Daeth aelodau a gwesteion yn llu i Rydymarchog ar 29 Mai wrth i'r Cwpan Ryder lanio mewn hofrennydd ar ei daith o amgylch holl glybiau golff Cymru. Rhoddwyd y tlws hwn gan Samuel Ryder (1858-1936) yn 1926 ar gyfer cystadleuaeth rhwng Unol Daleithiau America a Phrydain ag Iwerddon bob dwy flynedd. Erbyn heddiw cystadleuaeth rhwng Ewrop ac UDA ydyw. Cynhelir yr ornest nesaf yn America ond bydd yn dychwelyd i'r Celtic Manor ger Casnewydd yn 2010.
Pleser oedd gweld cymaint o blant ac oedolion yn ysu am y fraint o ddal y cwpan ac fe lwyddodd Berian Jones, aelod a ffotograffydd y clwb, i gwrdd â gofynion pawb a ddymunai lun o'r aur yn eu dwylo.
Roedd yn anrhydedd, hefyd, i weld nifer o bwysigion Ileol yn bresennol gan gynnwys Aled Williams ac Anthony
Parry, Cyng. Anthony Jenkins, Cyng. Aled Williams, Alan Jenkins, Maer a Maer etholedig Caerfyrddin yn ogystal â Wyn Evans, dirpwy-bennaeth Pwyllgor Gweithredol Cyngor Sir Gâr.
Hebryngwyd y cwpan gan Parnell Reilly, capten y PCA, a oedd wrth ei fodd â'r croeso brwdfrydig a gafwyd yng Nghaerfyrddin. Croesawyd yr ymwelwyr gan Iwan Parry, Capten Clwb Colff Caerfyrddin, Ann Morris, Capten y Boneddigesau, Alan Evans, Llywydd, a Jeff Harries, Cadeirydd y Clwb. Gresyn taw ugain munud yn unig oedd yr ymweliad gan fod ganddynt ddeg clwb ar hugain ar eu taith bob dydd cyn glanio yn y Celtic Manor ar ddiwrnod olaf Cystadleuaeth Golff Agored Cymru. Serch hynny, bu'n achlysur bythgofiadwy i bawb ar y diwrnod pan ddaeth y tlws hanesyddol i Rydymarchog.
Os dymunir, mae lluniau ychwanegol i'w gweld ar wefan y PCA.
|