大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cwlwm
Pentref Abernant Adnabod Abernant
Mai 2004
Hanes pentref Abernant ger Caerfyrddin yw'r diweddaraf yn y gyfres o erthyglau 'O bentref i bentref' ym mhapur bro Cwlwm.
Disgrifiad o bentre Abernant mewn rhifyn o'r Carmarthen Antiquarian Society and Field Club yw ei fod "wedi ei leoli mewn man rhamantus iawn o'r Sir, a'i hanes cynnar ar goll yn niwl aneglur y gorffennol." Erbyn heddiw, disgrifiad teg o'r lle yw tri ar ddeg o dai, ysgol ac eglwys, saith milltir i'r gorllewin o Gaerfyrddin.

Ar un adeg, roedd y lle yn ganolfan i ffermwyr ardal eang, gyda swyddfa bost, efail y gof a'r dafarn yn fan cyfarfod, a'r "pwll sand" yn lle i gael graean i daenu ar heolydd y ffermydd. Erbyn hyn yn anffodus, dim ond yr eglwys a'r ysgol sydd ar 么l.

Mae hanes diddorol i eglwys y plwyf sef Eglwys y Santes Lucia. Yr hanes cyntaf am yr eglwys yw ym 1197 gyda chyfeiriad at y cysylltiad gyda Priordy Sant Teilyddog neu yn ddiweddarach, Ioan yr Efengylydd, ond mae maint y fynwent yn awgrymu fod Cristnogion wedi cyfarfod ar y safle ymhell cyn y flwyddyn 1000.

Y gred yn lleol yw mai hon yw y fynwent eglwys fwyaf yn Nyfed - gan ei bod hi yn mesur dros 4 a hanner erw. Yn rhyfedd iawn mae nant yn rhedeg drwy'r fynwent, ac mae gwaharddiad ar gladdu ar ochr ddwyreiniol y nant ers yr ail ganrif ar bymtheg pan gladdwyd cannoedd o bobl tref Caerfyrddin yno adeg y pla.

Mae darllen rhai o'r cerrig beddau yn ddiddorol gan fod nifer yn cofnodi pobol o waelod y sir a hefyd Gogledd Penfro. Does neb yn siwr beth oedd y rheswm dros deithio mor bell, ond i brofi poblogrwydd yr eglwys cyfeirir at y rhiw sy'n arwain o'r sgw芒r o dan y pentre tuag at fferm Lan fel "Rhiw Cyrff " gan fod hersiau yn cael eu gadael dros nos yno, gyda'r ceffylau yn cael stabl ar y fferm.

Adeiladwyd yr ysgol bresennol ym 1955, ond mae'r hen ysgol yn dal ar ei thraed yn gwarchod prif fynedfa'r eglwys. Diddorol yw cofnodi hanes cynnar addysg y plwyf sy'n dechrau gyda sefydlu un o ysgolion Griffith Jones ym 1738, ac erbyn 1833 roedd ysgol barhaol yn Abernant yng ngofal y curad, ac mae mesuriadau yr adeilad ar y pryd yn profi fod yr ysgol wedi ei chynnal yno hyd 1955, cyfnod o 122 o flynyddoedd.

Ym 1866 adeiladwyd Capel Cendy, capel yr Annibynwyr ar groesffordd tua hanner milltir o'r pentre ar dir stad Pant-y-Cendy.

Cafwyd y tir gan y sgweier a oedd yn berchen ar bori pob fferm yn yr ardal ar les o 199 o flynyddoedd am dri swllt a chwech cheiniog o ardreth.

Roedd sgweier Pant-y-cendy yn ddyn p诺erus iawn yn berchen ar bron pob fferm a thyddyn yng ngwaelod y plwyf, ac un ffaith ddiddorol yw fod lliwiau wedi dylanwadu ar bwy bynnag fu'n gyfrifol am roi enwau ar y llefydd.

O amgylch y pentre mae Panty-cendy (y gwreiddiol "du"), Ffynnonwen, Frongoch, Waungochen, Tygwyn, Posty Uchaf ac Isaf (Post du), ac er yn feudy erbyn hyn, T欧-du, ac efallai bod Cwmfflowrog hefyd yn rhan o ryw fath o thema.

Er y newid mawr dros y canrifoedd, mae un peth yn sefyll. Amaethu yw prif neu, efallai, unig ddiwydiant yr ardal o hyd.

Arwyn Davies


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy