大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cwlwm
Alun Lenny Dyddiadur Dyn y Newyddion
Mawrth 2007
Mae Alun Lenny'n rhoi'r gorau i'w swydd fel gohebydd ar 么l bron i 30 mlynedd ar radio a theledu. Yn ystod ei yrfa bu'n gohebu ar filoedd o straeon.

Dyma dair stori o'i ddyddiadur i roi blas o fyd y gohebydd i ddarllenwyr Cwlwm.

Hydref 4ydd, 1992
Nos Sul. Cyrraedd n么l o Firmingham (wedi mynd 芒 mam-gu i weld anti Ethel) Newydd gael swper - a'r ff么n yn canu. Ar yr M4 o fewn yr awr; gyrru lan dros nos i Heathrow, a dal awyren chwech y bore i Amsterdam. Stori fawr y dydd - ar bob sianel ar draws y byd - oedd bod awyren fawr B747, eiddo i fyddin Israel, wedi disgyn mewn pelen o d芒n ar ben bloc mawr o fflatiau.

Roedd mwg yn dal i godi o weddillion yr adeilad erbyn i fi a Guto Orwig - y dyn camera - gyrraedd. Heidiau criwiau camera yno o bob rhan o'r byd, a'r heddlu wedi codi bariwns i gadw pobol bant. Clywodd Plisman Guto a fi'n sgwrsio yn Gymraeg, a holodd o ba wlad y daethom. Soniodd iddo chwarae rygbi yn erbyn t卯m heddlu de Cymru ac o fewn munud, agorodd y glwyd a'n hebrwng i ganol y llanast. Two minutes meddai. Ffilmio'r gwasanaethau brys yn twrio trwy'r rwbel am y byw a'r meirw (lladdwyd deugain yn y fflatiau, a chriw'r awyren). Gwneud 'darn i gamera' o flaen yr hyn oedd yn weddill o'r awyren fawr.

Drewdod tanwydd, awyren yn drwm yn yr awyr - a rhywbeth arall: arogl melys, rhyfedd, nad allwn ei adnabod. Llywodraeth Israel yn dweud bod yr awyren yn cario persawr, ymhlith nwyddau eraill. Od - meddyliais ar y pryd. Yn llawer hwyrach daeth, y gwirionedd i'r golwg, roedd yr awyren yn cario cynhwysion i wneud y nwy nerfau cythreulig Sarin. Bu cannoedd o bobol yn s芒l, a chefais innau drafferth anadlu o bryd i'w gilydd am dro wedyn - heb reswm amlwg. Dyw dyn byth yn gwybod lle all perygl lechu mewn swydd fel hon. Ac ychydig a wyddwn - wrth fynd i fy ngwely ym Mirmingham nos Sadwrn - taw yn Amsterdam ar nos Lun y gwelwn wely nesa!

Mai 20fed 1986
Soar-y-mynydd, ar fore braf. Gobeithio holi Americanwr oedd ar wyliau yn y cylch am gyrch awyr Ronald Reagan ar Lybia. Y g诺r oedd Jimmy Carter : - rhagflaenydd Reagan yn y T欧 Gwyn. Llond car o heavies yn cyrraedd: pob un 芒 sbectol dywyll, radios a drylliau dan eu cotiau. Chwilio dan seddau Soar am fomiau! Gyrrwr y car oedd PC Owen Lake. Wedi nabod e ers yn fachgen bach pan oedd e'n blisman pentre ym Mrechfa. Yr yanks yn i edrych yn sarrug arnom yn sgwrsio'n Gymraeg. "Do you, know these guys?" holodd un. "Yes, yes" atebodd Owen "I used to lodge with his uncle Bob and Aunty Margaret in Brechfa!"

Carter yn cyrraedd, g诺r bonheddig, dirodres. Sefyll tua fas i Soar yn holi'r dyn fu gynt 芒'i fys ar y botwm allai fod wedi dinistrio'r byd. Lawr i Gwrtycadno - a golygfa mwy swreal fyth. Bois y bryniau'n brysur yn cneifio, a Carter yn tynnu ei siaced a bwrw ati i gneifio dafad! Chredwn i fyth - oni bai i mi weld, a ffilmio'r peth.

Awst 19eg, 1987
Alun Lenny yn rhannu j么c gyda John Evans ar ei benblwydd yn 111 oed.John Evans o Abertawe yn mynd i Lundain am y tro cyntaf erioed - ar ei ben-blwydd yn 110! 'Mynd gyda fe ar y tr锚n. John mewn cadair olwyn (er hwylustod) ac yn synnu'r paparazzi ar blatfform Paddington 'trwy aros ar ei draed a chodi ei het i'w cyfeiriad! Taith o gwmpas T欧'r Cyffredin, a chael tystysgrif gan y Guinness Book of Records i dystio taw fe yw'r dyn hynaf yn y byd.

Dyma Gymro pybyr: "Fi ishe gweld mesur iaith Dafydd Wigley, yn mynd drwy'r senedd", meddai - fel dymuniad am y flwyddyn i ddod. Bu'n bwrw'i bleidlais yn etholiad cyffredinol 1987- gan gerdded o'r car i'r orsaf bleidleisio. Ac yn 112 bu'n dathlu canrif ers dechrau gwaith mewn pwll glo. Bu farw John Evans ar drothwy ei ben-blwydd yn 113. A'i gyfrinach am y fath hirhoedledd? "Dim yfed, dim smoco, ,,a dim rhegi!"

Diolch i chi Alun am ddod a newyddion y dydd i'n cartrefi am dros chwarter canrif.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy