Yr ymgeiswyr (o Flwyddyn 11, 12 a 13) ar ran y gwahanol bleidiau oedd Richard Cameron (Ceidwadwyr), Leigh Jones (Rhyddfrydwyr Democrataidd), Gerallt Lyall (Llafur Newydd) ac Ynyr Llwyd (Plaid Cymru). Bu'r ymgeiswyr yn gosod eu polisiau o flaen disgyblion eraill yr ysgol yn y gwasanaethau blwyddyn yn ystod yr wythnos flaenorol. Braf oedd gweld y disgyblion i gyd yn dangos diddordeb a gwrando'n astud ar yr ymgeiswyr fel bod pawb yn gwybod yn union yr hyn oedd pob ymgeisydd yn sefyll drosto cyn mynd ati i bleidleisio. Bu pleidleisio brwd ar y bore Mercher, gyda phapurau pleidleisio pwrpasol wedi eu paratoi ar gyfer yr achlysur. Dyma ffordd ardderchog i ddysgu'r disgyblion sut i bledleisio a pham ei bod mor bwysig ein bod i gyd yn defnyddio ein hawl i bleidleisio. Wedi'r pleidleisiau gael eu cyfri, cyhoeddwyd y canlyniadau yn ystod yr awr ginio fel a ganlyn: Ynyr Llwyd (Plaid Cymru) - 331 pleidlais. Richard Cameron (Ceidwadwyr) -159 pleidlais. Leigh Jones (Rhydd. Dem.) - 105 pledlais. Gerallt Lyall (Llafur Newydd) - 84 pleidlais. Llongyfarchiadau Ynyr! Diolch i'r holl ymgeiswyr am wneud yr etholiad yn un diddorol a bywiog. Diolch hefyd i bawb a fu wrthi'n ddygn yn cyfri'r pleidleisiau ac yn trefnu'r cyfan mor ddeheuig.
|