大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cwlwm
Bryan Walters a'i deulu Portread y mis : Bryan Walters
Ionawr 2003
Mae Bryan Walters yn ffermwr ac yn ddiddanwr, ac yn adnabyddus iawn yn Sir Gaerfyrddin. Cwlwm fu'n gofyn ei hanes ...
1. Ble ganwyd a'ch magwyd chi Bryan?
Fe'm ganwyd ac fe'm magwyd yng Nghlynmelyn, Ffynnonddrain, Caerfyrddin, ac rwyf wedi byw yma ar hyd fy oes.

2. Pwy ddylanwadodd arnoch chi a pha gyfleoedd gawsoch chi drwy Fudiad y Ffermwyr Ifainc?
Y bobl wnaeth ddylanwadu arnaf oedd Mr. a Mrs. Trevor Davies, neu Anti Mary a DT. Cefais llawer iawn o gyfleoedd trwy fudiad y ffermwyr ifainc, yn amrywio o gystadlu mewn siarad cyhoeddus, a barnu stoc, i gymryd rhan yn yr eisteddfod. Yn ogystal a hyn cefais gyfleoedd i deithio dramor gyda'r mudiad a bod yn gadeirydd clwb a Sir.

3. Rhowch ychydig o'ch cefndir a'ch hanes fel amaethwr.
0 Gwmduad daeth fy nhad, a mam o Lanllwni. Daeth fy rhieni i ffermio Clynmelyn yn 1950. Cefais fy addysg yn ysgol y Model, Ysgol Ystrad Tywi ac yna Coleg Amaethyddol Gelliaur.

Yn ystod y 1970au ar 1980au, can erw oedd Clynmelyn, a'r fferm yn cadw rhyw bedwardeg o wartheg godro a chant o ddefaid yn cynhyrchu wyn tew. Ar 么l priodi yn 1986 ac ymddeoliad fy rhieni, cymerais y fferm drosodd gyda Ann. Yn y 1990au gwnaethom ychwanegu at Glynmelyn gan brynu 220 erw, ac erbyn hyn rydym yn ffermio dros 300 erw o dir.

4. Pam rych chi wedi troi i ffermio'n organig?
Yn 1999 penderfynais drosglwyddo'r ddaear yn fferm organig oherwydd fy mod yn teimlo ers nifer o flynyddoedd fy mod wedi mynd yn or ddibynnol ar brynu gwrtaith a chemegau sydd ddim yn garedig i'r amgylchedd. Teimlais bod rhaid i'r fferm fynd yn fwy hunangynhaliol. Trueni nad yw'r llywodraeth yn teimlo yr un peth yn lle mewnforio bwyd o bob rhan o'r byd.

5. Pa swyddi ych chi wedi ac yn dal o fewn Undeb Amaethwyr Cymru a maint o waith yw hyn?
Y swyddi rwyf wedi eu dal o fewn Undeb Amaethwyr Cymru yw Cadeirydd Pwyllgor Llaeth y Sir ac yn genedlaethol, Cadeirydd Sir G芒r o'r Undeb, a bellach rwyf yn fy nhrydedd flwyddyn fel Is-Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru. Mae'r gwaith yn golygu mynychu llawer o gyfarfodydd ar draws Cymru yn datgan barn yr undeb a hefyd teithio i Lundain ar adegau.

6. Oes diddordebau eraill gyda chi?
Mae fy niddordebau yn cynnwys actio, perfformio, dweud j么cs a chynorthwyo'r ffermwyr ifainc, pan fo cyfle.

Rwyf hefyd yn mwynhau bod yn ddeiacon yng Nghapel Elim, Ffynnonddrain, ac yn gynrychiolydd rhanbarthol o gwmni Llaeth First Milk. Ond caf y wefr fwyaf wrth actio yn nramau CWLWM bob blwyddyn.

7. Rhowch ychydig o hanes eich teulu i ni.
Daw Ann fy ngwraig o Fferm Brynhogfaen, Cwrtnewydd, ac mae hi'n gartrefol iawn ar y fferm. Mae hi'n brofiadol iawn yn godro, ac yn edrych ar 么l yr anifeiliaid yn dda iawn.

Mae Catrin fy merch ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin ac yn wynebu TGAU eleni. Mae hi'n chwarae'r ffliwt a'r piano ac yn aelod o fudiad y ffermwyr ifainc, ac yn fodlon gweithio ar y fferm pan fydd angen.

Mae Aled ym Mlwyddyn 9 yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin. Mae e'n hoff iawn o chwaraeon ac yn aelod o dim P锚l droed Tref Caerfyrddin. Mae'n chwarae'r trwmped ac yn mynychu clwb ffermwyr ifainc San Pedr. Mae'n ffermwr brwd gyda diddordeb mawr mewn gwartheg Ayrshires ac yn gymorth mawr ar y fferm.

Mae Seimon ym Mlwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin. Mae ganddo ddiddordeb mewn chwaraeon fel p锚l droed a rygbi ac mae'n chwarae i'r ysgol ac i d卯m 'Carmarthen United'. Mae'n gweithio'n galed ar y fferm pan fo angen, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn peiriannau. Mae e hefyd yn hoffi gwylio'r teledu, ac yn dwli ar ffilmiau James Bond. Mae'r tri ohonynt yn mynychu ysgol Sul Capel Elim.

8. Beth hoffcch chi weld yn digwydd yn 2003?
Yn 2003 hoffem weld gwerth yr Ewro yn cryfhau er mwyn i gynnyrch ffermydd Prydain gael cystadlu yn well gyda gwledydd eraill Ewrop. Yn ogystal 芒 hyn hoffwn weld llai o arfau'n cael eu cynhyrchu yn y byd, er mwyn cael mwy o heddwch.

10. Pwy 'rych chi'n enwebu ar gyfer mis nesaf?
Dewi Thomas, 25 Heol Dewi Sant, Caerfyrddin.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy