Awst yr wythfed 1609 oedd hi, ac i ŵr o'r enw Galilei Galileo (1564-1642) roedd hwnnw yn ddiwrnod mawr. Flwyddyn cyn hynny roedd o wedi cael gafael ar ddisgrifiad o delesgop yr oedd rhyw ŵr o'r Iseldiroedd wedi ei lunio. Ar sail y disgrifiad hwnnw, roedd o wedi mynd ati i geisio datblygu ei delesgop ei hun ac wedi llwyddo.
Ar y noson dan sylw roedd wedi trefnu i gyfarfod rhai o wyr pwysicaf Fenis er mwyn iddyn nhw weld ei ddyfais newydd a rhyfeddol ac er mwyn iddo fedru sôn wrthyn nhw am rai o'r pethau roedd wedi eu gweld trwyddo. Mentrodd honni, fel roedd Copernicus wedi gwneud bron i 200 mlynedd o'i flaen, nad y ddaear oedd canol y bydysawd. Cafodd ei erlid gan yr Eglwyd Gatholig oherwydd ei syniadau a threuliodd ran olaf ei oes wedi ei gaethiwo yn ei gartref.
Disgrifiwyd Galileo fel 'tad astronomeg fodern' a phriodol iawn, felly, oedd dewis 2009, union 400 mlynedd ar ôl iddo syllu ar awyr y nos trwy ei delesgop am y tro cyntaf, fel Blwyddyn Ryngwladol Seryddiaeth. Mae 140 o wledydd ar draws y byd yn cyfrannu, a gweithgareddau yn cael eu cynnal yn genedlaethol ac yn rhanbarthol. Y bwriad yw annog pobl i ymddiddori mwy yn awyr y nos a dechrau rhannu peth o'r rhyfeddod a brofodd Galileo.
Yma yng Nghymru, cymharol ychydig o sylw a gafodd y dathliadau, ond mae'n ddiddorol nodi, serch hynny, bod amryw o gysylltiadau rhwng gogledd-ddwyrain Cymru ac astronomeg. Does dim angen crwydro ymhell yng nghyffiniau ardal Y Glannau i ddod o hyd i hanes dau berson oedd â chysylltiad â'r fro hon, dau berson a oedd, yn eu dydd, yn ffigyrau pwysig ym myd astronomeg.
John Silas Evans (1864-1953)
Yn 1887 y penodwyd John Silas Evans yn gurad yn Eglwyd y Plwyf, Diserth, swydd a gyflawnodd am dair blynedd cyn iddo gael ei benodi'n ficar corawl yng Nghadeirlan Llanelwy. O ddyddiau ei ieuenctid roedd Evans, a fagwyd ym Mhencarreg, Sir Gaerfyrddin, yn ymddidori yn y sêr ac erbyn diwedd ei oes cafodd ei arbenigrwydd a'i wybodaeth eu cydnabod trwy iddo gael ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Seryddol Frenhinol. Yn ystod cyfnod a dreuliodd fel ficer Llanrhaeadr ym Mochnant (1909-1938) ceisiodd ennyn diddordeb ei blwyfolion yn y sêr trwy beintio nenfwd corff eglwys y plwyf yn las a gosod y sêr yn eu lle arno! Gwaetha'r modd, fe ddilewyd y gwaith a wnaeth pan gafodd yr eglwys ei thrin yn 1940.
Yn ystod ei gyfnod ym Mhowys, cyhoeddodd Evans gyfrol o'r enw 'Seryddiaeth a Seryddwyr', llyfr hynod o ddiddorol oedd yn crynhoi yr hyn a wyddai gwyddonwyr y cyfnod am y bydysawd.
Isaac Roberts (1829-1904)
Gŵr arall sydd â chysylltiad â'r fro hon ac sydd hefyd yn haeddu ei grybwyll yng nghyd-destun Blwyddyn Ryngwladol Seryddiaeth yw Isaac Roberts. Ym mhentref Y Groes, Dinbych, y cafodd ei eni, a bu yntau, fel Silas Evans, yn ymddiddori yn y ser trwy gydol ei oes. Wedi iddo ddod yn ŵr cyfoethog ym Mhenbedw a Lerpwl adeiladodd arsyllfa iddo'i hun a dechreuodd ddatblygu ei ddiddordeb trwy dynnu lluniau rhannau o awyr y nos. Erbyn heddiw mae'n cael ei ystyried yn un o arloeswyr pwysicaf astroffotograffiaeth ac ef oedd y person cyntaf i dynnu ffotograff llwyddiannus ac enwog o nifwl Andromeda, camp a roddodd iddo gryn enwogrwydd. Ar y pryd tybiai Roberts a'r rhan fwyaf o seryddwyr ei oes bod Andromeda yn rhan o'r Llwybr Llaethog.
Bu raid aros tan 1922-23 nes i'r Americanwr, Edwin Hubble (1889-1953) ddechrau defnyddio telesgop Mount Wilson cyn y sylweddolwyd bod y bydysawd yn fwy o lawer na'r Llwybr Llaethog a bod 2.5 miliwn o flynyddoedd golau yn gwahanu'r Llwybr Llaethog ac Andromeda.
Gan Gruff Roberts