Fel sawl pentref arall, mae Trelawnyd yn gallu ymfalchi'o yn ei gyfraniad i'r traddodiad cerddorol Cymreig. Prin iawn, fodd bynnag, yw'r pentrefi sy'n gallu dweud eu bod wedi magu cerddor a pherfformiwr mor amryddawn a Rhys Jones. Dros y blynyddoedd bu'n diddanu, yn cyfeilio, yn arwain, yn ysbrydoli ac yn hyrwyddo cerddoriaeth o bob math gan wneud cyfraniad amhrisiadwy yn lleol ac yn genedlaethol.
Ymhlith y cant a mil o bethau y bu Rhys yn ymwneud a nhw, mae Rhys wedi bod yn cyflwyno ei raglen radio 'Taro Nodyn' ar Radio Cymru yn ddi-dor am 25 o flynyddoedd, a daeth Rhys, Gwen, Caryl a Dafydd a chynulleidfa deilwng ynghyd a nifer o artistiaid at ei gilydd i ddathlu'r achlysur hwnnw. Yn eu plith roedd y grwp Eden, Steffan Rhys Hughes o Landyrnog a Ch么r Meibion Trelawnyd dan arweiniad Geraint Roberts, gyda Angela Roberts a Ceinwen Roberts yn cyfeilio. Talwyd teyrnged i waith Rhys gan un arall o'i gydweithwyr, sef Aled Lloyd Davies, a chafwyd datganiad Cerdd Dant ganddo yntau.
Yn ogystal, fel rhyw 'sypreis' bach, cafwyd teyrngedau wedi eu recordio gan Tara Bethan, Eurwyn Williams (大象传媒) a Gareth Glyn.
Fel arwydd o werthfawrogiad y Gorfforaeth, cyflwynodd Marian Wyn Jones, Pennaeth y 大象传媒 yng Ngogledd Cymru, lun cartwnaidd a oedd wedi ei gomisiynu yn arbennig, i Rhys, a thusw o flodau i Gwen.
Cafodd y rhaglen, a recordiwyd, ei darlledu gan y 大象传媒 yn ystod cyfnod y Nadolig.
Casgliad newydd o ganeuon Rhys Jones ac Aled Lloyd Davies
Ar Dachwedd 25, lansiwyd cyfrol newydd o ganeuon o'r enw 'Digon i Mi' gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn Cyf. Ffrwyth partneriaeth dau a fu'n cyd-weithio yn gerddorol ac yn addysgol dros sawl blwyddyn yw hon. Mae'n cynnwys pum unawd ac un ddeuawd wladgarol sydd wedi'u hanelu at leisiau tenor, bariton neu soprano yn bennaf, ond mae modd addasu'r caneuon ar gyfer lleisiau eraill.
Ar ran Cwmni Gwynn, dywedodd Arfon Gwilym: 'Mae'n fraint arbennig cael cyhoeddi cyfrol fel hon gan ddau berson sydd wedi gwneud cyfraniad mor enfawr i fywyd diwylliannol Cymru ers cymaint o flynyddoedd. Mae'r gyfrol yn 'cynnwys caneuon gwych, a dwi'n sicr y bydd canu mawr arnyn nhw yn y blynyddoedd nesaf: Chi gerddorion ac unawdwyr bro'r Glannau beth amdani?