar y gefnlen hwnt ac yma. Llwyddodd y lluniau, a dynnwyd dros yr hanner canrif, i hel atgofion nifer helaeth o'r gynulleidfa, a oedd yn cofio rhai o'r digwyddiadau hanesyddol hynny.

Roedd hwyl y dathlu yn amlwg drwy'r cynhyrchiad gyda'r plant yn perfformio caneuon, sgetsys a dawnsfeydd amrywiol, ar lwyfan a oedd wedi ei addurno â channoedd o falŵns gwyrdd a melyn - sef lliwiau Ysgol y Dderwen. Roedd yn bleser clywed y disgyblion yn canu'n glir a thaflu eu lleisiau yn gwbl naturiol. Roedd y band yn gymorth mawr i'r canu a'r symudiadau.

Cafwyd diweddglo bythgofiadwy gyda'r cast cyfan ar y llwyfan, a Myrddin yn ymddangos o'r gacen ben blwydd gan ddarogan dyfodol disglair a llwyddiannus i Addysg Gymraeg yng Nghaerfyrddin.

Perfformiad caboledig, lliwgar a phwrpasol!

Huw Watkins
Pennaeth yr ysgol

Mae nifer o luniau o sioe Deri Ddathlu, ac o ddyddiau cynnar addysg Gymraeg yng Nghaerfyrddin i'w gweld yn rhifyn Ionawr 2005 o Cwlwm.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r ´óÏó´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý